Gallai gymryd 'cenhedlaeth' i gynghorau dalu am Covid-19
- Cyhoeddwyd
Bydd hi'n cymryd cenhedlaeth i gynghorau Cymru dalu am effeithiau'r pandemig coronafeirws, yn ôl y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol.
Mae'r bwlch yng nghyllidebau cynghorau ers i'r cyfyngiadau Covid-19 ddod i rym oddeutu £173m oherwydd diffyg incwm a chynnydd mewn costau.
Dywedodd Anthony Hunt o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn wynebu "cyfnod o flynyddoedd" cyn medru adfer y sefyllfa.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi sicrhau bod £110m ar gael i gynghorau.
Fe ddaw sylwadau Mr Hunt wrth i awdurdodau fynegu pryder am gynnydd mewn ceisiadau am ostyngiad treth cyngor ac am gost y cynllun i fonitro lledaeniad y feirws.
Aeth Llywodraeth Cymru ymlaen i ddweud bod £110m ar gael i gynghorau i gynorthwyo gyda'r pandemig hyd yma ac y bydd £78m yn fwy ar gael pan fydd ei chyllideb atodol yn cael ei chyhoeddi'r wythnos nesaf.
Dywedodd Mr Hunt, llefarydd cyllid CLlLC: "Mae risg y bydd gwaddol coronafeirws nid yn unig yn un meddygol ond hefyd yn un ariannol fydd yn niweidio ein cymunedau."
Ychwanegodd Mr Hunt, sydd hefyd yn arweinydd Cyngor Torfaen, ei bod yn rhy gynnar i sôn am gynyddu'r dreth cyngor.
Ond rhybuddiodd Rob Jones, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, bod cynnyddu trethi yn anochel.
Costau ychwanegol
Fe ofynnodd BBC Cymru i holl awdurdodau lleol Cymru sut y mae coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw, ac fe ymatebodd 19 o'r 22.
Roedd rhai'n dweud bod y costau ychwanegol yn cynnwys PPE, gofal plant, prydau ysgol am ddim, costau ychwanegol gofal cymdeithasol, monitro lledaeniad y feirws a'r bonws o £500 i weithwyr gofal.
Er bod rhai wedi nodi arbedion lle mae gwasanaethau wedi'u hatal neu eu lleihau, roedd eraill yn dweud bod y golled wedi bod yn sylweddol.
Dywedodd Cyngor Gwynedd, er enghraifft, y gallai'r golled mewn incwm fod rhywle rhwng £5m ac £16m.
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod mwy na 5,000 wedi gwneud cais o dan y cynllun Gostyngiad Treth Cyngor ers dechrau Ebrill, ac y byddai'r cynnydd yna'n debyg o gostio tua £33.86m.
Yn ôl Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd cyllid i awdurdodau lleol 14% yn is na'r lefel yn 2010 hyd yn oed cyn yr argyfwng coronafeirws, sy'n golygu "bod llai o wytnwch yn y system" yn barod.
Awgrymodd y byddai mwy o alw ar gynghorau o ganlyniad i'r argyfwng am "nifer o flynyddoedd" ac y byddai angen buddsoddiad gan lywodraethau Cymru a'r DU am gyfnod hir.
Mae'r ganolfan wedi awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru gynyddu treth incwm fel "dull mwy blaengar" o godi arian i awdurdodau lleol.
Cyllid pellach
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau y mae'r pandemig coronafeirws wedi ei roi ar awdurdodau lleol, a'r gwaith aruthrol y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau.
"Rydym wedi gwneud £110m ar gael yn syth i gynorthwyo'r awdurdodau lleol gyda chostau ychwanegol, ac wedi dod â gwerth £526m o daliadau grant refeniw ymlaen o fisoedd Mai a Mehefin i'w cefnogi.
"Byddwn yn cyhoeddi cyllideb atodol yr wythnos hon a fydd yn cynnwys hyd at £78m o gyllid pellach i awdurdodau lleol."
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Dyma oedd ymateb cynghorau Cymru i'r cais am wybodaeth gan BBC Cymru.
Abertawe - Dim ymateb.
Blaenau Gwent - "Mae'n rhy gynnar i farnu effaith lawn y pandemig gan fod y cyfyngiadau yn dal yn eu lle. Mae'r cyngor mewn trafodaethau llawn gyda Llywodraeth Cymru am yr heriau ariannol sydd gerbron."
Bro Morgannwg - Wedi colli £2.4m o incwm erbyn diwedd Mehefin. Mae gwariant sydd ddim yn angenrheidiol wedi ei atal, ond does dim penderfyniad i leihau gwasanaethau. Wedi cael cyllid ychwanegol, ond yn "rhy gynnar i ddweud" a fydd hynny'n ddigon.
