Kenavo Byn, 'llysgennad' Cymru yn Llydaw
- Cyhoeddwyd
Ar 20 Chwefror, bu farw Byn Walters, a oedd yn rhedeg un o dafarndai enwocaf Llydaw, ymhlith Cymry a Llydawyr fel ei gilydd, Tavarn Ti Elise.
Cyfaill iddo, y gantores Lleuwen Steffan, sydd yn hel atgofion am yr 'ewythr caredig o Gymru fach' oedd bob amser yn barod i gynnig croeso, gwên a pheint o gwrw lleol.
Un o feibion Merthyr Tudful oedd Bernard "Byn" Walters. Roedd yn gwisgo'i Gymreictod fel siôl a'i lapio o amgylch unrhyw un oedd yn chwilio am gynhesrwydd yn ei dafarn yn Llydaw. Roedd croeso Byn yn chwedlonol a bydd y chwedl yn parhau.
Yn 1979 daeth Byn i Breizh (Llydaw) gyda chriw o fechgyn o dde Cymru. Yn ystod yr antur hwnnw, syrthiodd mewn cariad gyda Elise Provost o Tavarn Ti Elise, Plouie. Yn fuan wedyn daeth eu merch Morwen i'r byd a dwy flynedd yn ddiweddarach ganwyd eu mab, Dewi.
Daeth y garwriaeth i ben ond arhosodd Byn ac Elise yn ffrindiau mynwesol tan y diwedd. Penderfynwyd mai Byn fyddai'n parhau i redeg y dafarn a bu yno am ychydig dros 40 mlynedd.
Bu Byn yn weithgar yn trefnu gwersi Cymraeg i oedolion pan oedd yn ddyn ifanc ym Merthyr. Safodd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholiad Cyngor Penydarren, Merthyr Tudful yn 1972, a bu'n ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith a threfnydd gigs ym Merthyr.
Parhad o'r gwaith hwn oedd ei swyddogaeth yn y dafarn mewn ffordd. Roedd yn cyfuno diwylliannau Cymru a Breizh mewn ffordd gwbl naturiol.
"Roedd Byn yn gweld y Cymry a'r Llydawyr fel yr un bobl," medda Gareth Westacott, a oedd yn ffrind annwyl iawn i Byn ers dyddiau ysgol. "Ei gennad oedd dod â nhw ynghyd eto."
Roedd Tavarn Ti Elise yn hafan ddiwylliannol gwbl wreiddiol, yn bont rhwng Cymru a Llydaw lle roedd Byn yn gweu ei hud gyda'i straeon am Ferthyr Tudful; hanes y Celtiaid; chwedlau a thrafodaethau gwleidyddol, dadlennol.
Fo oedd Tavarn Ti Elise ac roedd o a'r dafarn yn boblogaidd iawn gyda'r Llydawyr.
Roedd llyfrau hanes y Celtiaid ar y byrddau; geiriaduron Cymraeg a Llydaweg; barddoniaeth ar y waliau a ffotos o nosweithiau'r dafarn yn y gorffennol. Roedd pethau annisgwyl a rhyfeddol yn digwydd yn Nhafarn Ti Elise achos roedd hwyl a helynt yn dueddol i ddilyn Byn Walters!
Mae degau o gerddorion o wlad y gân wedi chwarae (a chysgu!) yn nhafarn Ti Elise. Maffia Mr Huws, Dewi Prysor, Anweledig, Jamie Bevan, Aneirin Karadog, Gareth Siôn, Iwan Llwyd, Bob Delyn a'r Ebillion, Côr Dowlais, Siwsan George a Meic Stevens yn enwi dim ond rhai.
"Mae Byn Walters wedi marw gyda'r unig dafarn Cymraeg tu allan i Gymru yn y byd," meddai Meic Stevens.
"Mi wnaeth ei orau i gadw'r ffydd a diolch i bobl Plouie am ei gefnogi. Dw i wedi aros yn y dafarn bob tro oeddwn yn Llydaw, a'r band wedi cael sawl gig llwyddiannus yno."
Roedd Byn yn cynnal gigs a nosweithiau fest noz (dawnsio gwerin) gwyllt, gwirion a gwych. Mae'r hanesion fel chwedlau. Nosweithiau amrywiol, barddol, meddwol, cerddorol, gwerinol.
Ond beth bynnag oedd y digwyddiad, yr un gân fyddai'n diweddu'r noson ar amser stop tap. Dafydd Iwan yn bloeddio Yma o Hyd trwy'r speakers oedd ein seiren i rybuddio bod ein noson wir ar ben! Dim rhyfedd bod y gân honno mor adnabyddus ymhlith y Llydawyr.
Ymhlith y cannoedd o deyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol mae sawl cerddor wedi mynegi mai yn nhafarn Ti Elise y dechreuodd eu hanturiaethau cerddorol. Cerddorion Llydaweg medrus ac adnabyddus fel y gitarydd Soïg Sibéril a'r ffidlwr Christian Lemaître.
Yng ngardd Tavarn Ti Elise y croesawyd gŵyl An Erer Kozh am y tro cyntaf. Mae'r ŵyl hon bellach wedi tyfu ac wedi symud lawr y lôn i gae o faint dipyn mwy!
Erbyn hyn, mae'r ŵyl yn denu cynulleidfa o dros 200, 000 bob blwyddyn a bandiau megis y Rolling Stones a Christine and the Queens wedi perfformio yno.
Roedd Byn ar flaen y gad. Yr unig gwrw oedd o'n fodlon ei werthu oedd cwrw lleol. Yn ôl eu teyrnged ar dudalen Facebook bragdy Coreff, mae'n bosib mai Byn oedd y tafarnwr cyntaf un i werthu eu cwrw.
Mae tafarnwyr eraill wedi dilyn gweledigaeth Byn bellach a Coreff yw cwrw mwyaf poblogaidd Breizh erbyn hyn. Mawr yw eu diolch i'r bachgen o Benydarren, Merthyr.
Wrth ystyried Cymru, bydd gymaint o Lydawyr yn meddwl am Byn. Fo oedd eu cysylltiad â Chymru. Yn llysgennad heb ei ail, roedd yn wybodus, yn ddisglair ac yn hynod, hynod hwyliog.
Uwchlaw y pethau hyn i gyd oedd caredigrwydd ei groeso twymgalon. Dyna fydd yr atgof pennaf.
Roeddwn yn fy ugeiniau yn cyrraedd y dafarn am y tro cyntaf, gyda fy ngitâr a mhabell yn y car. Gofynnais i Byn lle roedd y maes gwersylla agosaf. Dw i'n cofio'i wên fawr glên wrth iddo bwyntio at ardd gefn y dafarn.
Fy mwriad oedd campio yno dros y penwythnos. Fodd bynnag, rhywsut fe drodd y penwythnos yn haf a bûm yn aros yng ngardd Tavarn Ti Elise am ddeufis. Dyna oedd croeso Byn Walters.
Roedd sesiynau cerddorol y dafarn yn gwbl unigryw gyda Byn fel dewin yn creu awyrgylch oedd yn ein hannog i rannu ein straeon, caneuon a'n hofferynnau.
Braf oedd ei gael gerllaw fel math o ewythr caredig o Gymru fach. Bydd colled mawr ar ei ôl.
Gofynnaf i chi anfon eich cariad rhithiol o Gymru i'r tir mawr at ei deulu ym mhentref Plouie. I Morwen, Dewi, Elise, Goulwen, Glen, Awena a'r teulu oll.
Kenavo Byn.
Hefyd o ddiddordeb: