Gething: Cyfnod clo 'wir wedi gweithio', ond angen pwyllo cyn llacio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Caerdydd

Mae'r cwymp yng nghyfraddau trosglwyddo Covid-19 yng Nghymru yn dangos bod mesurau'r cyfnod clo "wir wedi gweithio", yn ôl y gweinidog iechyd.

Er hynny, dywedodd Vaughan Gething bod effaith y cynllun brechu ar niferoedd achosion yn llai clir hyd yma.

Yn siarad yng nghynhadledd y llywodraeth, dywedodd bod cyfraddau positifrwydd profion "o dan 10%", ond ein bod "dal ymhell o'r lefelau isel iawn" a welwyd ddiwedd yr haf diwethaf.

Wrth i'r ffigyrau barhau i gwympo, dywedodd y byddai'n rhoi "mwy o le i wneud penderfyniadau yn y dyfodol, gan wybod bod y rhan fwyaf o'n pobl fregus wedi cael rhywfaint o amddiffyniad gan y brechlyn".

Mae bron i chwarter poblogaeth Cymru wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn coronafeirws erbyn hyn, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Ond dywedodd Mr Gething y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dymuno aros yn hirach cyn llacio'r cyfyngiadau.

Dywedodd mai "pryder mwyaf y mwyafrif helaeth o bobl ydy dod allan yn rhy sydyn a'r feirws yn dod yn ôl".

vg
Disgrifiad o’r llun,

Bu Vaughan Gething yn ateb cwestiynau'r wasg yn y gynhadledd ddydd Llun

Mae 'na "bethau bach" yn cael eu hystyried gan y llywodraeth er mwyn llacio'r cyfyngiadau, ond nid oedd Mr Gething am fanylu.

Mae disgwyl adolygiad o'r cyfyngiadau ddydd Gwener, ond dywedodd na fydd "agor ar raddfa eang a lot o gymysgu rhwng cartrefi".

Cael plant yn ôl i'r dosbarth ydy'r flaenoriaeth, meddai.

Er ei hyder yn y cyfnod clo diweddaraf, ychwanegodd Mr Gething bod amrywiolion Covid-19 yn golygu bod angen cynllun pwyllog wrth lacio.

"Amrywiolyn Caint yw amrywiolyn mwyaf amlwg y feirws nawr yng Nghymru," meddai.

"Mae'r amrywiolion yma wedi ychwanegu elfen arall i'r pandemig.

"Mae'n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ostwng lefelau coronafeirws yn ein cymunedau."

Galw am agor campfeydd

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ei fod yn gywir i bwyllo, ond ei fod yn gobeithio y gallai campfeydd agor "mewn modd trefnus".

"Mae bod mewn cyfnod clo ers mor hir wedi rhoi straen enfawr ar iechyd meddwl pobl," meddai Andrew RT Davies.

"Bydden i'n hoffi gweld ystyriaeth i agor campfeydd mewn modd trefnus er mwyn i bobl eu defnyddio i helpu eu lles meddyliol."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod yn rhaid i unrhyw lacio ar y cyfyngiadau fod yn "seiliedig ar ddata, nid dyddiadau".

Mae'n "hollol allweddol nad ydy dyddiadau'n cael eu gosod"," ychwanegodd Adam Price.

"Mae angen adeiladu'r strategaeth yn seiliedig ar ddata, nid dyddiadau, ac rwy'n credu ei bod yn allweddol bod pethau'n cael eu llacio gam wrth gam yn hytrach na phopeth ar unwaith," meddai.