Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Cymru 21-16 Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru'r dechrau gorau i'w hymgyrch ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddyn nhw drechu Iwerddon mewn gornest agos yn Stadiwm y Principality.
Fe chwaraeodd y Gwyddelod y mwyafrif o'r gêm gydag 14 dyn ar ôl i'w blaenasgellwr Peter O'Mahony gael ei hel o'r maes yn y chwarter awr cyntaf.
Ni wnaeth y Cymry bethau'n hawdd iddyn nhw'u hunain o gwbl, ond fe fydd y fuddugoliaeth yn tynnu tipyn o'r pwysau oddi ar yr hyfforddwr Wayne Pivac a'i dîm sydd wedi bod dan y lach yn dilyn perfformiadau diweddar y crysau cochion.
Mae Cymru felly yn ail yn nhabl y bencampwriaeth, y tu ôl i Ffrainc a drechodd yr Eidal brynhawn Sadwrn.
Cerdyn coch
Wedi llai na phum munud o chwarae yn y stadiwm wag dyma Leigh Halfpenny yn llwyddo a chic gosb i setlo nerfau Cymru, gan roi'r tîm cartref ar y blaen.
Ond yn fuan wedyn daeth ymddangosiad cyntaf y blaenasgellwr Dan Lydiate ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers pum mlynedd i ben, wedi iddo droi ei ben-glin yn lletchwith mewn tacl, gyda Josh Navidi yn dod oddi ar y fainc i gymryd ei le.
Ac fe allai'r gêm fod wedi cael ei throi ar ei phen ar ôl i Peter O'Mahony weld cerdyn coch wedi 13 munud am chwarae brwnt, yn llygaid y dyfarnwr Wayne Barnes, yn erbyn prop Cymru, Tomas Francis.
Fe ymestynnodd Cymru eu mantais yn fuan wedi hynny, diolch i gic gosb llwyddiannus arall o droed Halfpenny.
Ond fe wnaeth capten y Gwyddelod, Jonny Sexton, unioni'r sgôr chwe munud cyn yr egwyl yn dilyn dau gamgymeriad gan Gymru.
Roedd lein Cymru'n sigledig dro ar ôl tro, ac ar ôl methu a chlirio unwaith eto daeth cais i'r ymwelwyr, gyda Robbie Henshaw yn rhoi'r Gwyddelod ar y blaen, a Sexton yn sicrhau'r pwyntiau llawn.
Wedi'r hanner parhau wnaeth trafferthion Cymru wrth i'r momentwm barhau gydag Iwerddon.
Fe newidiodd hynny rhyw fymryn wrth i George North groesi am gais cyntaf Cymru, ond fe arhosodd y crysau cochion er ei hôl hi wedi i ymgais Halfpenny am drosiad wyro i'r dde o'r postyn.
Er i'r Gwyddelod weithio'u ffordd yn ddestlus drwy'r cymalau, fe ddechreuodd Cymru bwyso o'r newydd, gyda sgarmes symudol a chydweithio agos, a'r gwaith caled yn talu ar ei ganfed wrth i Louis Rees- Zammit ddeifio i'r gornel, gan sicrhau ei ail gais dros ei wlad, a phum pwynt pwysig i Gymru.
Fe lwyddodd Halfpenny i drosi'n llwyddiannus y tro hwn.
Gyda momentwm tu ôl iddyn nhw daeth cic gosb arall i Gymru, gan ymestyn eu mantais dros y Gwyddelod, a oedd yn dechrau blino.
Ac fe bendiliodd y momentwm yn ôl o blaid Iwerddon, gyda Billy Burns yn sicrhau tri phwynt i'r Gwyddelod wedi camgymeriad arall gan Gymru.
Ond fe gafodd y maswr y diweddglo mwyaf anffodus wrth i'r ymwelwyr bwyso i gael cais. Fe giciodd y bêl oddi ar y cae mewn camgymeriad, gan olygu nad oedd Iwerddon yn gallu manteisio'n llawn ar gamgymeriad unwaith eto gan y tîm cartref.
Bydd Cymru'n chwarae yn yr Alban brynhawn Sadwrn nesaf, gyda'r Albanwyr hefyd yn awchu am y teitl eleni ar ôl trechu Lloegr ddoe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2021