Caerdydd - Wedi colli £11m o incwm erbyn diwedd Mehefin ac wedi gwario £18m erbyn hynny o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19. Bydd costau ychwanegol i ddod oherwydd y cynllun olrhain ac oherwydd cynnydd mewn ceisiadau i'r cynllun Gostyngiad Treth Cyngor. Mae pryder am yr adferiad gan fod y trefniadau cyllido presennol ond wedi eu cadarnhau tan ddiwedd Mehefin.
Caerffili - Wedi colli £3.2m mewn incwm ers Ebrill, ac wedi gwario £4.5m yn ychwanegol ers hynny. Maen nhw'n adolygu defnyddio cronfa wrth gefn y cyngor oherwydd y pandemig. Mae mwyafrif gwasanaethau'r cyngor yn dal ar gael er bod rhai wedi eu cwtogi, ond does neb o staff yr awdurdod ar gynllun seibiant cyflog.
Casnewydd - Mae'r argyfwng yn rhoi "pwysau" ar wariant ac incwm, ac mae'r cyngor yn adolygu ei rhagolygon ariannol oherwydd y pandemig.
Castell-nedd Port Talbot - Wedi colli £4.9m o incwm ac wedi gwario £5.2m yn ychwanegol. Amcangyfrif y gallai golli £7.5m o'r cynllun Gostyngiad Treth Cyngor. Mae gan yr awdurdod £18m mewn cronfa wrth gefn, ond fe fydd y gronfa'n wag erbyn Ebrill nesaf os na fydd mwy o gefnogaeth ariannol.
Ceredigion - Wedi colli £1.1m erbyn diwedd Mehefin, ond mae digon o arian wrth gefn i adfer unrhyw ddiffyg yn y dyfodol agos.
Conwy - Anodd dweud beth fydd y goblygiadau ariannol oherwydd ansicrwydd am ba hyd y bydd y sefyllfa'n parhau.
Gwynedd - Disgwyl colled "ddramatig" o £6.8m ac wedi gwario £1.2m yn ychwanegol erbyn diwedd Mehefin. Gan ddibynnu ar ba hyd fydd yr argyfwng yn parhau, fe allai golli hyd at £16m. Dwedodd y cyngor bod angen amlwg i Lywodraeth Cymru eu digolledi a bod dim disgwyl adfer yr incwm "am flynyddoedd lawer o bosib".
Merthyr Tudful - Dim ateb penodol, ond cyfeirio at ffigyrau CLlLC o golled o £95m i gynghorau Cymru a £101m o wariant ychwanegol.
Pen-y-bont ar Ogwr - Wedi colli £4m erbyn diwedd Mehefin a gwario £5m o ganlyniad i'r pandemig. Mae'n bosib y bydd angen mynd i'r gronfa wrth gefn oherwydd cynnydd mewn ceisiadau am ostyngiad treth cyngor a'r cynllun olrhain.
Powys - Mae'r pandemig wedi cael "effaith ddigynsail" ar y cyngor ac fe allai'r diffyg fod cymaint â £10m erbyn diwedd Mehefin gan adael dyfodol ariannol "llwm." Mae risg na fydd y cyngor yn medru cynnal ei hun yn ariannol yn y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'r incwm o dreth cyngor £600,000 i lawr ers dechrau'r flwyddyn ariannol.
Rhondda Cynon Taf - Yn gwario £4.5m bob mis ar y pandemig, ac yn dal i ddioddef oherwydd costau Storm Dennis yn gynharach eleni.
Sir Ddinbych - Ddim yn briodol i ddarparu gwybodaeth tan y bydd lefel y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn wybyddus. Bydd y sefyllfa'n fwy clir dros yr wythnosau nesaf.
Sir Fynwy - Wedi colli £3.5m erbyn diwedd Mehefin ac wedi gwario £521,000 yn ymwneud â'r pandemig. Maen nhw wedi lleihau gwariant o £634,000 drwy leihau gwasanaethau ac wedi rhoi 240 o staff ar y cynllun seibiant cyflog. Maen nhw am i Lywodraeth Cymru roi sicrwydd y bydd cynghorau yn medru benthyg arian os nad oes dewis arall.
Sir y Fflint - "Colledion sylweddol" ac wedi gwario mwy ar bethau fel gwasanaethau cymdeithasol. Mae cynnydd mawr wedi bod mewn ceisiadau am ostyngiad treth cyngor.
Sir Gaerfyrddin - Dim ymateb.
Sir Penfro - Wedi colli £3.5m erbyn diwedd Mehefin ac wedi gwario £3.8m yn ychwanegol. Bydd adferiad yn hir a chymhleth. Y pryder mwyaf yw colli incwm, gan fod Llywodraeth Cymru ond yn talu am wariant ychwanegol.
Torfaen - Dim ymateb.
Wrecsam - Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill.
Ynys Môn - Wedi colli £400,000 o incwm bob mis, ac mae'n bosib y bydd rhaid defnyddio'r gronfa wrth gefn. Mae mwy wedi gwneud cais am ostyngiad treth cyngor, ac maen nhw'n disgwyl y bydd angen dileu mwy o ddyledion treth cyngor nag arfer oherwydd y pandemig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020