Caryl Lewis: Ennill cytundeb chwe ffigwr yn y Saesneg yn 'swreal'

  • Cyhoeddwyd
Caryl LewisFfynhonnell y llun, Naomi Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caryl yn enillydd Llyfr y Flwyddyn ac yn adnabyddus yn Gymraeg fel awdur Martha, Jac a Sianco a nifer o lyfrau i blant

Roedd yr awdur Caryl Lewis newydd fod yn bwydo'r ieir ac ar ganol gwneud cinio i'w phlant a phobi cacen yr un pryd pan gafodd hi alwad ffôn yn cynnig cytundeb chwe ffigwr gan un o weisg mwya'r DU i gyhoeddi dau lyfr Saesneg i blant.

Wedi galwad ffôn frysiog i'w gŵr, Aled, oedd allan yn gweithio ar eu fferm ger Aberystwyth fe gytunodd a bydd y gyfrol gyntaf, Seed, yn cael ei chyhoeddi fel un o brif deitlau Pan Macmillan yn 2022 gyda llyfr arall i blant hefyd yn rhan o'r cytundeb.

Mae hi hefyd wedi ennill cytundeb am ei dwy nofel Saesneg gyntaf gyda gwasg adnabyddus Penguin - tipyn o lwyddiant i'r awdur a benderfynodd fentro i'r byd cyhoeddi Saesneg gwta flwyddyn a hanner ynghynt.

"Mae'n surreal," meddai wrth Cymru Fyw. "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor surreal mewn gymaint o wahanol ffyrdd ond mae'n braf gallu siarad am y pethau 'ma nawr a chael dechrau ar y gwaith go iawn.

"Y cytundeb gyda Penguin ddaeth gynta. Nofel i oedolion yw honna. Mae'n nofel am Gymreictod, am deimlo falle yn anweledig yn ddiwylliannol, am fyw mewn diwylliant sydd ar y dibyn a beth sydd gan ddiwylliannau llai i ddweud wrth ei gilydd - felly mae honna'n nofel sy'n mynd i ymrafael â lot o themâu cyfredol."

Mae'r nofel - Drift - yn stori gariad rhwng menyw ifanc o Gymru a ffoadur o Syria ac, fel Seed, mae'r hawliau wedi eu sicrhau i'w chyhoeddi yn rhyngwladol.

Caryl Lewis
bbc
...mae'r teimlad yma o dyndra sydd rhwng y ddwy iaith - dwi ddim yn credu bod e'n le drwg i sgrifennu ohono
Caryl Lewis

"Mae'r cytundeb efo Pan Macmillan yn gwbl wahanol. Mae'n nofel i blant 8-12 oed am fachgen bach sy'n byw efo'i fam sydd yn hoarder, felly does ganddo ddim gofod i gael gartre. Mae ei dad-cu â gardd gerllaw'r tŷ, a does dim byd efo hwnnw, ond mae'n rhoi hedyn bach iddo fe ar ei ben-blwydd a mae rhywbeth hudol iawn yn digwydd drwy hynna."

Mae'n cael ei disgrifio fel stori ddoniol a chariadus lle mae Marty, y prif gymeriad, yn tyfu pwmpen digon mawr i'w ddefnyddio fel cwch iddo hwylio gyda'i dad-cu a'i ffrind gorau i Baris.

"Mae'n nofel, gobeithio, sy'n atgoffa plant bod y byd dal yn ecseiting ac yn hyfryd, a hefyd bod y byd yn ddiogel i fynd allan iddo fe," meddai Caryl.

"Dwi'n teimlo bod plant wedi cael eu caethiwo [yn ystod y cyfnodau clo] a bod 'na ofn wedi dod i'w rhan nhw ynglŷn â theimlo bod 'allan f'yna' yn beryg rhyw ffordd. Ond eu byd nhw yw e iddyn nhw ei archwilio a'i fwynhau. Y peth mwyaf pwysig sydd eisiau arnon ni yw dychymyg ac mae themâu hudol fel'na drwy'r llyfr."

Mae'r cyfnod clo meddai wedi rhoi cyfle iddi hi a'r teulu fod gyda'i gilydd ar y fferm ac mae dianc i fyd straeon a chreu straeon wedi bod yn rhywbeth sydd wedi eu cadw nhw i fynd hefyd.

'Byd gwahanol'

Wedi penderfynu mentro i'r Saesneg a chael asiant mae pethau wedi symud yn gyflym iawn i Caryl Lewis a hithau wedi dysgu yn gyflym sut mae byd y gweisg Saesneg yn gweithio.

"Mae pethe yn gallu digwydd yn sydyn iawn, iawn, a ffigyrau gwahanol iawn i'r Gymraeg!

