Gwyliau celfyddydol yn uno i greu digwyddiad ar y we

  • Cyhoeddwyd
Catrin Finch, Cate Le Bon, Gruff Rhys, Kiri Pritchard-McLeanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llu o artistiaid rhyngwladol yn cymryd rhan yn cynnwys Catrin Finch, Cate Le Bon, Gruff Rhys a Kiri Pritchard-McLean

Mae pedair gŵyl gelfyddydol wedi uno i greu un digwyddiad digidol arbennig, gyda'r bwriad o ddod â dipyn o gysur a gwên yng nghanol y pandemig.

Mae Gŵyl y Llais, Focus Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth wedi dod ynghyd i greu Gŵyl 2021, a fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru, Radio Wales, gwefannau'r BBC a llwyfannau eraill drwy gydol penwythnos 6-7 Mawrth.

Bydd uchafbwyntiau o ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael eu darlledu ar S4C.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies fod pob un ohonom "angen tamaid o greadigrwydd, comedi a cherddoriaeth ar hyn o bryd".

Dilyn canllawiau Covid-19

Mae pob perfformiad ac ymarfer wedi cael eu ffilmio a'u recordio yn unol â chanllawiau Covid-19 dros y misoedd diwethaf, wrth i'r pandemig orfodi theatrau a chanolfannau eraill i gau.

Mae rhestr fawr o artistiaid yn cymryd rhan yn cynnwys rhai adnabyddus fel Gruff Rhys, prif leisydd Super Furry Animals, y gantores Cate Le Bon, y gomediwraig Kiri Pritchard-McLean, a'r delynores Catrin Finch.

Ond mae'r ŵyl yn rhoi llwyfan i enwau llai adnabyddus hefyd, yn artistiaid o Gymru a thu hwnt.

Mae'r rhestr yn cynnwys cyn-enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Adwaith, cyn-enillwyr Gwobr Werin BBC Radio 2, 9Bach, Carys Eleri, enillydd Gŵyl Fringe Adelaide, ac enillydd Gwobr y BBC Sound of 2020, Arlo Parks.

Bydd amserlen yr ŵyl yn cael ei chyhoeddi'n fuan.

'Dathlu cyfoeth ein diwylliant'

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, sy'n cynnal Gŵyl y Llais: "Gobeithiwn y daw'r ŵyl ag ychydig o lawenydd i'w chynulleidfa ar ddechrau'r gwanwyn."

Dywedodd Henry Widdicombe, ar ran Gŵyl Gomedi Aberystwyth: "Er bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol a digynsail i'r sector digwyddiadau, mae digwyddiad fel hwn yn dangos bod y gymuned gelfyddydol wedi dod ynghyd o ganlyniad i'r heriau."

Yn ôl Neal Thompson o FOCUS Wales: "Yn dilyn blwyddyn dywyll ac anodd i bob un ohonom ni, rydyn yn edrych ymlaen yn fawr at ddod ynghyd a dathlu diwylliant cyfoethog ac amrywiol Cymru gyda rhaglen o gerddoriaeth a chomedi rhagorol."

Ac ar ran Lleisiau Eraill Aberteifi, dywedodd Dilwyn Davies: "Yn ystod cyfnod o wahaniad, pellter a chyfnod cloi, mae'n fwy pwysig nag erioed ein bod ni - artistiaid, cynulleidfaoedd a chriw - yn dod ynghyd i rannu a dathlu cyfoeth ein diwylliant amrywiol."