Lle i enaid gael llonydd: Glain Rhys

  • Cyhoeddwyd
Glain RhysFfynhonnell y llun, Glain Rhys

Mae'r gantores a'r gyfansoddwraig Glain Rhys wedi rhyddhau sengl newydd Plu'r Gweunydd yn ddiweddar.

Cyn y pandemig bu'n perfformio yn sioe The Phantom of the Opera yng Ngroeg, ac yn ystod y cyfnod clo mae wedi bod yn perfformio gyda chriw o gantorion o Gymru, Welsh of the West End ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yma, mae'n trafod y lle mae'n crwydro iddo am lonyddwch ac ysbrydoliaeth i gyfansoddi, yn ei hardal enedigol yn Y Bala:

Ar ôl dod nôl o Groeg yn llawer rhy gynnar ar ôl bod yn gweithio yno am gwpl o fisoedd, fe wnes i ddod adre i'r Bala.

Dwi'n byw ynghanol nunlle, a phan dwi'n deud 'ganol nunlle', dwi'n golygu 'ganol nunlle'!

Os 'de chi'n cofio'n iawn, fe gafon ni dywydd hyfryd nôl yn haf 2020, a faswn i'n mynd am dro hir yn aml (gan bod 'ne'm byd arall i neud wrth gwrs!) at droed yr Arenig.

Ffynhonnell y llun, Glain Rhys

Mae 'na lwybr diarffordd yn mynd o le dwi'n byw at y mynydd, ac yno fyddwn i'n mynd yn aml iawn yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Mae'r man yma wedi bod yma erioed, ac mae gen i gywilydd cyfadde na wnes i sylwi arno cynt. Yn sicr roedd dod o hyd i'r lle arbennig yma yn fantais o fod adre am gyfnod hir.

Weithiau fyddwn i'n mynd i redeg yno ac eistedd am amser hir yn gwylio'r cymylau, neu ddarllen. Mae'r lle yn frith o Blu'r Gweunydd hefyd, ac anaml dwi'n eu gweld nhw o gwmpas unrhyw le arall. Mae'r golygfeydd yno yn anhygoel.

Dwi di bod yno sawl gwaith, ac mae'r Arenig wastad yn edrych yn wahanol. Wastad yn odidog, ond byth yr un peth.

Ffynhonnell y llun, Glain Rhys

Ma'n swnio'n cheesy dros ben, ond dwi'n teimlo fel mai fama dwi fod. Fama dwi fod i fodoli. Mae gan y mynydd yma ryw afael arna i na fedra i esbonio.

Yn sicr dyma ydi ysbrydoliaeth lot fawr o fy ngherddoriaeth newydd.

Hefyd o ddiddordeb: