Amser sgrîn: 'Dod ag anghenfil i mewn i'r tŷ'

  • Cyhoeddwyd
Dr Angharad RudkinFfynhonnell y llun, Angharad Rudkin

"Mae rhieni'n siarad am 'ddod ag anghenfil i mewn i'r tŷ' wrth i'r plant gael dyfais newydd ac mae llawer yn teimlo fod amser sgrîn eu plentyn allan o reolaeth erbyn hyn."

Mae hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant ac un o effeithiau mwyaf y cyfnod clo ar blant a phobl ifanc yw'r cynnydd mawr mewn defnydd sgrîn.

Mae Dr Angharad Rudkin MA yn Seicolegydd Clinigol sy'n arbenigo mewn amseroedd sgrîn a'i effaith ar ddatblygiad plant.

Bu'n rhannu ei chyngor gyda Cymru Fyw.

Mae defnydd pobl ifanc o sgrîn wedi bod yn bwnc dadleuol ers blynyddoedd. Roeddem yn arfer dadlau a oedd amser sgrîn yn dda neu'n ddrwg, ond mae'r sgwrs wedi symud ymlaen i ba FATHAU o amser sgrîn sy'n dda ac yn ddrwg.

Mae amser sgrîn yma i aros bellach, ac mae'n plant ni'n methu dychmygu bywyd hebddo.

Cyn y cyfnod clo, roedd nifer o rieni'n teimlo'n bryderus am amser sgrîn eu plentyn.

Erbyn hyn, gan fod addysg wedi digwydd ar-lein yn y cyfnod clo, mae amser sgrîn hyd yn oed yn fwy o bryder i rieni, gyda nifer yn cydnabod fod amser sgrîn y plant wedi bron i ddyblu.

Rydyn ni i gyd wedi cael ein catapwltio i fywydau sy'n ddibynnol iawn ar sgrîn. Er nad yw hyn yn ddelfrydol, mae angen i ni gofio nad yw pob amser sgrîn yn ddrwg.

A be' sy' angen cofio yw fod angen i ni weithio'n galed fel rhieni i greu cyfleoedd heblaw sgrîn ar gyfer ymlacio, chwarae a chyfathrebu.

Mae hefyd angen i ni feddwl am gyd-destun a chynnwys yr amser sgrîn.

  • Cyd-destun -Ydy eich plentyn yn eistedd ar eu pennau eu hunain, wedi'u hynysu yn eu hystafelloedd, yn treulio oriau ar eu sgrîn? Neu a yw'r amser sgrîn yn rhywbeth maent yn ei wneud gyda phobl eraill o'u cwmpas ac yn siarad amdano yn agored?

  • Cynnwys - Ydy'r hyn y maent yn edrych arno yn gytbwys, yn addas i blentyn ac yn ysbrydoledig? Neu a yw'n gynnwys treisgar, ffug gyda delweddau afreal?

Newid byd

Mae plant a phobl ifanc wedi byw bywyd sy'n bell o'r hyn maen nhw wedi arfer ag ef yn ystod y cyfnod clo. Mae'n hollol naturiol y byddant yn teimlo'n fwy pryderus a trist.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gall y teimladau hyn ffrwydro allan drwy strancio neu colli tymer.

Er bod rhai o'r teimladau hyn yn gysylltiedig â sgriniau, bydd llawer o'r teimladau yn dod o unigrwydd a diflastod y cyfnod clo, y pryder am y dyfodol a'r rhwystredigaeth o weld yr un bobl o ddydd i ddydd.

Cofiwch siarad â'ch plentyn am ei deimladau, gan sicrhau eich bod chi'n gwrando mwy nag ydych chi'n siarad.

Gorbryder

Mae gan amser sgrîn wahanol effeithiau ar iechyd meddwl. Mae'r ymchwil wedi dangos yn glir fod mwy o amser ar gyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â lefelau uwch o bryder ac iselder.

Ond beth sy'n dod gyntaf? Ai pobl ifanc yn eu harddegau sy'n teimlo'n fwy pryderus ac isel eu hysbryd ac yn dianc i fwy o amser sgrîn, neu a ydyn nhw'n teimlo'n bryderus ac yn isel oherwydd eu bod wedi treulio cymaint o amser ar sgrîn?

Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo'n llai deniadol, poblogaidd neu glyfar ar ôl treulio llawer o amser ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'n bosib helpu'r cwymp yma mewn hunan-barch trwy annog nhw i wneud gweithgareddau maen nhw'n dda yn eu gwneud.

Mae angen i ni gofio am yr hyn dyw eich plentyn ddim yn ei wneud oherwydd ei fod ar sgrîn - dim ymarfer corff, dim cyfathrebu'n llawn ag eraill ac hefyd dyw nhw ddim yn talu sylw i'w meddyliau a'u cyrff.

