Chwaraewr Y Bala 'nôl ar y cae ar ôl gwella o ganser

  • Cyhoeddwyd
Danny GossetFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Danny Gosset yn chwarae i Gymru C yn erbyn Lloegr yn 2018

Mae chwaraewr Y Bala wedi dweud ei fod yn falch o fod 'nôl ar y cae pêl-droed ar ôl llwyddo i drechu canser.

Cafodd Danny Gosset o Gaernarfon wybod yn 2019 fod ganddo Non-Hodgkin Lymphoma, sef math o ganser y gwaed.

Ar ôl misoedd o gemotherapi a radiotherapi cafodd wybod y llynedd y byddai'n cael "gwellhad llwyr" o'r cyflwr.

Bron i ddwy flynedd ers ei ymddangosiad diwethaf, daeth ymlaen fel eilydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Met Caerdydd ar Faes Tegid nos Wener ddiwethaf.

'Bob dim wedi bod werth o'

"Oedd hi'n deimlad ffantastig i fod yn onest - o'n i methu disgwyl bod allan ar y cae efo'r hogia'," meddai wrth raglen Ar y Marc BBC Radio Cymru.

"Yr holl oria' dwi wedi rhoi mewn i'r gwaith rehab - dim jyst physically, ond mentally hefyd - y battle yna oddi ar y cae.

"O'n i'n meddwl, ella fyswn i'n cael 'nôl allan ar y cae eto, falla ddim - o'n i ddim yn rhy siŵr ar un amser, ond ma' bob dim wedi bod werth o.

"Nes i joio bod 'nôl allan yna, a 'naeth yr adrenalin gario fi drwodd dipyn bach - ond eto braf cael bod 'nôl mewn gêm.

"Er mai friendly oedd hi i fod, roedd hi'n reit competitive hefyd. Oedd o'n brilliant."

Ffynhonnell y llun, Daniel Gosset/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Gosset i ymweld â charfan Cymru wrth iddo fynd drwy ei driniaeth

Roedd Gosset wedi bod yn ddioddef o boen yn ei goes yn 2019, ac fe gafodd wybod bod ganddo diwmor ar yr asgwrn femur ar ôl cael profion yn Abertawe.

Ffisio Clwb Pêl-droed Y Bala, Ffiona Evans - sydd hefyd yn chwarae i dîm merched Aberystwyth - wnaeth ei annog i gael y profion, ac roedd hi yno i'w weld yn dychwelyd i'r cae.

"Mae'n deimlad sbesial i gael e 'nôl ar y cae. I'w weld e'n croesi'r llinell yna nos Wener - o'dd e'n emosiynol," meddai wrth Ar y Marc.

"O'n i ffaelu edrych pan oedd e'n mynd arno achos o'dd dagre yn llyged fi.

"Mae'n neis gweld e 'nôl, a oedd e ddim yn edrych fel bod e wedi bod bant o'r cae rili - o'dd e'n edrych yn rili gyfforddus 'nôl ar y cae."

'Methu diolch digon'

Roedd Gosset yng ngharfan Y Bala i herio'r Seintiau Newydd ddydd Sadwrn wrth i Uwch Gynghrair Cymru ddychwelyd ar ôl adennill ei statws elît, ac mae'n dweud mai i Ffiona mae'r diolch am hynny.

"Dwi methu diolch digon i [Ffiona]. Mae hi wedi bod yn absolutely ffantastig trwyddo fo i gyd.

"Mae hi wedi helpu fi o'r dechra' i drio ffeindio allan beth oedd yn mynd ymlaen - oeddan ni ddim cweit yn siŵr.

"Heb Ffi fyswn i obviously heb gael y sgan, a dwi'n ddiolchgar iawn iddi hi am yr holl rehab - mae 'di helpu fi hefyd i gael fi 'nôl allan ar y cae."

Pynciau cysylltiedig