Arestio trydydd dyn wedi achos o saethu at dŷ
- Cyhoeddwyd
Mae trydydd dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad ble cafodd gwn ei danio i gyfeiriad tŷ yng Nghwm Cynon.
Cafodd yr adeilad yn Nhrecynon, Aberdâr ei dargedu am tua 21:30 nos Lun, 1 Chwefror.
Mae Oliver Pearce, 30 o Rydyfelin, a Ricky Webber, 28 o Porth, wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o geisio llofruddio, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu De Cymru ddydd Gwener bod dyn arall 33 oed hefyd wedi cael ei arestio dan amheuaeth o'r un cyhuddiad, a'i fod yntau yn y ddalfa hefyd.
Mae Mr Pearce a Mr Webber hefyd wedi cael eu cyhuddo o fod â dryll yn eu meddiant gyda'r bwriad o achosi ofn, bod ag arf yn eu meddiant gyda'r bwriad o beryglu bywyd, a bod ag arf yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2021