Y Gymraes sy' wedi newid taith Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Emma BolamFfynhonnell y llun, Emma Bolam

"Pan dwi'n edrych nôl ar flwyddyn y pandemig mae'n mynd i fod yn anodd i gredu bod ni wedi cyflawni brechlyn mewn cyfnod mor fyr ac hefyd pa mor llwyddiannus yw'r frechlyn. Bob dydd mae'r nifer o achosion a'r nifer o farwolaethau yn gostwng."

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod mae Cymru Fyw yn dathlu gwaith Cymraes sy' wedi gwneud ei marc yn 2020 drwy helpu i greu brechlyn Covid-19 mewn naw mis yn unig gan ddod â gobaith i fyd dan afael pandemig.

Mae Emma Bolam o Benybont, Sir Gaerfyrddin, yn Bennaeth Cynhyrchu yn y Jenner Institute, Rhydychen, lle datblygwyd brechlyn Rhydychen Astrazeneca. Mae hi wedi bod yn wyddonydd yn Rhydychen ers bron i 25 mlynedd ac wedi helpu i gynhyrchu nifer o frechlynnau sy'n achub bywydau.

Uchafbwynt

Ond mae hi'n disgrifio datblygiad brechlyn Covid fel pinacl yn ei gyrfa gan bwysleisio taw gwaith tîm sy'n gyfrifol am y llwyddiant: "Dwi'n rhan fach o'r holl beth, mae lot o bobl sy' wedi gwneud mwy o gyfraniad na fi. Mae 'na dîm anferth ar waith."

Mae Emma wedi gweld ei bywyd yn newid yn llwyr oherwydd Covid-19 gyda'r gwaith i ddatblygu'r brechlyn yn hawlio'i hamser i gyd: "Mae fy balans bywyd a gwaith wedi diflannu, gyda gwaith yn cymryd drosodd.

"D'on i ddim yn meindio llynedd achos 'oedd fath gôl gyda ni mewn golwg - i brofi'n bod ni'n gallu gwneud hyn ac i greu'r brechlyn Covid cynta' erioed ar gyfer y Deyrnas Unedig.

"A dyna beth wnaethon ni ac yn llwyddiannus iawn."

Ffynhonnell y llun, Oxford University/John Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Gwyddonwyr yn y Jenner Institute yn Rhydychen yn gweithio ar frechlyn Covid-19

Ac mae wedi bod yn drobwynt annisgwyl yn ei bywyd: "Os fyddech chi wedi gofyn i fi 18 mis yn ôl beth fydden i'n gwneud nawr, bydden i byth wedi gallu dyfalu rhywbeth fel hyn. Mae'n hollol anhygoel.

"Pan ti'n cael cyfle i stopio ac i feddwl beth mae pawb ym Mhrydain a'r byd wedi gorfod wynebu dros y 12 mis diwethaf..."

Y dechrau

Mae Emma'n cofio nôl i'r tro cyntaf iddi glywed am y feirws newydd: "Dwi'n cofio'r diwrnod yn dda achos dyna'r tro olaf i fi weld fy rhieni. Roedd hi'n Ddiwrnod Nadolig 2019 ac ro'wn i'n aros gyda nhw yng ngorllewin Cymru a dwi'n cofio darllen paragraff bach iawn mewn stori newyddion am rai achosion o pneumonia yn Wuhan, Tseina.

"Meddyliais i ar y pryd 'dyna ddiddorol, a fydd pobl yn meddwl am frechlyn? Bosib fyddwn ni yn y Jenner Institute eisiau neud bach o ymchwil i weld os allwn ddefnyddio'r sequence...'

"'Nes i ddim meddwl fyddai Covid yn cael unrhyw beth fel yr effaith mae wedi ei gael a doedd dim syniad gyda fi bydden ni'n creu brechlyn sy' nawr yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd."

Mae cyflymder y broses i greu'r brechlyn wedi chwalu'r record o ran cyfnod creu brechlyn o'r dechrau i'r diwedd.

Dywedodd Emma: "Ro'n i'n meddwl y byddai'n bosibl cael digon o ddosau ar gyfer cam un y treialon. Dyma wnaethom ni'n Rhydychen gan ddechrau ym mis Ebrill pan wnes i ddigon o frechlyn i ddechrau cam un y treialon.

"Ac wrth gwrs Astrazeneca gymerodd yr awenau wedyn a dyna pryd aeth y brechlyn mewn i raddfa enfawr o gynhyrchu mewn gwahanol lefydd ledled y byd.

"Dwi'n rheoli'r tîm sy'n gwneud y feirws sy'n cael ei ddefnyddio i greu'r brechlyn ar gyfer treialon ar raddfa fach. Ni'n gallu creu tua 200 o ddosau ond mae Astrazeneca'n cynhyrchu miliynau erbyn hyn.

"Rydym wedi ein trwyddedu gan yr MHRA (Medicines and Healthcare products Regulatory Agency) felly mae gennym gasgliad o ystafelloedd glân gyda aer glân iawn. Rydym o hyd yn gwirio glendid yr aer a'r offer i wneud yn siŵr nad ydyn ni'n heintio unrhyw beth.

