Dim hawl i Gymru aros yn rhan o gynllun Erasmus+ yr UE
- Cyhoeddwyd
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud na fydd hawl gan fyfyrwyr o Gymru i aros yn rhan o gynllun astudio dramor Erasmus+.
Daw wedi i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â bod yn rhan o'r cynllun fel rhan o'r cytundeb Brexit.
Roedd gweinidogion Cymru a'r Alban wedi bod yn edrych ar yr opsiynau o ran aros yn rhan o'r cynllun, sy'n helpu myfyrwyr i astudio mewn gwledydd tramor.
Ond dywedodd llywydd Comisiwn yr UE, Ursula von der Leyen mai'r unig ffordd i Gymru fod yn rhan o'r cynllun ydy i'r DU gyfan ailymuno.
'Y DU wedi cael cynnig aelodaeth'
Mewn llythyr at aelod Almaenaidd o Senedd Ewrop, dywedodd Ms von der Leyen: "Fe wnaeth yr UE gynnig aelodaeth lawn o gynllun Erasmus+ i'r DU am y cyfraniad ariannol arferol ar gyfer gwledydd trydydd parti sy'n dymuno bod yn rhan o raglenni'r undeb.
"Yn dilyn blwyddyn o drafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU, fe wnaed y penderfyniad yn Llundain i beidio â pharhau gyda'u haelodaeth o Erasmus+."
Ychwanegodd nad oes modd i wahanol wledydd o'r DU i fod yn rhan o'r cynllun heb i'r DU gyfan fod yn aelod.
Wedi iddi ddod i'r amlwg y byddai modd i fyfyrwyr o Ogledd Iwerddon gymryd rhan yn y cynllun yn dilyn cytundeb gyda llywodraeth y weriniaeth, fe wnaeth dros 100 o aelodau o Senedd Ewrop arwyddo llythyr ym mis Ionawr yn gofyn i Gomisiwn yr UE ystyried caniatáu i Gymru ar Alban aros ynddo hefyd.
Yn dilyn ymateb y comisiwn, dywedodd yr aelod o'r Almaen oedd wedi trefnu'r llythyr, Terry Reintke nad hynny oedd yr ymateb roedden nhw'n gobeithio amdano, ond y byddai'n parhau i weithio er mwyn ceisio sicrhau bod modd i Gymru a'r Alban aros yn rhan o Erasmus+.
Cynllun Turing
Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi buddsoddiad cychwynnol o £110m mewn cynllun tebyg fydd yn cymryd lle Erasmus+, cynllun Turing.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart y bydd y cynllun hwnnw yn "rhoi'r cyfle a'r gefnogaeth i fyfyrwyr yng Nghymru i astudio a gweithio dramor".
Yn siarad yn y Senedd ddechrau'r mis hwn, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford feirniadu'r penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio parhau fel aelod o Erasmus+, gan ychwanegu fod Cymru wedi trafod opsiynau ar gyfer sefydlu cynlluniau o'r fath gyda'r Almaen ac Iwerddon.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth: "Rydym wedi bod yn glir bod cymryd rhan yn Erasmus+ er lles gorau Cymru a'r DU gyfan.
"Rydym yn parhau i archwilio'r holl opsiynau i sicrhau bod partneriaethau gwerthfawr iawn gydag Ewrop, sydd wedi'u niweidio gan benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio cymryd rhan yn Erasmus+, yn gallu parhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2018