Tywydd rhewllyd: Gohirio gemau Abertawe, Casnewydd a Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae gemau Abertawe, Casnewydd a Wrecsam y penwythnos hwn wedi cael eu gohirio o ganlyniad i'r tywydd rhewllyd.
Roedd Abertawe a Chasnewydd i fod yn chwarae oddi cartref yn Lloegr ddydd Sadwrn - Yr Elyrch yn Sheffield Wednesday, a'r Alltudion yn erbyn Port Vale yn Stoke.
Mae'r ddwy gêm wedi'u canslo oherwydd bod y caeau wedi rhewi, a gyda rhagor o rybuddion am eira a rhew mewn grym i ogledd Lloegr ddydd Sadwrn mae'r meysydd yn annhebygol o ddadmer mewn pryd.
Notts County oedd i fod yn ymweld â'r Cae Ras, ond dywedodd Wrecsam bod y cae wedi rhewi yn dilyn tymereddau o hyd at -7 yn ystod yr wythnos.
Roedd degau o gemau yn y Bencampwriaeth, Adran Un ac Adran Dau wedi'u gohirio erbyn prynhawn Gwener, ac mae disgwyl y bydd rhagor yn cael eu gohirio cyn prynhawn Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021