"Mae'n rhaid i ni dyfu celloedd a gadael i'r feirws dyfu yn y celloedd hynny ac yna ni'n puro'r feirws pan mae'n dod allan. A'r feirws hynny yw'r brechlyn sy'n mynd mewn i berson.

"Ro'wn i'n hands-on gyda'r brechlyn Covid. Ar 6ed o Fawrth arllwysais y celloedd a thyfu digon o gelloedd i roi'r firws i mewn iddynt ac ar 2 Ebrill llenwais tua 500 o vials gyda'r brechlyn. Felly llai na mis!"

Ffynhonnell y llun, University of Oxford
Disgrifiad o’r llun,

Y frechlyn Oxford/AstraZeneca yn ystod y treialon

Diwrnod y canlyniadau

"Roedd yn anhygoel cael y canlyniadau i mewn (canlyniadau y treialon wnaeth ddangos fod y brechlyn yn effeithiol) - roedd yn gymaint o ryddhad. Nes y pwynt hwnnw, d'on ni ddim yn gwybod a oedd gan y brechlyn unrhyw obaith o weithio.

"Roeddem ni'n falch iawn - mae rhai yn credu nad yw'n frechlyn da oni bai ei fod yn 90% neu 100% yn effeithiol ond i ni roedd unrhyw beth dros 70% yn anhygoel.

"A'r newyddion da arall oedd pan wnaeth yr MRHA drwyddedu'r frechlyn i'w defnyddio ym Mhrydain ar 30 Rhagfyr roedd hi'n ben-blwydd arna'i yn 50 felly dathliad dwbl!"

Mae llwyddiant y brechlyn wedi rhoi gobaith i bawb sy'n byw dan gyfyngiadau y pandemig ond mae Emma nawr wedi symud ymlaen i weithio ar frechlynnau posib ar gyfer y straeniau newydd o Covid-19:

"Mae fel Groundhog Day i ni nawr oherwydd bod ni'n ailadrodd yr holl waith eto.

"Rydyn ni'n ôl i wneud bron yn union yr un peth flwyddyn yn ddiweddarach - mae'n ddiflas ac yn flinedig ac mae'n llawer o waith.

"Roeddem wedi gobeithio canolbwyntio ar bethau newydd a gwahanol frechlynnau ond nid hynny sy' wedi digwydd.

"Mae pawb wedi blino ac heb gymryd gwyliau ers amser. Rydyn ni'n bwrw mlaen gyda'r gwaith oherwydd dyna beth ni am ei wneud ac mae gôl terfynol mewn golwg ond mae'n waith caled."

Dan bwysau

Mae'r pwysau o wybod fod angen gweithredu'n gyflym gan fod bywydau yn y fantol yn cael effaith ar fywydau pob aelod o'r tîm: "Dyw'r gwaith byth yn 9 i 5...mae'n foreau cynnar, nosweithiau hwyr.

"Rhaid ateb e-byst trwy'r amser, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ar unwaith. Mae cymaint o gynllunio ynghlwm â'r peth er mwyn i bopeth weithio yn berffaith, does dim lle i wallau."

Mae Emma'n byw yn Rhydychen gyda'i mab Alex, sy' wedi dod yn gyfarwydd â oriau hir ei fam: "Prynais i sgwter trydan iddo fel anrheg llynedd i ymddiheuro am yr holl amser dwi'n treulio yn y gwaith, roedd e'n falch iawn.

"Mae e'n deall a dw i wedi ei rybuddio y bydd yn digwydd eto eleni er mwyn iddo feddwl am yr anrheg nesaf y gallai ei gael!

"Mae'n edrych ymlaen at weld ei ffrindiau nôl yn yr ysgol."

Dod adref

Mae'n amser hir ers i Emma ddychwelyd i Gymru a gweld ei rhieni, sy'n byw ym Mhenybont yn Sir Gaerfyrddin ers bron i 50 mlynedd. Dyna lle magwyd Emma, gan fynychu ysgol gynradd Hafodwenog yn Nhrelech ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

Meddai: "Dwi'n methu aros i fynd nôl a dwi'n gobeithio gallu gwneud yn yr haf."

Cyngor

Ar Ddiwrnod Rhynglwadol y Menywod, mae gan Emma'r cyngor hyn i unrhyw ferch sy' â diddordeb mewn gwyddoniaeth fel gyrfa: "Os oes diddordeb gyda chi ar ôl clywed am sut mae Rhydychen ac Astrazeneca wedi datblygu'r brechlyn Covid, meddyliwch am TGAU a Lefel A a pharhau yn y brifysgol. Mae cymaint o rolau gwahanol ar gael yn y maes, mae mor eang.

"Mae'n waith pleserus a dwi wedi bod yn fy swydd am amser hir ac rydw i dal yma oherwydd fy mod i'n ei fwynhau."

Gwrandewch ar Emma Bolam yn cael ei holi gan Dewi Llwyd ar Dros Ginio ar Radio Cymru

Hefyd o ddiddordeb

Chwalu'r chwedlau am frechlyn Covid-19

Pynciau cysylltiedig