Cwyno am sŵn awyrennau hyfforddi newydd Awyrlu'r Fali

  • Cyhoeddwyd
Yr Awyrlu
Disgrifiad o’r llun,

Mae 10 o awyrennau Texan T1 Turboprop erbyn hyn yn safle'r Awyrlu yn Y Fali

Mae nifer cynyddol o gwynion gan drigolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn ynglŷn â'r sŵn o awyrennau hyfforddi newydd sy'n hedfan o safle'r Awyrlu yn Y Fali.

Dechreuodd yr awyrennau Texan T1 Turboprop gael eu defnyddio yn Y Fali ym mis Chwefror, a'r disgwyl ydy y bydd 'na ddefnydd cynyddol ohonyn nhw yn ystod y misoedd nesaf.

Maen nhw i'w clywed ym Môn, Arfon, ac hyd at Bwllheli a Phorthmadog.

"Maen nhw fatha cacwn mewn pot jam, yn mynd rownd a rownd," meddai Alwyn Evans, sy'n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon.

"Dwi wedi cael llond bol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa bellach "yn fwrn" medd Alwyn Evans

Mae nifer o bobl wedi mynegi eu rhwystredigaeth ar wefannau cymdeithasol, ac mae nifer wedi gwneud cwynion swyddogol am y sŵn.

Mae 'na 10 o'r awyrennau yn Y Fali bellach, ac maen nhw'n cael eu defnyddio i hyfforddi peilotiaid cyn iddyn nhw symud ymlaen i ddefnyddio awyrennau Hawk.

Mae'r gwaith hyfforddi yma'n cael ei symud o safle yn Swydd Efrog i Ynys Môn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn y broses o foderneiddio'r system hyfforddi hedfan milwrol, gan drosglwyddo'r holl hyfforddiant jets cyflym yn y Deyrnas Unedig i safle'r Fali.

Wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, dywedodd bod disgwyl i'r gwaith hedfan ddigwydd dros ardal fwy eang nag ar hyn o bryd, a hynny dros dir a môr.