'Gobaith erbyn y Pasg os ydy pethau'n dal i wella'
- Cyhoeddwyd
Gallai rhannau o ddiwydiant twristiaeth Cymru ailagor erbyn Pasg cyn belled â bod sefyllfa'r pandemig yn dechrau gwella, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gallu "gweld llwybr" tuag at ailagor parciau carafán a rhannau eraill o'r sectorau twristiaeth a lletygarwch erbyn mis Ebrill.
Ond rhybuddiodd bod "llawer o bethau annisgwyl wedi digwydd yn ystod [y pandemig] coronafeirws ac fe allen nhw ddigwydd i ni eto yn yr ychydig fisoedd nesaf".
Dywedodd hefyd y dylai pobl feddwl "yn ofalus iawn" ynghylch mynd ar wyliau dramor eleni.
Mewn ystod sesiwn holi ac ateb ar Facebook, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu mai 2021 "yw'r flwyddyn i fanteisio ar bopeth sydd gan Gymru i'w gynnig".
Ychwanegodd: "Rwyf yn hollol obeithio bod ar wyliau yn Sir Benfro eto eleni, ac rwy'n meddwl taw dyna'r ffordd fwyaf saff i fynd ar wyliau."
O 15 Chwefror, bydd yn rhaid i bobl sy'n teithio i'r DU o 33 o wledydd penodol dalu i dreulio 10 noson dan gwarantîn mewn gwesty.
Nod y cam yw atal lledaeniad amrywiolion newydd, mwy heintus a gafodd eu cofnodi yn wreiddiol yn Ne Affrica a Brasil. Mae gwyddonwyr yn credu y gallai'r amrywiolion hyn leihau effeithiolrwydd y brechlynnau cyfredol.
Dywed Mark Drakeford taw'r cynlluniau yma yw'r "mymryn lleiaf y mae angen i ni ei wneud".
Ychwanegodd: "Y risg yw y bydd amrywiolyn newydd yn codi yn un o'r gwledydd nad sydd ar y rhestr, ac erbyn i ni sylweddoli bod yna bobl eisoes yn y wlad o'r rhannau eraill hynny o'r byd, bod yr amrywiolyn newydd yn eu plith yn barod.
"Yn lle, dyweder, caniatáu i bawb ddod yma heb law am o'r 33 gwlad [ar y rhestr], bydde'n well gen i gael system ble ni'n dweud gall neb ddod yma - ond dyma restr fach o wledydd sy'n eithriad oherwydd ry'n ni'n sicr bod pethau yno'n saff.
"Rwy'n meddwl bydde hynny'n amddiffyniad mwy effeithiol wedi'r holl ymdrechion ry'n ni gyd wedi'u gwneud yn yr wythnosau diweddar i reoli'r feirws, bod ni ddim yn tanseilio hynny trwy bobl yn dod o rannau o'r byd ble mae'r feirws, o bosib yn dal yn cynyddu a ble gall amrywiolyn newydd fod."
Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai ryw fath o normalrwydd yn dychwelyd i Gymru yn 2021, atebodd Mr Drakeford i fod yn rhagweld gorfod parhau â'r rheolau sylfaenol weddill y flwyddyn.
Camau sylfaenol i barhau
"Llawer o'r pethau ry'n ni wedi dysgu gwneud - y pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo mygydau mewn mannau torfol - rwy'n meddwl y bydden ni'n gwneud hynny drwy gydol 2021.
"Erbyn i ni gyrraedd blwyddyn nesaf, gadewch i ni obeithio yn wir y byddwn ni mewn byd ble mae coronafeirws yn debycach i rywbeth fel y ffliw- rhywbeth allen ni orfod delio ag e bob blwyddyn ond ry'n ni'n llwyddo i ddelio ag e heb ymyrryd yn yr holl bethau sydd fwyaf pwysig i ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021