Un peth dwi'n awgrymu yw gofyn i'ch plentyn sut maen nhw'n teimlo cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnod o amser ar sgrîn. Mae'n gallu eu helpu i ddatblygu hunanymwybyddiaeth a'r gallu i fonitro pan fydd angen seibiant arnynt o'r sgrîn.

'Babysitter' electronig

Yn y cyfnod clo cyntaf, llaciodd llawer o rieni y rheolau sgrîn gan fod nhw'n brysur yn jyglo gwaith a bywyd cartref, felly daeth y sgrîn yn rhyw fath o babysitter electronig.

Mae rhieni'n trio eu gorau i gyfyngu ar amser sgrîn ond oherwydd bod eu plentyn yn ymateb gyda'r fath ddicter, maent yn ildio ac yn gadael i'r plentyn gael ei ffordd.

Senario cyffredin yw plentyn yn strancio pan mae'n rhaid rhoi'r gorau i chwarae ar ei ddyfais, neu plentyn yn cripian i lawr y grisiau yn y nos i droi'r WiFi ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae llawer o fy ngwaith gyda rhieni yn ymwneud â'u helpu i deimlo'n ddigon hyderus i osod ffiniau clir a chadw atynt, a chofio bod rhoi i mewn yn y tymor byr yn creu mwy o broblem yn y tymor hir.

Effaith tymor hir

Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am effeithiau tymor hir amser sgrîn gan fod y dechnoleg mor newydd. Ond mae ymchwil wedi dangos fod mwy o risg o fod yn ordew gyda defnydd uwch o'r sgrîn.

Mae llawer o'r plant dw i'n gweithio gyda nhw hefyd yn siarad am boen cefn ac ysgwyddau wrth iddyn nhw eistedd mewn un safle trwy'r dydd.

Aml-dasgio

Mae'r genhedlaeth hon o blant yn arbenigo mewn aml-dasgio ar sgrîn. Mae pobl ifanc yn aml yn gwylio'r teledu gyda'u ffonau yn eu llaw, ac falle tabled yn eu hymyl.

Mae rhai'n poeni am effaith hyn ar allu plant i ganolbwyntio. Mae unrhyw un sy'n gweithio ar-lein yn gwybod am beryglon negeseuon yn pingio i mewn i dynnu ein sylw oddi wrth tasgau, a bydd plant yn arbennig o dueddol o wneud hyn o ystyried bod ganddyn nhw attention span byrrach yn gyffredinol.

Gall plant ddod mor gyfarwydd a stimulation cyson fel fod gwrando ar un person yn siarad, neu roi sylw i lyfr yn dod yn anodd. Gallwch chi helpu plant i ganolbwyntio mwy trwy atal alerts, dim ond cael un sgrîn wrth law ar unrhyw adeg, a gwneud ychydig o ymarfer corff cyn iddynt eistedd i lawr ar gyfer eu gwers nesaf, er enghraifft.

Cyngor

  1. Edrychwch ar eich amser sgrîn eich hun. Mae llawer o rieni yn treulio eu dyddiau ar-lein wrth weithio gartref. Ond os yw rhieni wedyn yn treulio'r noson yn edrych ar e-byst a'n diweddaru eu cyfryngau cymdeithasol, yna mae eu plant yn mynd i'w copïo. Mae plant yn dysgu o arsylwi ac yna dynwared, felly mae angen i chi fodelu'r ymddygiad rydych chi am ei weld yn eich plant.

  2. Cysylltu cyn cywiro. Mae ein perthynas â'n plant dan bwysau am ein bod yn treulio'r dydd gyda'n gilydd ac yn ceisio bod yn athro ac yn riant. Rydyn ni i gyd yn teimlo'n fwy sensitif yn gyffredinol, felly cyn i chi ddechrau beirniadu'ch plentyn am ei amser sgrîn, cymerwch eiliad i siarad gyda nhw. Gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw, beth maen nhw wedi bod yn ei wneud a sut mae'r diwrnod wedi bod. Maen nhw'n llawer mwy tebygol o wrando arnoch chi os ydych chi wedi gwneud yr ymdrech i gysylltu â nhw.

  3. Cyd-destun a chynnwys. Rydym wedi gweld pa mor bwysig yw'r ddau ffactor hyn wrth ein helpu i wahaniaethu rhwng amser sgrîn defnyddiol a llai defnyddiol. Os yw'ch plentyn eisiau chwarae gemau, eisteddwch ar y soffa gyda nhw fel y gallwch chi rannu'r profiad gyda nhw. Os yw'ch plentyn yn ei ystafell wely yn chwarae gemau, curwch ar y drws a gofynnwch iddyn nhw ar ba lefel maen nhw, gyda phwy maen nhw'n chwarae. Mae dangos diddordeb yn gadael i'ch plentyn wybod eich bod am fynd mewn i'w byd ac mae'n golygu bod gennych fwy o wybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer gosod rheolau.

