Richard Harrington: 'Mae galar yn gallu gripio ynddo ti'

  • Cyhoeddwyd
Richard HarringtonFfynhonnell y llun, S4C

"I fi roedd marwolaeth Mam 'di effeithio fi ar sail o'n i ddim wedi sylweddoli - ar lefelau eitha' syml, yn syth ar ôl iddi farw, o'n i ddim yn gallu delio gyda tasgau syml fel rhoi sbwriel allan neu ateb y ffôn neu jest edrych pobl yn y llygaid a dweud helo..."

Galar a'i effaith ysgytwol ar bobl oedd un o'r themâu wnaeth ddenu'r actor Richard Harrington at ei gyfres ddiweddaraf Fflam ar S4C. Bu'r actor yn siarad â Cymru Fyw am effaith colled ei fam arno ac am ei fywyd yn y cyfnod clo, pan ddaeth y gwaith actio i ben a dechreuodd reidio beic dros Deliveroo.

Yn y gyfres ddrama Fflam mae Richard yn chwarae rhan Tim, dyn a laddwyd mewn tân yng Nghaeredin ac sy'n ymddangos fel ysbryd o'r gorffennol ym mywyd ei wraig Noni.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Richard gyda Gwyneth Keyworth a Memet Ali Alabora yn Fflam

Dywedodd Richard: "'Oedd Fflam yn ddiddorol iawn achos 'oedd hi'n gyfres oedd yn delio â person ar goll. 'Oedd hwnna'n ddiddorol i fi, hefyd 'oedd e'n delio efo hunaniaeth anghywir a menyw yng nghanol galar.

"Collais i fy mam yn 2014 so dw i bach yn obsessed gyda galar. Mae bywyd lot yn haws nawr ond 'nath e gymryd amser hir i fi ddelio gyda fe.

"Mae galar yn gallu gripio ynddo ti pan ti'n disgwyl e lleiaf.

"Oedd marwolaeth Mam ddim yn annisgwyl - gath hi gancr ac oedd e'n sioc mawr pan gath hi'r prognosis ond 'oedd naw mis 'da ni i ddelio gyda fe. Wedi dweud hynny ti ddim yn rili delio gyda dim byd am gwpl o flynyddoedd ar ôl.

"Gath hi naw mis o hapusrwydd rili, doedd hi ddim mewn poen, doedd hi ddim wedi cymryd unrhyw gyffuriau i ddelio gyda poen ac 'oedd hi'n pretty lucid nes y diwrnod cyn [ei marwolaeth].

"Ac 'oedd pawb gyda hi ar y pryd so oedd y marwolaeth ei hun yn paradoxically weddol hapus. 'Oedd pawb yn bles, 'oedd mam wedi dod at ddiwedd ei bywyd ac yn gallu bod gyda'r bobl oedd yn meddwl lot iddi hi a gwybod bod hi wedi gwneud job da."

Mae'r ddrama Fflam yn dangos yr effaith mae galar yn gallu ei gael ar ymddygiad, rhywbeth oedd yn canu cloch gyda Richard yn arbennig: "O'n i ddim yn sylweddoli [yr effaith ar fy ymddygiad] ar y pryd - gyda hindsight dw i'n edrych nôl a gweld o'n i'n ymddwyn yn od.

"O'n i hefyd yn gweithio'n galed ar ôl marwolaeth Mam a tua blwyddyn a hanner ar ôl iddi farw ges i breakdown llwyr.

"Y rhesyme dw i'n dweud hyn sy'n gysylltiedig efo Fflam, yw bod pobl yn gallu gweld bod ti'n ymddwyn bach yn od ond s'ym unrhyw un rili yn dweud unrhyw beth.

"Ar y pryd on i'n gweithio lot ac yn gweithio'n galed iawn, nes i daflu fy hunan mewn i gwaith, nes i daflu fy hunan mewn i rhedeg, nes i daflu fy hunan mewn i lles fy mhlant.

"Ond wrth edrych nôl o'n i ddim yn garedig iawn i fy hunan, o'n i ddim yn rhoi lot o le i fi feddwl yn iawn.

"Wi'n credu bod hwnna i'w weld yng nghymeriad Noni - achos pan ni'n deall ei stori hi yn y bennod gyntaf mae'r galar yn amlwg - achos 'oedd hi moyn gweld ei gŵr.

"Mae'n eitha syml rili - mae cymeriad Noni eisiau gweld gwyneb ei gŵr hi yn bopeth - yn y cymylau neu fflamau nwy yn y gegin.

"Mae angen iddo fe fod yn bresennol. Falle fod cymdeithas yn meddwl bod hi'n eitha' gwallgof ond nes i ddim."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Oedd Fflam yn ddiddorol iawn achos 'oedd hi'n gyfres oedd yn delio â person ar goll"

Y pandemig

Mae Richard yn credu fydd nifer yn uniaethu gyda themâu y ddrama fel canlyniad i'r pandemig: "Mae silent killer wedi bod yn ein plith ac mae lot o bobl wedi marw. Ac hefyd colli cyswllt a bod ni fel cenedl ddim yn gallu gweld ein gilydd...fi wedi gweld fy nhad i falle unwaith mewn blwyddyn.

"Fel perthynas efo 'nhad mae fi a 'nhad yn ffein iawn ond ni ddim yn gweld ein gilydd lot - ond y ffaith bod ddim y dewis gyda fi, fi'n gweld ishe fe lot."

Cafodd y gyfres ei ffilmio yn Tachwedd a Rhagfyr 2020 gyda holl gyfyngiadau'r cyfnod clo yn effeithio ar y broses: "Mae'r holl ffordd ni wedi bod yn ffilmio 'di newid. O'n i ddim yn gwybod pwy oedd pwy achos oedd pawb yn gwisgo masks ac yn cael ein testio bob tri diwrnod."

Y cyfnod clo

Fel nifer o actorion, roedd hi'n flwyddyn anodd llynedd i Richard gyda'i brosiectau ar gyfer y gwanwyn a'r haf yn cael eu canslo oherwydd y pandemig: "Nes i ddim byd rhwng mis Mawrth a mis Medi o gwbl.

"Ges i job efo Deliveroo - o'n i'n mynd o gwmpas ar fy meic yn rhoi takeaways i bobl yn Llundain.

"Fi fel arfer yn weddol ffit ond 'wnaeth y locdown cyntaf droi mewn i lock-in.

Disgrifiad o’r llun,

Un o rannau mwya' enwog Richard, sef y Ditectif Brif Arolygydd Tom Mathias yn Y Gwyll

"Felly o'n i'n ddiolchgar iawn bod fi'n gallu mynd ar fy meic bob dydd. Eleni sa'i di yfed dim byd ers Nadolig. Does dim peer pressure achos s'neb yn mynd mas, dyw tafarnau a restaurants ddim ar agor. So fi 'di mynd i'r ochr arall.

"Dwi ddim 'di neud unrhyw beth eleni eto [o ran gwaith]. Ond mae pethe yn dod lan."

Bywyd newydd

Ond mae bywyd ar fin newid a phrysuro eto i Richard eleni gyda'i bartner, yr actores Hannah Daniel, yn disgwyl eu hail blentyn: "Ni wedi neud plentyn arall yn ystod y locdown ac mae fe'n cyrraedd ym mis Hydref. Bydd pedwar o blant 'da fi wedyn..."

Gwyliwch Fflam ar S4C ar nos Fercher am 9 o'r gloch neu ar iplayer

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig