Rhaid cael 'arweiniad clir' i sioeau amaeth bach

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae Dr Edward Jones, cyn-drysorydd Sioe Môn, yn cwestiynu a fydd gwirfoddolwyr yn parhau i gefnogi sioeau bach

Mae angen arweiniad clir i drefnwyr sioeau bach amaethyddol ar sut y bydd modd eu cynnal yn ddiogel pan ddaw'r amser i ail-afael yn y digwyddiadau, yn ôl AS a chyn-weinidog amaeth.

Mae nifer o sioeau bach eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw yn cynnal digwyddiadau am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd effaith Covid-19, yn dilyn cadarnhad na fydd y Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal yn Llanelwedd.

Mae trefnwyr Sioe Barlys yn Aberteifi, Sioe Llanfyllin, Sioe Dinbych a Fflint, Sioe Nefyn a Sioe Feirch Llambed ymhlith y digwyddiadau sydd wedi cael eu canslo yn barod.

Daw wrth i drefnwyr ragweld mwy o waith trefnu yn y dyfodol er mwyn cyrraedd unrhyw ofynion pellach yn sgil y pandemig.

'Canllawiau clir'

Yn ôl Elin Jones, Aelod o'r Senedd dros Geredigion, mae hi'n bwysig fod digwyddiadau yn cael arweiniad gan y llywodraeth pan ddaw'r amser i'w cynnal eto.

"Dwi'n meddwl taw beth bydd y rheiny sydd yn trefnu digwyddiadau angen yn y dyfodol ydy arweiniad clir gan y llywodraeth ynglŷn â beth sydd yn mynd i fod yn bosib," meddai.

"Peidio gadael pethau i'r funud olaf cyn i'r llywodraeth roi gwybod i drefnyddion y sioeau.

"Dwi'n gwybod ei bod hi'n sefyllfa anodd ar hyn o bryd i roi y math yna o arweiniad, ond fel ni'n mynd mewn i'r gwanwyn ac wrth i ni gynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod mae'n bwysig fod yna ganllawiau clir sydd ddim yn rhwystr i'r sioeau bach ond sydd yn ddealladwy i bawb... beth fydd yr amodau y bydd y sioeau yn gallu ailgychwyn ynddi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sadwrn Barlys yn ddigwyddiad unigryw i Aberteifi

Mae ysgrifennydd Sadwrn Barlys, Tudor Harries, yn rhagweld y bydd hi'n fwy anodd i gynnal digwyddiadau yn y dyfodol.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o waith papur, mwy o reolau - pethau fel iechyd a diogelwch," meddai.

"Dwi'n credu i'r dyfodol, bydd mwy o reolau eto. Dwi ddim yn gweld cadw pellter yn newid er fod y brechiadau ni'n gobeithio yn mynd i fod yn llwyddiannus.

"Mae'n mynd i feddwl bydd rhaid cael lot mwy o wirfoddolwyr i helpu. Mae'n mynd i fod yn dipyn mwy o waith i drefnu ac i gael caniatâd.

"Ydy'r awdurdodau lleol yn mynd i gefnogi digwyddiadau fel hyn?"

Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o waith trefnu a bydd angen mwy o wirfoddolwyr yn y dyfodol, meddai Tudor Harries

Mae Sioe Feirch Llambed wedi ei chynnal ers dros 50 mlynedd, ac mae'r cadeirydd John Green yn siomedig na fydd hi'n cael ei chynnal eleni eto.

"Roedd hi yn siom, ond doedd dim gobaith gyda ni i gynnal y sioe yn ôl y cyfyngiadau," meddai.

"Ni'n hunain fel pwyllgor yn colli allan yn ariannol ac ni'n colli allan am nad yw pobl yn medru cwrdd â'i gilydd, a hefyd mae'r cystadleuwyr yn colli allan wrth arddangos eu ceffylau.

"Gobeithio allwn ni ddod 'nôl blwyddyn nesaf neu fyddwn ni yn colli y gymdeithas ac mae'n dipyn o job i ailgodi rhywbeth fel hyn 'nôl ar ei thraed.

"Ni'n gobeithio gallwn ni gael sioe blwyddyn nesaf a'i gwneud hi yn bumper sioe fel mae'r Sais yn gweud."

Disgrifiad,

"Gweithio, cysgu, a chodi - s'dim byd i edrych mlân i"

Yn draddodiadol, Sioe Nefyn yw'r cyntaf i gael ei chynnal yn y calendr amaethyddol ym mis Mai, ond fydd hi ddim yn cael ei chynnal eleni.

Mae ysgrifennydd cyffredinol y sioe, Eirian Lloyd Hughes yn gobeithio y bydd modd denu gwirfoddolwyr newydd i gynorthwyo gyda'r gwaith trefnu yn 2022.

"Pan mae yna doriad, mae pobl yn mynd i ffwrdd i wneud pethau gwahanol," meddai.

"Os oes yna rywun lleol neu rywun sydd â diddordeb mewn ymuno 'efo ni i gynnal sioe, 'da ni yn mynd yn hŷn fel pwyllgor ac mi fasai'n wych cael pobl ifanc brwdfrydig i ddod atom ni.

"'Se ni wrth ein boddau i gael dŵad yn ôl blwyddyn nesaf i gael sioe arbennig."

'Ddim yr un peth am flynyddoedd'

Ond mae Ms Hughes hefyd yn rhagweld y bydd natur sioeau amaethyddol yn gorfod newid yn y dyfodol.

"Mae'n bosib mai dim ond rhywbeth allan ar y cae fedran ni gynnal, wedyn mae hynny yn gwneud i ffwrdd â'r pebyll, a'r cynnyrch a'r coginio," meddai.

"Mae'n dibynnu beth fydd y rheolau blwyddyn nesaf pan ddown ni nôl."

Yn ôl Mr Green o Sioe Feirch Llambed, mae hi'n annhebygol y bydd sioeau yn medru cael eu cynnal yn yr un modd am "flynyddoedd".

"Gobeithio gallwn ni gynnal sioe blwyddyn nesaf, a dwi'n siŵr bydd rheolau gyda ni a fydd pob un yn gorfod gwisgo mwgwd," rhybuddiodd.