Adam Price: 'Nid yw Prydain yn gweithio i Gymru bellach'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price yn paratoi am ei etholiad datganoledig cyntaf fel arweinydd Plaid Cymru

Mae'r pandemig wedi datgelu "tlodi eithafol" ac "elit llygredig" Prydain, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Mewn araith i gynhadledd ei blaid, fe fydd Adam Price yn dweud bod Cymru'n wynebu "moment o wirionedd".

Mae Plaid eisiau cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru os ydyn nhw'n ennill etholiadau'r Senedd ym mis Mai.

Ond byddai'n rhaid cael caniatâd San Steffan am bleidlais.

Fe fydd Mr Price hefyd yn dweud bod gan ei blaid gynllun i drechu tlodi yn dilyn y pandemig.

Yn ei araith, fe fydd yn cyfeirio at ymchwil sy'n awgrymu bod llai na hanner gweithwyr gofal Cymru yn derbyn cyflog byw go iawn, a bod 70,000 o blant mewn tlodi yn colli allan ar brydiau am ddim yn yr ysgol.

Bydd hefyd yn cyfeirio at ffrae dros y cynllun ffyrlo rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn yr hydref.

Mae Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP, ac Adam Price am weld annibyniaeth i'r Alban a ChymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP yn Yr Alban, ac Adam Price eisiau torri'n rhydd o Lywodraeth y DU

Ar y pryd, fe wnaeth Llywodraeth y DU gynyddu'r cymhorthdal pan gyhoeddwyd bod Lloegr yn mynd yn ôl dan glo, hanner ffordd drwy cyfnod clo yng Nghymru.

"Nid yw Prydain yn gweithio i ni bellach - nid yw cenhedlaeth Prydain fy rhieni, lle dewr a gobeithiol, yn bodoli mwyach," bydd Mr Price yn dweud.

"Mae wedi'i diddymu ac, yn ei lle, mae gennym y gwactod moesol hyn yn San Steffan.

"Rydyn ni'n genedl sy'n gwerthfawrogi yn anad dim caredigrwydd, empathi a chydweithrediad sydd yn rhan o'n system wleidyddol sy'n gynyddol seiliedig ar hunanoldeb a thrachwant."

Mae arolygon barn wedi awgrymu bod cefnogaeth am annibyniaeth wedi tyfu yn ddiweddar, er bod mwyafrif clir yn parhau i wrthwynebu'r syniad.

Hwn fydd etholiad datganoledig cyntaf Mr Price ers iddo gael ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru ym Medi 2018.