Ryland Teifi: Anodd galaru mewn pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Ryland Teifi yn gyfarwydd â grym emosiynol cerddoriaeth, ond cafodd ei lorio o gael gwybod pa ganeuon chwaraewyd i'w Dad yn ei eiliadau olaf.
Roedd cerddoriaeth a chymuned ardal Ffostrasol yn rhan ganolog o fywyd Garnon Davies. Roedd yn un o gymeriadau mawr gorllewin Cymru ac yn un o drefnwyr Gŵyl y Cnapan, un o wyliau cerddorol mwyaf y sin cerddorol Cymraeg ar un adeg.
Fis Tachwedd, roedd yn rhaid iddo fynd i'r ysbyty yn Llanymddyfri am gyfnod cyn ei drosglwyddo i Ysbyty Glangwili ar ôl dal Covid-19.
Pan glywodd Ryland, sy'n cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol, bod ei dad wedi dal y feirws roedd yn bryderus, yn enwedig gan bod ei gymhlethdodau iechyd yn ei wneud yn fregus.
Gwaethygu wnaeth ei gyflwr ac roedd y meddygon yn ofni'r gwaethaf.
Nyrsys anhygoel
Ar gyfer rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol, fe gafodd Ryland Teifi, sy'n cyflwyno'r rhaglen, gyfle i holi un o nyrsys Ysbyty Glangwili fu'n gofalu am ei dad.
Roedd Delun Evans a'i chyd-weithwyr yn gwybod bod Garnon yn hoff iawn o gerddoriaeth ac felly pan oedd o'n wael iawn fe benderfynon nhw roi caneuon Cymraeg ymlaen fyddai'n eu hadnabod.
Yn eu mysg roedd rhai o ganeuon Ryland ei hun, fel Lili'r Nos, ac emynau fel Gwahoddiad, ond mae'r emosiwn yn llifo pan mae'r cerddor yn cael gwybod bod Dros Gymru'n Gwlad newydd ddechrau chwarae pan gymerodd Garnon ei anadl olaf.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Ro'n i 'di clywed eu bod nhw wedi bod yn chwarae cerddoriaeth ond doeddwn i ddim yn gwybod pa ddarnau a beth oedd wedi mynd ymlaen yn yr oriau neu ddyddiau diwethaf," meddai Ryland wrth Cymru Fyw. "Pan oeddwn i'n clywed nhw'n dweud, roedd e fel bollten achos do'n i'm yn disgwyl y pethe hynny.
"Mae nyrsys a phobl sy'n gofalu am gleifion nawr yn gorfod chwarae rôl wahanol i'r arfer lle maen nhw'n gorfod bod yn eilyddion i deuluoedd.
"Maen nhw'n gorfod codi ffôn neu declyn Facetime a bod yno ar y diwedd gyda phobl heb bresenoldeb teuluol ac mae hwnna yn rhywbeth anhygoel ac yn bwysau ychwanegol anferthol ar y gofal yma maen nhw'n gorfod gwneud.
"Dwi mor falch ac mor lwcus mod i wedi gallu siarad gyda Delun."
Mae Ryland wedi gosod gwreiddiau yn nwyrain Iwerddon ers blynyddoedd ac yn byw yn ardal y Gaeltech An Rinn, ger Dungarvan.
Yno'r oedd o pan aeth ei dad yn wael a doedd dim posib croesi'r môr i'w weld oherwydd y cyfyngiadau.
Pan gafodd alwad gan y meddygon yn dweud bod ei Dad yn gwaelu'n sydyn a bod angen iddo deithio adref fe adawodd am Gymru, ond roedd yn rhy hwyr i fedru dweud ei ffarwel.
Angladdau yn bwysig
Mae'n dweud bod colli rhywun yn ystod y cyfnod yma yn wahanol iawn i'r arfer, a'i obaith ydi bod rhannu ei brofiad ar y rhaglen yn helpu pobl eraill sydd wedi bod drwy rywbeth tebyg.
Un o'r pethau anoddaf, meddai, ydi methu gwneud yr hyn sy'n dod yn naturiol, sef bod yn agos at bobl, cofleidio, ysgwyd llaw ac amgylchynu eich hunain gyda'r bobl fu mor bwysig ym mywyd y person sydd wedi marw.
Fel sy'n arferol mewn cymuned fel un ardal Ffostrasol, roedd nifer o bobl eisiau cydymdeimlo a dod i'r angladd - ond doedd hynny ddim yn bosib er pa mor bwysig yw'r gwasanaeth i'r broses o alaru.
"Mae swyddogaeth i bethe fel angladdau," meddai Ryland. "Fel rhywun sy'n dod o gefndir diwylliannol Cymreig mae pobl yn gyfarwydd â phethau fel pobl yn dod i'r tŷ i siarad, rhannu straeon, chwerthin, llefen, canu mewn angladdau - neu bobl yn cwrdd yn y festri neu mewn tafarn neu ble bynnag. Mae'n rhan o'r broses, ac yn ystod cyfnod creisis fel hyn mae e ar goll.
"Unwaith roeddwn i yn ôl adre, ro'n i o fewn swigen yn y tŷ efo'n teulu agos, ond gyda'r rheiny oedd yn dod at y stepen drws - weithiau liw nos - ac yn dod â rhywbeth i ni, rhyw frechdanau neu ddarn o gig moch neu ham neu beth bynnag - dyna'r traddodiad, ond yn gorfod sefyll weithiau yn bell o'r stepen drws.
"Roedd hwythau eisiau siarad ond yn gorfod bod yn ynysig yn y glaw neu yn nhywyllwch y nos, a chi eisiau gymaint i'w gwahodd i mewn i'r aelwyd.
"Dwi'n siŵr bod e'n anodd iawn i rheiny sydd methu mynd i gydymdeimlo gyda pobl sydd wedi colli."
Dydy Ryland heb ddychwelyd i Gymru ers yr angladd fis Rhagfyr oherwydd y cyfnod clo, a tydi ei wraig na'u plant heb gael mynd drosodd o gwbl.
Pan fydd y sefyllfa Covid wedi gwella a'r cyfyngiadau yn llacio mae'n edrych ymlaen at fedru mynd adref eto gyda'i wraig a'r plant.
Meddai: "Un peth sydd yn gyrru ni 'mlaen yn ystod y cyfnod yma yw'r gobaith bod pobl yn gallu dod at ei gilydd a fi jest ishe gweld wyneb Mam pan fydd hi'n gweld y merched ac yn eu cofleidio nhw fel dyle hi wedi cael gwneud rhai misoedd yn ôl."
Hefyd o ddiddordeb: