Faint mae biliau Treth Cyngor yn cynyddu yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Bydd biliau Treth Cyngor yn cynyddu o leiaf dwywaith cymaint â chyfradd chwyddiant ym mhob rhan o Gymru eleni.
Mae'r lefelau'n cynyddu o 2.65% yn Rhondda Cynon Taf i 6.95% yn Wrecsam, ond mae Wrecsam yn dal i godi llai na'r mwyafrif o awdurdodau yng Nghymru.
Yn Sir Benfro mae'r lefel isaf o Dreth Cyngor - £1,190 ar gyfer adeilad Band D.
Tra mai Rhondda Cynon Taf sy'n gweld y cynnydd lleiaf, mae'r cyngor ymysg y rheiny sy'n codi'r tâl mwyaf.
Cyfradd chwyddiant yn 0.9%
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r arian sydd ar gael i gynghorau yn uwch na chyfradd chwyddiant am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywedodd bod cronfeydd caledi yn sicrhau na fyddai costau'r pandemig yn rhoi "pwysau ychwanegol" ar dalwyr Treth Cyngor.
0.9% oedd cyfradd chwyddiant yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae arian craidd gan Lywodraeth Cymru yn talu am tua dau draean o wariant pob cyngor.
Daw'r gweddill o Dreth Cyngor, ac unrhyw wasanaeth arall y mae cynghorau'n codi tâl amdano.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n rhoi £4.65bn i gynghorau Cymru yn 2021-22 - cynnydd 3.8% o'i gymharu â'r llynedd.
Roedd y swm hynny hefyd wedi cynyddu 4.3% y llynedd.
Cynnydd mewn Treth Cyngor a'r gost ar gyfer adeilad Band D ar gyfer 2021-22
Abertawe - 2.99% - £1,448
Blaenau Gwent - 3.3% - £1,768
Bro Morgannwg - 3.9% - £1,357
Caerdydd - 3.5% - £1,310
Caerffili - 3.9% - £1,231
Casnewydd - 3.7% - £1,242
Castell-nedd Port Talbot - 2.75% - £1,660
Ceredigion - 3.5% - £1,413
Conwy - 2.95% - £1,383
Gwynedd - 3.7% - £1,483
Merthyr Tudful - 3.55% - £1,729
Pen-y-bont ar Ogwr - 3.9% - £1,597
Powys - 2.9% - £1,404
Rhondda Cynon Taf - 2.65% - £1,538
Sir Benfro - 3.75% - £1,190
Sir Ddinbych - 3.8% - £1,437
Sir y Fflint - 3.95% - £1,394
Sir Fynwy - 3.89% - £1,434
Sir Gaerfyrddin - 3.45% - £1,362
Torfaen - 3.95% - £1,421
Wrecsam - 6.95% - £1,317
Ynys Môn - 2.75% - £1,341
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020