Statws sefydlog: 'Rydym eisiau ichi aros yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cymru a'r Undeb Ewropeaidd

Mae'r Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu llythyr agored at ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yma yn eu hannog i gyflwyno cais am statws preswylydd sefydlog cyn 30 Mehefin os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud.

Yn y llythyr, sydd mewn 11 o ieithoedd, dywedodd Mark Drakeford: "Rydym eisiau ichi aros yng Nghymru. Bydd croeso i chi yma bob amser."

Mae angen ymgeisio am y statws drwy gynllun y Swyddfa Gartref er mwyn eu galluogi i fod â'r un hawliau â dinasyddion Prydain ar ôl mis Mehefin eleni.

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn awgrymu bod y mwyafrif o'r bobl sydd angen gwneud cais wedi gwneud hynny erbyn hyn.

Ond mae pryder o hyd bod rhai grwpiau ddim yn ymwybodol bod angen iddyn nhw ymgeisio, neu eu bod â phryderon ynghylch y broses.

Gall y grwpiau dan sylw gynnwys pobl sy'n agored i niwed, yr henoed a phobl sydd wedi byw yma ers blynyddoedd maith.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn pwysleisio bod y dyddiad cau i ymgeiswyr "yn prysur agosáu"

"Efallai eich bod chi wedi dod i fyw i'r DU sawl blwyddyn yn ôl a heb sylweddoli bod angen ichi wneud cais," meddai Mr Drakeford yn y llythyr.

"Efallai eich bod chi wedi cael plant ers ichi fod yn byw yma, ac nad oeddech chi'n sylweddoli bod angen i chi wneud cais ar eich cyfer chi eich hun a'ch plant.

"Efallai nad yw'n hawdd i chi gael mynediad at ffôn clyfar neu gyfrifiadur. Neu efallai eich bod yn teimlo wedi'ch llethu gan y broses neu'n bryderus nad oes gennych y gwaith papur cywir."

Beth bynnag y sefyllfa, dywed Mr Drakeford bod cymorth arbenigol ar gael am ddim i helpu pobl gyda'r broses ymgeisio.

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda rhwydwaith o arbenigwyr cyfreithiol, Cyngor ar Bopeth ac elusennau ac mae gwybodaeth hefyd ar wefan Paratoi Cymru, dolen allanol.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi ysgrifennu'r llythyr "i ddweud wrthych chi a'ch teuluoedd y bydd croeso ichi bob amser yma yng Nghymru".

"Mae eich cyfraniad i'n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n busnesau yn amhrisiadwy," meddai.

Dywed bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ddinasyddion yr undeb yng Nghymru oherwydd ansicrwydd Brexit ac yna'r pandemig "sydd wedi gwneud ymdopi gyda sefyllfa anodd yn anoddach fyth".

Ychwanegodd: "Hoffwn ichi wybod ein bod ni eisiau ichi aros yma, a pharhau i fwynhau'r rhyddid a'r hawliau y gall Cymru, fel gwlad groesawgar, eu cynnig i chi."