Prifysgol Abertawe: Dim troseddu, medd ymchwiliad i dwyll honedig

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant LlanelliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gynllun Pentref Llesiant Llanelli greu hyd at 2,000 o swyddi a dod â £467m i'r economi leol

Mae ymchwiliad i lwgrwobrwyo honedig yn ymwneud â Phrifysgol Abertawe wedi canfod na chafodd unrhyw droseddau eu cyflawni.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Heddlu'r De fod ymchwiliad "manwl a chymhleth" i'r honiadau wedi dangos nad oedd tystiolaeth o droseddu.

Roedd yr ymchwiliad, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2018, yn ymwneud â Phentref Llesiant Llanelli.

Tarian - uned sy'n arbenigo mewn troseddu cyfundrefnol - oedd yn arwain yr ymchwiliad, a oedd yn cynnwys swyddogion o Heddlu'r De a Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi penderfynu "nad oedd er budd y cyhoedd i symud ymlaen" gydag achos.

"Canfu'r ymchwiliad fod y canllawiau caffael cywir yn cael eu dilyn a'u goruchwylio gan gwmnïau cyfreithiol arbenigol," meddai'r llefarydd.

"Cefnogodd arbenigwyr caffael annibynnol yr ymchwiliad a darparu cyngor arbenigol a gadarnhaodd y sefyllfa hon.

"Cafodd nifer o bobl eu cyfweld gan swyddogion ac archwiliwyd yn helaeth nifer sylweddol o ddogfennau ac offer electronig."

Ym mis Ionawr 2019, fe gymeradwyodd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr gynlluniau ar gyfer pentref llesiant gwerth £200m yn Llanelli.