Barnwr yn ceryddu AS am aildrydariad 'amhriodol'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod o'r Senedd wedi cael ei cheryddu gan farnwr yn Llys y Goron Abertawe am fod yn "anghyfrifol" a "gosod esiampl wael i eraill" wedi iddi aildrydar neges yn ystod achos llofruddiaeth.
Roedd Helen Mary Jones wedi aildrydar neges gan Rachel Williams - oedd hefyd gerbron y llys ddydd Iau - oedd yn mynegi gobaith y byddai rheithgor yn cael diffynnydd yn euog o lofruddiaeth.
Cafodd y neges wreiddiol ei gyhoeddi ddydd Sadwrn, a'i aildrydar gan Ms Jones yn fuan wedyn.
Fe gafwyd Anthony Williams yn ddieuog o lofruddio'i wraig. Roedd eisoes wedi cyfadde' dynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, a cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar fore Iau.
Wedi'r dedfrydu, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC nad oedd yn teimlo'r angen i ddwyn achos o ddirmyg llys yn erbyn y ddwy, ond dywedodd wrth Ms Jones fod ei "anghyfrifoldeb dybryd yn gosod esiampl wael iawn i eraill".
Dywedodd: "Rwyf o'r farn bod peryg o ddylanwadu ar reithgor yn yr achos hwn pe bydden nhw yn ymwybodol o'r neges ar Twitter. Mae dalgylch etholaeth Ms Jones yn cynnwys yr ardal lle rydym yn dewis rheithwyr, ac fe allai un o'i 8,000 o ddilynwyr wedi bod ar y rheithgor.
"Rwyf hefyd yn amau a oedd Rachel Williams yn deall arwyddocâd yr hyn y gwnaeth drydar. Dyw'r ffeithiau yn yr achos hwn yn dangos dim hanes o drais ddomestig. Roedd Anthony Williams yn dad a gŵr delfrydol am 50 mlynedd."
Darllenodd Helen Mary Jones ddatganiad i'r llys yn dweud ei bod wedi rhannu'r neges heb sylweddol nad oedd y rheithgor wedi penderfynu ar ddyfarniad.
Dywedodd: "Fy mai i yn llwyr yw nad oeddwn wedi sylweddoli bod yr achos yn parhau... rwy'n deall fod hwn yn fater difrifol iawn a hoffwn gynnig fy ymddiheuriad llawn a diffuant i'r llys.
"Gallaf sicrhau'r llys fy mod hefyd yn deall fod fy safle mewn swydd gyhoeddus yn gwneud y mater yn fwy difrifol fyth.
"Roedd aildrydar y neges yn gamgymeriad go iawn, ond rwy'n derbyn nad yw hyn yn newid y difrifoldeb. Mae'n ddrwg calon gen i, ac rwy'n ymddiheuro o waelod calon."
'Esiampl wael iawn i eraill'
Wrth siarad gyda Ms Jones a Ms Williams, ychwanegodd y barnwr: "Pe byddwn wedi gorfod dileu'r achos oherwydd hyn fe fyddai wedi costio degau o filoedd o bunnoedd, a phe byddai hynny wedi digwydd chi fyddai'n gyfrifol am hynny.
"Ni ddylech fyth tan-amcangyfrif pa mor ddifrifol y mae Llys y Goron yn ystyried trais ddomestig. Rydym yn edrych ar bob achos yn unigol. Dyna yw cyfiawnder.
"Yn eich achos chi Helen Mary Jones, rwy'n derbyn eich bod wedi ymddwyn yn ddifeddwl, ond dylai rhywun yn eich safle cyhoeddus amlwg chi ddim fod wedi gwneud hynny.
"Mae eich anghyfrifoldeb dybryd yn gosod esiampl wael iawn i eraill."
"Nid wyf yn credu bod angen dwyn achos o ddirmyg llys yn erbyn yr un ohonoch chi... byddai hynny yn gallu arwain at ddedfryd o garchar."
Gwrthododd Plaid Cymru wneud sylw ar y mater yn dilyn yr achos ddydd Iau.
'Cywilydd ar y CPS'
Yn dilyn y gwrandawiad, fe ddywedodd Ms Williams mewn neges ar-lein bod "cywilydd" ar Wasanaeth Erlyn y Goron am fynd â hi i'r llys ac am "beidio gofyn y cwestiynau cywir i sicrhau euogfarn llofruddiaeth".
Roedd y neges yn cynnwys llun ohoni gyda'i bargyfreithiwr, sy'n ymddangos fel petai'r ddwy mewn adeilad llys, sy'n groes i'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Nid ydym wedi dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un mewn cysylltiad â'r achos hwn.
"Mae unrhyw honiad o drais domestig yn cael ei drin yn ddifrifol iawn. Cafodd yr holl dystiolaeth ei chyflwyno i'r rheithgor ei ystyried, cyn iddyn nhw ddod i'w dyfarniad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021