  4. Rheolau teulu. Mae'n syniad da i gael cyfarfod teulu i gytuno ar yr hyn sy'n dderbyniol. Mae'r rhan fwyaf o'n rheolau amser sgrîn wedi llithro yn y cyfnod clo, felly mae'n amser da i ailedrych arnynt. Trafodwch yr hyn sy'n dderbyniol a lluniwch rai rheolau teuluol y mae'n rhaid i BAWB gadw atynt. Er enghraifft, dim sgriniau yn ystod amser bwyd, rhaid i'r holl ddyfeisiau fod i lawr y grisiau erbyn amser gwely, dim sgriniau un awr cyn cysgu.

  5. Amser bwriadol heb sgrîn. Cynlluniwch weithgareddau y gall eich plentyn eu gwneud heb sgrîn.

Yn gaeth

Mae amser sgrîn yn dod yn broblem fawr pan fydd rhieni'n teimlo fel eu bod wedi colli rheolaeth arno, ac mae sgriniau'n rheoli'r teulu yn hytrach na'r ffordd arall.

Er enghraifft, pan fydd plentyn yn ei arddegau wedi blino'n lân oherwydd ei fod ar ei ffôn tan 2am, neu pan fydd plentyn yn gwrthod dod allan am dro oherwydd nad yw am adael ei gêm.

Cydbwysedd

Y nod mwyaf defnyddiol yw cydbwysedd. Os yw'ch plentyn bellach ar sgrîn am 6-7 awr y dydd, yna mae angen cynllunio gweddill yr amser i beidio â bod ar y sgrîn.

Dwi'n gwybod pa mor flinedig mae rhieni'n teimlo ar hyn o bryd ond does dim rhaid i'r rhain fod yn weithgareddau mawr, cyffrous. Beth am gerdded, rhedeg neu gêm o bêl-droed yn y parc, pobi, crefftau neu liwio gyda'ch gilydd?

Er mwyn adennill rheolaeth mae angen i rieni ystyried y cyd-destun a'r cynnwys. Nid yw amser sgrîn o hyd yn ddrwg.

Mae plant yn gallu dysgu llawer, mynegi eu hunain a darganfod talentau cudd ar sgrîn. Mae hefyd yn ffordd o gysylltu gyda ffrindiau ar hyn o bryd.

Ond, unwaith eto, cydbwysedd yw'r gyfrinach. Os ydy plentyn yn teimlo'n eithaf pryderus yn gymdeithasol, mae'n gallu teimlo'n haws iddynt gynnal eu holl fywyd cymdeithasol ar-lein.

Nid yw hyn o fudd iddynt yn y tymor hir, felly mae angen i rieni helpu eu plentyn i gydbwyso eu bywyd ar-lein gyda'u bywyd go iawn er mwyn magu hyder yn y ddau.

Os yw plentyn wedi treulio pedair awr ar sgrîn, gall y cyfanswm o oriau fod yn fwy nag y byddai'r rhiant ei eisiau yn ddelfrydol, ond mae pob gweithgaredd yn golygu bod cydbwysedd cyffredinol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Os yw plentyn yn chwarae gemau am chwech awr ac yn treulio un awr ar wersi, yna mae angen i rieni gael sgwrs â'u plentyn am dorri lawr ar y chwarae, gan gytuno sut y bydd hyn yn cael ei wneud (ee 30 munud yn llai bob dydd) a chynnig cymhellion i newid eu hymddygiad.

Peryglon a diogelwch

Gemau a chyfryngau cymdeithasol yw'r ddau faes sy'n achosi'r pryder mwyaf i rieni.

Mae rhieni'n poeni bod eu plentyn mewn perygl o gael eu bwlio neu eu hecsbloetio. Erbyn hyn, diolch byth, mae plant yn dysgu am ddiogelwch ar-lein o oedran ifanc iawn. Yr hyn maen nhw'n cael llai o fewnbwn arno yw sut i fod yn ddefnyddiwr gwybodus o fywyd ar-lein.

O'r eiliad maen nhw'n cael mynediad i'w dyfais gyntaf, mae angen i ni fod yn siarad â'n plant am wybodaeth anghywir, hysbysebu, sut mae gemau wedi'u cynllunio i gadw'r defnyddiwr yn gaeth a sut mae delweddau ar gyfryngau cymdeithasol yn portreadu bywydau mewn ffordd afreal.

Mae angen i ni ddysgu iddyn nhw, a ninnau, sut i ddadansoddi cynnwys ar sgrîn yn feirniadol.

Yn y cyfnod clo, sgriniau fydd yr opsiwn hawdd bob amser ac mae unrhyw beth arall yn teimlo'n anoddach. Ond nid yw'n cymryd llawer o ymdrech i greu amseroedd iach a hapus heb sgrîn, i gyd-fodoli ag amser sgrîn eich teulu.

Mae Dr Rudkin, sy' wedi ei magu yn Llanberis ond bellach yn byw yn Hampshire gyda'i thri phlentyn a'i gŵr, wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl ers dros 20 mlynedd, ac mae wedi cyd-ysgrifennu llyfrau am y pwnc.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig