Lle i enaid gael llonydd: Tegwen Morris
- Cyhoeddwyd
Mae Tegwen Morris yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol i Ferched y Wawr ers 22 o flynyddoedd ac yn dod yn wreiddiol o Fferm Alltgoch yn Ffaldybrenin ond yn byw bellach yn nhref glan môr Aberystwyth gyda'i gŵr Richard a'r meibion Ioan a Aled.
Yma mae'n disgrifio ei hoff le, sef prom Aberystwyth.
Oherwydd cyfyngiadau ar deithio mae dwy ardal nad wyf wedi llwyddo i ymweld â hwy ers misoedd lawer sef Craig Twrch ac Ynys Las.
Mae Craig Twrch yn agos iawn i le y cefais fy ngeni ac ar y daith yno mae modd mynd heibio Carreg Hirfaen Gwyddog Gadnant ac wrth gyrraedd brig y graig fe welwch Garreg y Bwci yn gorwedd yn osgeiddig mewn ffiol ynghanol tir y mynydd.
Mae'r olygfa o dop Craig Twrch yn arbennig ac yno yn ôl hen chwedl y bu farw gwraig oedd yn cludo te rhydd mewn ceffyl a chart pan gollodd ei ffordd a mynd dros y dibyn.
Ar frig y mynydd fe welir olion caregog bedd y milwr ac yna heol Rufeinig i'ch arwain i Lanfair Clydogau.
Yr ail le dwi yn hoff iawn o ddianc iddo ar bob cyfle posibl ydyw Ynys Las ychydig yn bellach i'r gogledd na'r Borth ac yno mae tywod braf, twyni uchel a golygfeydd arbennig o Aberdyfi a'r tir amaethyddol fel clytwaith o liwiau braf.
Hefyd rwyf wedi bod yn ffodus i gerdded trwy olion coedwig Cantre'r Gwaelod.
Ond dros y misoedd diwethaf mae yna le sydd wedi dod yn fwy arbennig yn ddyddiol - sef prom Aberystwyth, gyda'r trigolion lleol yn cerdded a chydnabod ei gilydd o bellter diogel, ond mae'n le braf a gwastad i gerdded. Mae'r tywydd yn medru newid yn gyflym iawn a'r drudwy yn perfformio wrth i'r haul fachlud fin nos.
Dwi wedi cael modd i fyw yn mynd â'r camera am dro a gweld y tonnau mawr, yr harbwr lliwgar ac adfeilion y castell o dan gysgod y gofgolofn. Mae yna ryfeddodau byd natur a phensaernïaeth yr hen goleg yn mynnu sylw a'r gwaith wedi cychwyn ar yr adnewyddu.
Mae clywed sŵn cerrig y môr yn hyrddio yn y tonnau yn dileu unrhyw densiwn o'r ymennydd. Ac ar y penwythnos pan mae ychydig o egni gallaf ddringo i fyny Craig Glais gyda'r teulu a rhyfeddu at y golygfeydd godidog. Dwi hefyd wedi llwyddo i gyrraedd top Alltwen sef y mynydd serth uwch ben Tan y Bwlch a wedi ymlwybro i Pendinas sawl gwaith erbyn hyn.
Pan ddaw y cyfnod clo i ben efallai bydd rhaid osgoi y prom a'i brysurdeb, ond dwi mor ddiolchgar fy mod wedi darganfod fy mro, cael cyfle i werthfawrogi y golygfeydd, pensaernïaeth, placiau hanesyddol a myrdd o fosaics sydd o amgylch tref Aberystwyth, mae gennyf cymaint i fod yn ddiolchgar amdano.
Hefyd o ddiddordeb: