Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Gorseinon
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 84 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Gorseinon wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Gareth Evans wedi i'r gar Honda fod mewn gwrthdrawiad gyda Jaguar ar Ffordd Abertawe am tua 11:15 ar fore 23 Chwefror.
Bu Mr Evans yn briod gyda'i wraig Maureen am 58 mlynedd, ac mae hi a'u mab Kevin wedi rhoi'r deyrnged.
"Roedd yn ŵr cariadus a gofalgar, yn dad ac yn daid balch iawn i Matthew," meddai'r datganiad.
"Roedd yn gyn-filwr a wnaeth ei wasanaeth cenedlaethol gyda Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
"Roedd yn caru chwaraeon ac yn gyn-ddyfarnwr gydag Undeb Rygbi Cymru, ac roedd bob tro'n cefnogi tîm Cymru... byddai wedi edrych i lawr wrth ei fodd gyda chanlyniad dydd Sadwrn.
"Ei gariad arall oedd Yr Elyrch a bu'n cefnogi'r clwb am dros 70 mlynedd... roedd wrth ei fodd pan welodd Abertawe'n cyrraedd yr Uwch Gynghrair ac mor falch bod y ddinas a'r wlad wedi dod yn adnabyddus drwy'r byd.
"Bydd colled enfawr ar ei ôl."
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion a welodd y gwrthdrawiad i ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100063986.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2021