Mourinho yn cwestiynu neges cyfryngau cymdeithasol Bale
- Cyhoeddwyd
Dywed rheolwr tîm pêl-droed Tottenham, Jose Mourinho, bod neges ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol Gareth Bale yn "gwrth-ddweud realiti".
Collodd y blaenwr i Gymru, sydd ar fenthyg o Real Madrid, gêm Tottenham ddydd Mercher yn erbyn Everton.
Dywedodd Mourinho fod y chwaraewr wedi gofyn am sgan ar ôl y sesiwn ymarfer ddydd Llun a hynny cyn i Bale ddweud ar ei gyfrif cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth: "Sesiwn wych heddiw."
"Roedd y neges yn gwrth-ddweud realiti," meddai Mourinho.
Nid yw Bale, 31, wedi llwyddo i gael llawer o ddylanwad ers dychwelyd i'r Spurs ym mis Medi.
Dim ond mewn dwy gêm Uwch Gynghrair mae e wedi dechrau ac nid yw wedi chwarae i'r tîm ers 31 Ionawr.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
"Ers dechrau'r tymor wrth feddwl am bopeth, roeddwn ni'n ceisio bod yn breifat iawn... ond teimlais bod angen i fi ymateb i'r sefyllfa," meddai Mourinho ddydd Gwener.
"Efallai mai rhywun arall oedd yn gyfrifol am y neges, 'dwi ddim yn gwybod. Ond roedd y post yn dweud 'sesiwn hyfforddiant wych - rydw i'n barod' ac roedd hynny'n hollol anghywir.
"Fe gafodd Bale sgan, ond ni ddangosodd y sgan yr un anaf ond roedd ei deimladau dal yna ac fel hyfforddwyr, pobl chwaraeon gwyddonol a phobl feddygol, allwn ni fyth mynd yn groes i deimladau achos mae teimladau'r chwaraewr lot yn fwy pwysig na ni i gyd.
"Doedd e ddim yn barod ar gyfer y gêm. Mae mor syml â hynny."
Mae Tottenham yn wynebu Manchester City ddydd Sadwrn.
"Os fydd e'n barod fory, mae wedi ei ddewis ar gyfer fory," meddai Mourinho.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd19 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020