Cwmni Stena'n hyderus o welliant wedi cwymp Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Llong fferi Stena Line ym mhorthladd Abergwaun

Mae cyfarwyddwr gweithredol cwmni Stena Line yn y DU yn dweud fod y cwmni'n parhau wedi ymrwymo i'r porthladdoedd sy'n gwasanaethu Cymru, er gwaethaf cwymp yn nifer y defnyddwyr.

Mae nifer y lorïau sy'n defnyddio'r parthau rhwng Caergybi a Dulyn ac Abergwaun a Rosslare wedi disgyn 50% ers dechrau'r flwyddyn pan ddaeth cyfnod pontio Brexit i ben.

Dywedodd Stena Line, sydd hefyd yn berchen ar borthladdoedd Caergybi ac Abergwaun, bod traffig ar y parthau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon eisoes wedi gwella o gwymp tebyg ym mis Ionawr.

Mae'r defnydd o wasanaethau uniongyrchol rhwng Iwerddon a Ffrainc wedi cynyddu'n sylweddol.

Yr wythnos ddiwethaf clywodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan bryderon bod gwaith papur newydd y tollau yn golygu bod rhai cwmnïau cludiant yn osgoi Prydain yn llwyr, gan ffafrio teithio'n syth o Iwerddon i weddill yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mynegi pryder at y cwymp mewn traffig drwy borthladdoedd Cymru.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Caergybi ydy'r ail borthladd prysuraf yn y DU

Ond dywedodd Ian Hampton, cyfarwyddwr gweithredol Stena Line UK, bod y cwmni yn "chwarae'r gêm hir dymor" a hefyd yn delio gyda chwymp yn nifer y teithwyr oherwydd cyfnodau clo coronafeirws a chyfyngiadau teithio ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon.

"Blip ydy hwn yng nghylch bywyd Stena Line. Ry'n ni wedi bodoli ers amser maith, ac mae gennym yr adnoddau ariannol i oroesi'r storm," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod bod y model busnes ar gyfer Môr Iwerddon yn un gref, ac yn un y byddwn yn brwydro'n galed i'w warchod.

"Ry'n ni wedi ymrwymo 100% i'n gwaith ym Môr Iwerddon, i'n llongau Stena Line ac i'r porthladdoedd yr ydym yn berchen arnynt.

"Os ddown ni at ganol y flwyddyn heb weld cynnydd yn y defnyddwyr o safbwynt cludiant, hyd yn oed cynnydd graddol, yna wrth gwrs fe fyddwn ni'n dechrau poeni.

"Mae'n rhywbeth y byddwn yn monitro'n ofalus, ond gyda chyfnod clo Covid hefyd, mae'n rhywbeth anodd i roi eich bys arno."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn gwybod pryd y gwelwn ni ddychwelyd at beth bynnag yw'r normal newydd. Rhaid i ni aros.

"Mae'r hyder gennym. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cwsmeriaid, gweithio gyda llywodraethau a gobeithio y gwelwn ni rhywfaint o normalrwydd yn dychwelyd o safbwynt pobl a nwyddau."

'Y daith trwy Brydain yn rhatach'

Dywedodd hefyd ei fod yn amau a fyddai teithiau uniongyrchol rhwng Iwerddon a Ffrainc yn cymryd lle traffig drwy Gaergybi ac Abergwaun yn llwyr.

"Ar y parthau uniongyrchol o Iwerddon i Ffrainc... mae'r daith yn hirach ac mae'n ddrytach. O safbwynt cwmnïau cludiant, mae'r gyrwyr yn treulio bron 24 awr ar y môr," meddai.

"Mae'r daith trwy Brydain yn rhatach ac yn gyflymach, a bydd wastad mwy o le hefyd.

"Hyd yn oed gyda'r llongau ychwanegol sy'n gweithredu rhwng Rosslare a Cherbourg, does dim ond tua 15% o'r lle sydd ar gael rhwng Dulyn a Chaergybi."