'Pawb yn caru' milwr fu farw yng Nghastellmartin

  • Cyhoeddwyd
Sgt Gavin HillierFfynhonnell y llun, Gwarchodlu Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd platŵn Sarjan Hillier bod ganddo bersonoliaeth "heintus"

Mae teulu milwr fu farw yn ystod ymarferiad tanio byw yn Sir Benfro yn dweud bod eu "calonnau yn torri" yn dilyn ei farwolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd gwraig y Sarjant Gavin Hillier, Karyn a'i ddau fab, Declan a Connor eu bod "ddim yn barod i ffarwelio" ag ef.

Cafodd Gavin Hillier - Sarjant gyda'r Gwarchodlu Cymreig - ei ladd yn y digwyddiad ar faes ymarfer Castellmartin nos Iau.

Dywedodd Gweinidog Amddiffyn Llywodraeth y DU, Ben Wallace ei fod yn "drist iawn" clywed am y farwolaeth.

'Sioc enfawr'

Roedd Sarjant Hillier wedi gwasanaethau yn Kosovo, Irac ac Afghanistan yn ystod ei yrfa gyda'r fyddin, ac yn 2019 cafodd fedal gan Dywysog Cymru am ei wasanaeth hir.

Dywedodd y Gwarchodlu Cymreig bod "pawb yn ei garu", a bod ei farwolaeth yn "sioc enfawr".

Ffynhonnell y llun, Y Gwarchodlu Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarjant Hillier wedi derbyn medal gan Dywysog Cymru yn 2019 am ei wasanaeth hir i'r lluoedd arfog

Mewn datganiad, dywedodd teulu Sarjant Hillier: "Mae ein calonnau yn torri a dydyn ni ddim yn gallu mynegi pa mor falch yr ydym ni ohonot ti.

"Dydyn ni ddim yn barod i ffarwelio a ti - fe fyddwn ni wastad yn dy garu."

Ychwanegodd arweinydd platŵn Sarjan Hillier bod ganddo bersonoliaeth "heintus" a'i fod wastad yn "cael y gorau allan o'r platŵn".

Ymchwiliadau ar y gweill

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Sadwrn eu bod yn "meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yn y cyfnod trasig yma".

"Mae ymchwiliad wedi dechrau ac fe fyddai'n amhriodol i wneud sylw pellach ar y funud," meddai llefarydd.

Mae'r heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a'r gangen sy'n ymchwilio i ddamweiniau ym maes amddiffyn wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad.

Sarjant Hillier ydy'r pedwerydd milwr i farw mewn digwyddiadau yng Nghastellmartin ers 2012.

Pynciau cysylltiedig