Pryder am bron i 100 o swyddi mewn ffatri yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
AIM AltitudeFfynhonnell y llun, AIM Altitude
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cwmni AIM Altitude nad oes cymaint o alw am eu cynnyrch bellach

Mae yna ofnau y bydd hyd at 100 o swyddi yn cael eu colli mewn ffatri yn Nafen ger Llanelli.

Mae ffatri AIM Altitude yn cynhyrchu offer ar gyfer awyrennau gan gynnwys cabanau, storleoedd a cheginau.

Dywed y cwmni bod 99 o staff yn y ffatri yn Nafen bellach mewn cyfnod ymgynghorol.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni bod "haint coronafeirws wedi dod â chyfnod heriol digynsail i'r diwydiant awyrennau ac nad yw AIM Altitude yn eithriad".

Dywed y cwmni sydd â'i bencadlys yn Bournemouth ei bod eisoes wedi defnyddio "cynllun ffyrlo y llywodraeth, wedi gostwng costau ac wedi derbyn cymorth gan gyfranddalwyr ond bod y cyfnod presennol yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw ostwng y gweithlu oherwydd diffyg galw am eu cynnyrch".

Mae AIM Altitude felly wedi dechrau cyfnod ymgynghori ar y posibilrwydd o gau y ffatri yn Nafen ger Llanelli.

Ymhlith y dewisiadau i'r cwmni mae diswyddiadau a symud y gwaith i'r prif safle yn Bournemouth.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd yr AS lleol Lee Waters: "Mae rhain yn swyddi da ac rwy'n awyddus nad ydynt yn diflannu o'r ardal.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â'r cwmni er mwyn gweld beth y gellid ei wneud i gadw'r swyddi yn Llanelli."