Ceffylau a'u perchnogion yn dioddef yn sgil Covid
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnod clo wedi cael effaith andwyol ar geffylau a'u perchnogion, medd Amelia Rogers sy'n rhedeg Canolfan Farchogol Tal-y-garn ym Mhont-y-clun yn Sir Rhondda Cynon Taf.
Dyw'r ceffylau ddim yn cael digon o ymarfer corff, meddai, ac oherwydd diflastod mae ceffylau sydd fel arfer o natur addfwyn wedi bod yn torri offer ac o ganlyniad yn anafu eu hunain.
Fel arfer byddai'r ceffylau yn cael eu defnyddio ar gyfer rhoi gwersi y rhan fwyaf o'r wythnos ond bellach mae nhw yn eu stablau am y rhan fwyaf o'r diwrnod ac ond yn cael mynd am dro am ryw hanner awr.
Mae Covid-19 hefyd wedi cael effaith ariannol ar Ganolfan Farchogaeth Tal-y-garn ac maen nhw wedi gorfod gwerthu nifer o geffylau.
"Mae'n sefyllfa gwbl ddifrifol," medd Amelia Rogers sy'n rhedeg y ganolfan gyda'i rhieni.
Dywed y Gymdeithas Geffylau bod ysgolion marchogaeth yn hynod o bwysig i'r diwydiant marchogaeth ac mae nhw yn dweud y dylent agor yr un pryd ag ysgolion.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "eu bod yn gwneud popeth posib i ddiogelu busnesau yn ystod cyfnod anodd".
Fel arfer mae oddeutu cant o bobl yn marchogaeth y ceffylau bob wythnos yn ystod gwersi ond bellach dim ond Ms Rogers a'i thri phrentis sydd yn gofalu amdanynt.
"Dim ond unwaith y dydd ry'n ni'n gallu rhoi ymarfer corff iddyn nhw. Dyw hi ddim yn bosib eu marchogaeth i gyd ac felly mae'n rhaid i ni fynd â nhw allan mewn grwpiau fel eu bod yn defnyddio eu holl egni.
"Pan maent yn ddiflas mae nhw'n dechrau ymladd a thorri rhannau o'r arena gan gynnwys y ffens a charthenni."
Yn yr haf roedd hi'n bosib i'r ceffylau redeg yn y caeau ond yn ystod misoedd y gaeaf maen nhw wedi gorfod aros yn y stablau.
"Ry'n ni wedi gorfod gwerthu nifer o geffylau ers y cyfnod clo cyntaf gan eu bod yn rhy ddrud i'w cadw," ychwanegodd Amelia Rogers.
"Fe ddaeth y gwerthiant ag incwm i ni ond fe fydd yn rhaid i ni brynu ceffylau eraill yn eu lle pan fyddwn ni'n ailagor. Dyw hi ddim yn bosib rhedeg ysgol farchogaeth heb geffylau.
"Rwy'n poeni hefyd bod y ceffylau wedi colli eu cyhyrau gan nad ydynt wedi bod yn cael digon o ymarfer corff.
"Ymhlith problemau eraill posib mae coesau wedi chwyddo, ymddygiad at bobl a cheffylau eraill ac mae dannedd nifer o geffylau yn treulio oherwydd eu diflastod.
"Er bod cefnogaeth ariannol wedi bod yn ystod y ddau gyfnod clo dyw ein costau ni ddim yn stopio fel cost tafarndai," ychwanega Ms Rogers.
"Rhaid i ni dalu arian i sicrhau lles y ceffylau a biliau milfeddygol a hynny tra bod ein hincwm ni'n hunain yn gostwng yn sylweddol."
Gan fod pobl yn cael ymarfer corff gydag un cartref arall, mae Ms Rogers yn credu y dylai ysgolion marchogaeth gael rhoi gwersi un i un tra'n cadw pellter cymdeithasol.
Dywed Dr Mark Kennedy o'r RSPCA bod "ymarfer corff yn hynod o bwysig i les ceffylau ac fe ddylent gael padog lle mae'n bosib iddynt ymarfer yn gyson bob dydd yng nghwmni ceffylau eraill.
"Yn amlwg mae amodau'r tywydd ar hyn o bryd yn heriol - ac felly mae cael rhywun yn marchog y ceffylau yn bwysig.
"Ry'n yn galw o hyd ar y rhai sy'n penderfynu ar y cyfyngiadau i sicrhau lles anifeiliaid," ychwanegodd.
'Atal y lledaeniad'
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod £1.7bn o gyllid wedi cael ei roi i ddiogelu 125,000 o swyddi ers dechrau'r pandemig.
"Mae gostwng cyffyrddiad corfforol rhwng cartrefi i'r isafswm posib wedi bod yn gwbl hanfodol i atal lledaeniad haint coronafeirws - sydd yn helpu'r Gwasanaeth Iechyd ac yn arbed bywydau.
"Dyna pam mai'r rheol gyffredinol yng nghyfyngiadau lefel pedwar yw bod yn rhaid i bobl aros adref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020