Gwleidyddion am i'r Awyrlu wneud mwy i leihau sŵn

  • Cyhoeddwyd
Beechcraft T-6C TexanFfynhonnell y llun, Textron Aviation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awyrennau Texan T1 yn cael eu defnyddio i hyfforddi peilotiaid yn RAF Fali

Mae dau aelod seneddol Gwynedd wedi galw ar yr Awyrlu i weithredu wedi cynnydd yn y cwynion am sŵn awyrennau yn yr ardal.

Mae'r cwynion gan bobl leol yn ymwneud ag awyrennau hyfforddi y Texan T1 sy'n hedfan o ganolfan y Fali ar Ynys Môn.

Yn ôl Huw Jones o Lanllechid ger Bethesda, un o'r rhai sydd wedi cwyno, mae'r sŵn wedi gwaethygu'n ddiweddar.

"Y munud 'da chi'n agor y ffenest, mae sŵn yr awyren yn eich clustiau chi drwy'r dydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hywel Williams fod cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion ers dechrau'r pandemig

Mae aelod seneddol Arfon, Hywel Williams, yn dweud ei fod o wedi cael sicrwydd dros flwyddyn yn ôl y byddai offer diogelwch yn cael ei ychwanegu i'r awyren, fel ei bod hi'n gallu hedfan yn ddiogel uwchben y môr.

Ond dydi hynny ddim wedi digwydd.

"Mae angen i'r RAF hyfforddi eu peilotiaid wrth gwrs, " meddai.

"Ond mae'n hen bryd iddyn nhw weithredu a rhoi sylw iawn i'r effaith ar bobl leol ac economi ymwelwyr yn Eryri, sydd eisoes yn dioddef oherwydd y pandemig.

"Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyfaddef nad yw'r awyrennau hyn yn gallu gweithredu'n llawn dros ddŵr - sy'n codi'r cwestiwn, pam ar y ddaear y gwnaethon nhw eu prynu fel hyn yn y lle cyntaf, yn enwedig o gofio bod eu prif ganolfan ar ynys, wedi'i hamgylchynu gan ddŵr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Awyrlu fod gwneud y newidiadau i'r awyren yn "flaenoriaeth"

Mae Mr Williams ac aelod seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion am y sŵn, yn arbennig ers dechrau'r cyfnod clo, gyda mwy o bobl yn gweithio o adref.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awyrlu fod gwneud y newidiadau i'r awyren yn "flaenoriaeth" ond nad oedd modd dweud pryd yn union fyddai hynny'n digwydd.

Pynciau cysylltiedig