Cymru'n wynebu 'colli cenhedlaeth' o athletwyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Athletwr profesiynnol yn ymarfer y ystod y cyfnod cloFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond llond llaw o athletwyr sydd yn cael caniatâd i hyfforddi o dan reoliadau lefel pedwar y cyfyngiadau

Mae Cymru yn wynebu colli cenhedlaeth o athletwyr ifanc oni bai bod mwy yn cael caniatâd i hyfforddi'n ddiogel mewn cyfleusterau swyddogol.

Mae prif weithredwyr athletau, beicio, nofio a thriathlon Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn gofyn i fwy o athletwyr gael 'hawliau elît' i hyfforddi yn ystod y cyfnod clo.

Dywed Chwaraeon Cymru ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hystyried tra bod Cymru'n dal ar lefel rhybudd pedwar.

Mae'r pedwar prif weithredwr yn ofni y gallai'r rhwystrau effeithio ar berfformiadau Cymru mewn digwyddiadau mawr yn y dyfodol fel Gemau'r Gymanwlad, a'r pryder hefyd ydy y gallai rhai athletwyr ifanc adael eu camp am eu bod wedi colli misoedd o hyfforddiant.

'Angen mynediad i gyfleusterau'

"Rydyn ni'n bryderus iawn," meddai Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru, James Williams, wrth BBC Cymru.

"Mae risg wirioneddol y byddwn yn colli cenhedlaeth o athletwyr elitaidd talentog iawn am nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad i'r cyfleusterau y byddent fel arfer yn gallu gwneud."

Yr wythnos hon datgelodd nifer o redwyr benywaidd, sydd ddim ar hyn o bryd yn cael hyfforddi mewn cyfleusterau swyddogol, eu bod nhw wedi cael eu cam-drin ar lafar wrth hyfforddi ar eu pennau eu hunain mewn parciau neu ar ffyrdd.

"Wrth i gyfyngiadau lefel pedwar gael eu cyflwyno [ym mis Rhagfyr], fe wnaeth nifer yr athletwyr a gafodd ganiatâd elitaidd i hyfforddi ostwng yn sylweddol," meddai Mr Williams.

"Rydyn ni'n deall pam. Roedd y genedl mewn lle gwahanol iawn i'r hyn ydyn ni ynddo ar hyn o bryd.

"Rydyn ni nawr yn teimlo bod cyfle i ehangu'r rhestr honno i gael mynediad i rai o'r athletwyr hynny sydd â photensial Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol i'r cyfleusterau penodol hynny, cefnogaeth hyfforddi a chymorth ffisiotherapi i barhau â'u datblygiad."

Ffynhonnell y llun, Hannah Brier
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr athletwraig Hannah Brier bod unigolion wedi gweiddi negeseuon sarhaus ati tra'i bod yn hyfforddi

Mewn llythyr ar y cyd â Fergus Feeney (nofio), Beverley Lewis (triathlon) ac Anne Adams-King (beicio) at y Prif Weinidog a Chwaraeon Cymru, mae Mr Williams yn dweud eu bod yn ddiolchgar bod athletwyr sy'n anelu at Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr haf hwn yn cael hyfforddi ar hyn o bryd.

Ond maen nhw'n honni bod digon o le ychwanegol yn eu lleoliadau hyfforddi i gynyddu niferoedd tra hefyd yn cynnal eu protocolau diogelwch Covid-19.

"Mae buddsoddiad sylweddol yn mynd i mewn i gadw cyfleusterau ar agor, ond nid ydyn nhw'n cael eu defnyddio hyd eithaf eu gallu", meddai'r Prif Swyddog Gweithredol beicio, Anne Adams-King.

"Mae'n iawn i'r athletwyr elitaidd rydyn ni wedi'i nodi ar gyfer 2022.

"Ond mae'r beicwyr o dan hynny, sy'n mynd i fod ar gyfer Gemau Olympaidd 2024, maen nhw'n colli eu cymhelliant. Maen nhw'n colli eu gallu i hogi'r sgiliau hynny.

"Nid oes modd cynnal digwyddiadau ar hyn o bryd, felly mae eu hyfforddiant yn hanfodol bwysig."

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o athletwyr wybod nad oedd ganddyn nhw ganiatad i fynd i ganolfannau yn ystod y cyfnod clo diweddaraf

Mae'r Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol, a sefydlwyd gan Chwaraeon Cymru ym mis Tachwedd, yn gyfrifol am benderfynu pa athletwyr sy'n cael hyfforddi. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru.

Mae pêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi proffesiynol yn cael caniatâd i hyfforddi, ynghyd â'r rhai sy'n anelu at ddigwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo yr haf hwn.

Dywed Chwaraeon Cymru ei bod yn annhebygol y bydd cynnydd sylweddol yn nifer yr athletwyr sy'n cael caniatâd i hyfforddi tra bod Cymru yn dal i fod ar lefel rhybudd pedwar, a bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn ddifrifol.