Pryder hunan-niweidio Carchar Caerdydd yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Cardiff PrisonFfynhonnell y llun, David Goddard

Mae hunan-niweidio yn parhau yn bryder mawr yng Ngharchar Caerdydd, ble mae tri achos o hunanladdiad wedi bod o fewn blwyddyn, yn ôl adroddiad.

Dywedodd y Bwrdd Monitro Annibynnol hefyd bod pryderon am anghyfartaledd yn nifer y carcharorion o gefndiroedd lleiafrifol sydd wedi eu labelu fel rhai peryglus.

Er hynny, mae'r adroddiad blynyddol yn llongyfarch staff am ymdrechion i atal Covid-19, ond yn nodi mwy o ddefnydd o rym corfforol.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod y carchar yn "ddiogel ar y cyfan", a bod achosion o hunan-niweidio wedi cwympo dros y flwyddyn.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod carcharorion o dras Caribïaidd yn fwy tebygol o gael eu cadw ar wahân.

Yn ôl y Bwrdd Monitro, does dim ymchwiliad i achos hynny, er i'r un mater gael ei grybwyll mewn adroddiadau blaenorol.

Mae achosion treisgar yn parhau'n isel, ond mae hunan-niweidio yn parhau'n bryder i'r bwrdd, gyda'r adroddiad yn codi pryderon am iechyd meddwl carcharorion yn y cyfnod clo.

Rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020, fe wnaeth achosion gynyddu i 449 o'i gymharu â 301 yn yr un cyfnod y flwyddyn cynt.

Yn ail hanner y flwyddyn, roedd y nifer yn sylweddol is - 263 - o'i gymharu â 406 y flwyddyn cynt.

Roedd bron i draean o'r achosion yn ymwneud â chyfran fach o garcharorion, gydag un yn benodol yn gyfrifol am 8% o'r digwyddiadau.

Llai o gyffuriau

Ond mae gan y bwrdd bryderon am y tri achos o hunan-laddiad, gan gynnwys un mewn adran ble mae carcharorion yn ynysu ar ôl cyrraedd.

Roedd 'na gynnydd bychan yn yr achosion oedd angen defnydd o rym corfforol, ond fe wnaeth achosion o ganfod cyffuriau anghyfreithlon gwympo ar ôl i ymweliadau stopio oherwydd y pandemig.

Mae pryderon hefyd am lefelau staffio yn y carchar.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod y carchar yn "ddiogel ar y cyfan", a bod staff yn cynnig "system deg" er gwaethaf heriau'r pandemig.

Ychwanegodd y llefarydd bod achosion o hunan-niweidio wedi cwympo dros y flwyddyn, a bod tîm wedi ei sefydlu i helpu'r rhai mwyaf bregus.

Pynciau cysylltiedig