Apêl i ddod o hyd i gyfaill i Bob, yr asyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Geredigion yn gwneud apêl i ddod o hyd i gwmni ar gyfer ei asyn saith oed sy'n teimlo'n unig ers marwolaeth ei gydymaith.
Mae Bob i'w glywed yn brefu ar draws y caeau byth ers i Dobby, ei gydymaith, farw.
Gosododd Peter Speed, 66, hysbyseb mewn papur lleol yn y gobaith o ddod o hyd i asyn o'r un oed â Bob a allai ddod i fyw gydag ef.
Ac er bod yr hysbyseb wedi tynnu sylw, does dim un cynnig hyd yn hyn o gydymaith i'r anifail.
"Mae asynnod yn llawer gwell gyda'i gilydd nag ydyn nhw ar eu pennau eu hunain," meddai Mr Speed, a ymddeolodd i Felinfach 12 mlynedd yn ôl.
"Pan symudon ni yma o Hampshire fe ddaethon ni â Dobby, ein hasyn arall gyda ni, ynghyd â merlen New Forest.
"Ar ôl i'r ferlen farw fe lwyddon ni i ddod o hyd i Bob i gadw cwmni i Dobby, ond mae e bellach wedi marw yn 32 oed ac mae angen un arall arnom i gadw cwmni i Bob."
Mwynhau cacen a bisgedi
Yn ôl Mr Speed mae'r asyn yn un cyfeillgar a thawel gan amlaf. Ond ers i Dobby farw, mae bellach i'w glywed yn brefu ar ei berchnogion pan fydd yn unig.
"Mae'n byw yn y cae ger ein tŷ ni," meddai Mr Speed, "a phob bore mae'n dod i lawr i'n gweld. Mae wrth ei fodd â chacen foron a bisgedi sinsir, ac rydyn ni'n mynd trwy sawl pecyn o'r rheiny"
Mae Mr Speed yn gobeithio bod gan rywun lleol asyn allai ddod i fyw gyda Bob.
"Fe gawson ni Bob trwy roi hysbyseb yn y papur newydd lleol, a thrwy lwc fe ddaethon ni o hyd iddo ger Tregaron.
"Dim ond tair wythnos gymerodd hi i ddod o hyd iddo, ac er ein bod ni wedi cael ychydig o bobl yn ein ffonio ni i ddweud bod ganddyn nhw asynnod hefyd, does ganddyn nhw ddim un sbâr a allai ddod i fyw gyda Bob.
"Felly bydd yn rhaid i ni aros i weld a all rhywun allan yna ein helpu i ddod o hyd i gydymaith i Bob, yn ddelfrydol un tua'r un oed ag e, fel bod modd iddyn nhw dyfu'n hen gyda'i gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2016