"Gyda'r cytundeb Pan Macmillan oedd gen i chwech awr i benderfynu. O'n i'n ganol gwneud cinio i'r plant a coginio cacen, o'n i newydd fod allan ar yr iard yn bwydo'r ieir ac yn sydyn reit o'n i'n gorfod ffonio Aled, a cael e adre i edrych ar ôl y plant i fi gael bod ar y ffôn.

"Oedd e'n chwerthin, oedd e'n pallu credu fe am sbel, oedd e'n gwneud rhywbeth efo'r defaid a wedes i 'ma raid iti ddod!'; oedd e'n falch iawn."

Pam sgrifennu yn Saesneg

Mae Caryl, sy'n ferch i'r gantores canu gwlad Doreen Lewis, yn un o awduron mwyaf blaenllaw'r Gymraeg.

Mae wedi ei henwebu am wobr Llyfr y Flwyddyn sawl gwaith ar ôl ei hennill am y tro cyntaf gyda'r nofel Martha, Jac a Sianco, sydd bellach yn lyfr gosod ar gwricwlwm ysgolion.

Disgrifiad o’r llun,

Caryl yn derbyn gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 am ei nofel Y Bwthyn

Mae creu corff o waith yn y Gymraeg wedi bod yn bwysig iawn iddi, meddai, fel ei ffordd hi o wneud cyfraniad i'r diwylliant Cymraeg a "thalu nôl ychydig bach" am beth mae hi wedi ei gael gan y diwylliant hwnnw.

Felly pam y symudiad i'r Saesneg?

Gyda gradd yn y Saesneg cyn gwneud gradd uwch mewn sgrifennu ym Mhrifysgol Aberystwyth mae hi wastad wedi sgrifennu yn y ddwy iaith, meddai, ac ar ôl "darganfod ei llais" yn Gymraeg roedd gwneud hynny yn Saesneg hefyd yn benderfyniad bwriadol.

"Ryw flwyddyn a hanner nôl o'n i'n cwestiynu i raddau ac yn meddwl ydy hyn yn bosib?" esbonia.

"Fel o'n i'n mynd yn hŷn o'n i'n teimlo bod 'na ran ohona i eisiau troi allan am y byd yn lle troi mewn. A newidiodd rhywbeth pan o'n i tua 40 a nes i feddwl 'wel, mae rhaid inni ymuno yn y sgwrs' ac i wneud hynna liciwn i fod mewn sefyllfa lle fydden i'n gallu sgrifennu efo'r Lolfa a sgrifennu yn Llundain a bod pob un ohonyn nhw yr un mor bwysig.

"Dwi wastad yn trio dangos i'r plant bod ti'n gallu eistedd hanner ffordd lan mynydd yn Goginan a gwerthu llyfrau i Lundain neu Efrog Newydd neu ble bynnag: i beidio meddwl bod ti ddim yn perthyn yna neu bod dim hawl 'da ti i fod yna a bod ni'n rhoi hynna i'r awduron sy'n dod wedyn.

Caryl Lewis yn yr Eisteddfod
bbc
...dwi'n gobeithio fydd e'n llesol i awduron Cymreig ac yn codi ymwybyddiaeth yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol a gofyn y gwestiwn wel pam lai, pam ddim ni?
Caryl Lewis

"Mae'r teimlad yma o dyndra sydd rhwng y ddwy iaith - dwi ddim yn credu bod e'n le drwg i sgrifennu ohono chwaith. Mae eisiau dangos y tyndra 'na."

Dydi hi erioed wedi sgrifennu am yr arian, meddai Caryl, ond fe fydd y cytundebau yma wrth gwrs yn "codi'r pwysau".

"A dwi'n gobeithio fydd e'n llesol i awduron Cymreig ac yn codi ymwybyddiaeth yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol a gofyn y gwestiwn, wel pam lai, pam ddim ni?

"Mae'n hawdd iawn i unrhyw un ohonon ni i fyw o fewn y teimlad yna o 'fe allen i fod wedi neud e tasen i eisiau' ond y realiti yw os na wnei di e ffeindi di byth mas.

"Rhaid iti ddweud 'ocê dwi'n mynd i drial ac os fetha i'n rhacs fe fetha i'n rhacs a dyna ni.'

"Y dyddiau yma ni'n mynd drwy gyfnod o gwestiynu y status quo ynglŷn a pwy sy'n siarad dros bwy a pwy sy'n cael y platfform, a dwi jyst yn meddwl bod e'n gam ymlaen i awduron Cymreig i godi'r ymwybyddiaeth 'na."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig