Prosiect ‘hollbwysig’ i geisio diogelu coed derw
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol coed derw brodorol o dan fygythiad sylweddol oherwydd haint sy'n deillio yn rhannol o newid yn yr hinsawdd.
Er mwyn ceisio brwydro yn erbyn hynny, mae Prifysgol Bangor yn arwain prosiect arloesol i ddiogelu coed derw ar ôl derbyn £1.3 miliwn o gyllid gan raglen Clefydau Planhigion Bacteriol.
Bydd y prosiect Future Oak yn astudio sut mae newid amgylcheddol ac afiechydon yn effeithio ar ficrobiomau coed derw er mwyn amddiffyn dyfodol y rhywogaeth.
Mae'r prosiect yn un o naw yn y rhaglen sydd wedi ei hariannu gan bedwar sefydliad gwahanol - y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, Defra a Llywodraeth yr Alban ac Action Oak.
Yn arwain Future Oak mae'r Athro James McDonald o Ysgol Ecoleg Ficrobaidd Prifysgol Bangor, a fydd yn cydweithio gyda thîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Forest Research, a'r Sylva Foundation - elusen amgylcheddol sy'n canolbwyntio ar goed a choedwigaeth.
Mae'r prosiect yn seiliedig ar 10 mlynedd o ymchwil blaenorol ac wedi ei hariannu am dair blynedd, ond mae'r gwyddonwyr yn gobeithio y bydd y prosiect yn un hir-dymor.
Dywedodd yr Athro McDonald: "Bydd y prosiect Future Oak yn dadansoddi cannoedd o goed derw brodorol ledled Prydain i ddeall pa ficrobau sy'n hybu iechyd ac yn ymladd afiechydon. Yna byddwn yn profi'r microbau hyn i atal bacteria sy'n achosi afiechyd.
"Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu triniaethau bioreoli ar gyfer y microbiome derw, i hyrwyddo coed iachach ac i atal symptomau Dirywiad Aciwt Coed Derw."
Dirywiad Aciwt Coed Derw
Mae Dirywiad Aciwt Coed Derw yn glefyd cymhleth sy'n fygythiad sylweddol i goed derw brodorol. Mae'r afiechyd i'w gael yn bennaf mewn coed derw aeddfed, ond gall coed iau gael eu heffeithio hefyd.
Mae'r coed sy'n dioddef yn cael eu gwanhau gan straen amgylcheddol, fel sychder, ac mae sawl bacteria gwahanol yn achosi i feinwe'r rhisgl mewnol bydru.
Yn y pen draw, mae'r rhisgl allanol yn torri gan ryddhau hylif o'r meinwe fewnol sy'n pydru ac yn achosi 'briwiau gwaedu' yn y boncyff.
Bydd llawer o goed yn marw o fewn pedair i chwe mlynedd ar ôl dechrau dangos y symptomau hyn.
Prosiect 'hollbwysig'
Dywedodd Nicola Spence, Prif Swyddog Iechyd Planhigion, fod y prosiect yn "hollbwysig" ar gyfer diogelu coed derw y dyfodol.
"Bydd prosiect ymchwil Future Oak yn chwarae rhan bwysig wrth ddod o hyd i atebion i wneud y rhywogaeth eiconig hon o goeden yn fwy gwydn," meddai.
Ychwanegodd yr Athro McDonald: "Mae'n bwysig ein bod ni'n deall sut mae ecosystemau yn newid o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd ac afiechydon, ac i geisio meddwl am ffyrdd y gallwn ni reoli hyn a cheisio cyfyngu yr effaith rydyn ni'n ei chael ar yr ecosystemau hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020