Y trenau cyntaf ers 56 mlynedd yn stopio yn Bow Street
- Cyhoeddwyd
Mae trenau wedi dechrau defnyddio gorsaf yng ngogledd Ceredigion 56 mlynedd ar ôl i'r hen orsaf gau.
Doedd dim ffanffer wrth i'r gwasanaeth 09:12 o Fachynlleth i Aberystwyth aros yn yr orsaf am y tro cyntaf fore dydd Sul.
Cafodd yr agoriad ei gadw'n dawel am fod swyddogion yn awyddus i sicrhau na fyddai twr o selogion rheilffordd yn cael eu temtio i dorri'r cyfyngiadau.
Mae'r prosiect £8m i ailagor yr orsaf ar Linell Cambrian, sy'n cysylltu Aberystwyth a Pwllheli â Birmingham a'r Amwythig, yn ben llanw 11 mlynedd o waith.
'Annog pobl' i'w ddefnyddio
"Mae'r hwb trafnidiaeth yma wedi bod yn llafur cariad i gymaint o bobl", meddai'r cynghorydd lleol, Paul Hinge.
"Mae 'na gymaint wedi cyd-weithio er mwyn cael hwn i ddigwydd, gan gynnwys Grŵp Defnyddwyr y Rheilffordd, swyddogion Cyngor Sir Ceredigion a'r holl bartneriaethau eraill.
"Roedd hi mor bleserus gwylio'r trên cyntaf yn cyrraedd yr orsaf wedi 56 mlynedd, ond rydw i hefyd yn awyddus i annog pobl i ddefnyddio'r cyfleuster yma, oherwydd y mwyaf o ddefnydd sy'n cael ei wneud ohono y mwyaf yw'r cyfle i ni allu ehangu ar y ddarpariaeth", meddai.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Mae hon yn garreg filltir bwysig i ni a byddem wedi hoffi ei dathlu'n fwy, ond nid yw hynny'n briodol ac yn ddiogel ar hyn o bryd."
Yn ogystal â gorsaf rheilffordd mae'r safle hefyd yn gartref i orsaf fysiau newydd sydd yn gwasanaethu ardaloedd i'r gogledd o Aberystwyth.
Hwb economaidd?
Mae'r orsaf newydd wedi ei lleoli filltir o gampws arloesi newydd Prifysgol Aberystwyth ym Mhenrhyn-coch, ac mae llwybr aml-bwrpas newydd wedi cael ei chwblhau gerllaw sy'n cysylltu Bow Street gyda phentrefi cyfagos.
Gobaith y cynghorydd lleol ydy y bydd y datblygiad yma'n rhoi hwb i'r ardal.
"Er bod y gwaith yma wedi cychwyn ym mis Mawrth 2020 rydyn ni yn yr ardal yma wedi derbyn 25 cais cynllunio ar ôl blynyddoedd o beidio a chael dim un", meddai Paul Hinge.
"Os ydy hynny yn gyfan gwbl oherwydd dyfodiad yr orsaf, alla i ddim dweud, ond holl bwrpas y datblygiad yma oedd denu busnesau o safon uchel a phobl i fyw yn y rhan yma o ganolbarth Cymru, i dyfu'r economi, a chaniatáu i bobl gogledd Ceredigion i gael bywyd gwell."
"Ar ddiwedd y dydd mae hwn yn arwydd o'r ffordd rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Ceredigion", meddai Mr Hinge.
"Gallwch chi neidio ar y trên neu fws i fynd i Aberystwyth neu Fachynlleth yn hytrach na defnyddio car.
"Ydy, mae Covid yn rhwystro pobl ar hyn o bryd," ychwanegodd, "ond fe fydd hwn o fantais enfawr pan fydd pethau'n dechrau agor eto, ac fe fydd - gobeithio - yn dod a phobl i'r ardal, nid yn unig ar gyfer hamdden, ond ar gyfer gwaith."
A welwn ni fwy o orsafoedd newydd?
Mae gweinidogion a phenaethiaid rheilffyrdd Cymru yn gobeithio mai gorsaf Bow Street yw'r gyntaf o lawer o orsafoedd ledled Cymru sy'n cael eu hystyried i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae prosiect i ailagor gorsaf Sanclér yn Sir Gaerfyrddin wedi sicrhau £4.7m o gyllid Llywodraeth y DU tra bod Llywodraeth Cymru eisiau cymorth arian Llywodraeth y DU i adeiladu gorsafoedd yng Ngharno ym Mhowys, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint ac yn Nhrelái yng Nghaerdydd.
Mae gweinidogion yng Nghymru hefyd wedi cefnogi gorsaf gwerth £30m yng Nghaerdydd yn Llaneirwg.
Mae pedair gorsaf arall - tair yng Nghasnewydd ac un ym Magwyr yn Sir Fynwy - hefyd wedi cael eu hargymell gan gomisiwn a gafodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio lleddfu tagfeydd ar yr M4 yn dilyn dileu traffordd M4 newydd i'r de o Gasnewydd.
"Mae gennym ni lawer o uchelgeisiau ar gyfer ailagor nifer o orsafoedd rheilffordd a chynyddu nifer y gwasanaethau ond mae rheilffyrdd yn cael eu rhedeg gan lywodraeth y DU," meddai Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Cymru, Lee Waters.
"Rydyn ni'n sownd yn y seidins ychydig. Heb i lywodraeth y DU gytuno, nid oes gennym ni'r modd i'w cyflawni.
"Rydyn ni wedi galw am roi pwerau ychwanegol i Gymru ar gyfer seilwaith rheilffyrdd."
Dywedodd Llywodraeth y DU y gallai, a bod, Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn adeiladu ac uwchraddio gorsafoedd, yn ychwanegol at y cyllid a ddarperir yn San Steffan.
"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo £1.5bn i reilffyrdd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf," ychwanegodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth.
"Mae manyleb, caffael a rheoli gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru wedi'i ddatganoli i weinidogion Cymru ac rydyn ni'n gweithio'n agos gyda nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017