Ymosodiadau parc Abertawe: Cyhuddo dyn 27 oed

  • Cyhoeddwyd
Entrance to Singleton parkFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi bod yn cadw golwg ar ardal Parc Singleton

Mae dyn 27 oed o Abertawe, sydd wedi'i gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ferched, wedi cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae Oliver Smith yn wynebu 10 cyhuddiad o gyffwrdd menywod mewn modd rhywiol yn fwriadol, un o gyffwrdd merch o dan 13 oed ac un arall o geisio cyffwrdd menyw.

Clywodd Llys Ynadon Abertawe fod y troseddau honedig wedi digwydd dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn ardaloedd Parc Singleton a Llandeilo Ferwallt yn y ddinas.

Nid oedd unrhyw un yn cynrychioli Mr Smith yn y llys.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron ar 15 Mawrth.

Pynciau cysylltiedig