'Cyffro a nerfau': Dychwelyd i'r ysgol wedi misoedd adref
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion ysgolion uwchradd Cymru yn dweud eu bod nhw'n "gyffrous" ac yn "nerfus" wrth i rai ohonyn nhw ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.
Mae plant sy'n gwneud TGAU a Safon Uwch yn cael eu blaenoriaethu i ddychwelyd o ddydd Llun, ynghyd â rhai myfyrwyr coleg.
Bydd y rhai ym mlwyddyn 10 ac yn hŷn yn cael eu "hannog yn gryf" i gymryd profion Covid cyflym ddwywaith yr wythnos, a bydd angen gwisgo gorchuddion wyneb yn y dosbarth os nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.
Bydd holl blant oed cynradd hefyd yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth o ddydd Llun, fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion.
Mae'r plant ieuengaf 3 i 7 oed wedi bod yn ôl ers mis Chwefror.
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, eisoes wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd pob disgybl yn ôl yn yr ysgol yn llawn amser ar ôl gwyliau'r Pasg.
'Hynod gyffrous'
Mae Finley o'r Rhyl yn ddisgybl ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Glan Clwyd, ac mae'n edrych ymlaen at fod yn ôl yn yr ysgol wedi'r "sioc ddiwylliannol enfawr" o ddysgu o gartref.
"Wedi meddwl mae'n dangos cymaint dwi'n gwerthfawrogi'r ysgol a pha mor bwysig ydy'r ysgol yn fy mywyd i," meddai.
"Bydd yn wych bod yn ôl yn yr ystafell ddosbarth gyda fy ffrindiau a gyda'r athrawon."
"Does dim modd cymharu'r gwahaniaeth rhwng eistedd o flaen sgrin am chwe awr y dydd ag eistedd mewn ystafell ddosbarth am chwe awr y dydd," ychwanegodd.
"Dyma'r mwyaf cyffrous i fi fod - i ymweld â'r adeilad i fod yn onest - ond hefyd rwy'n nerfus ac yn gobeithio bod popeth yn mynd yn iawn."
Bydd profion Covid ar gael i ddisgyblion hŷn eu gwneud gartref, gyda'r gobaith o ganfod achosion o Covid asymptomatig.
Dywedodd Finley ei fod yn gobeithio y bydd ei gyd-ddisgyblion yn gweld yr angen i gymryd y profion.
"Yn bendant bydd rhywfaint o wrthwynebiad gan nad ydy rhai pobl erioed wedi profi unrhyw beth fel hyn," meddai.
"Yn y pen draw, os ydy o'n mynd i'n cadw ni i gyd yn ddiogel yna mae'n angenrheidiol.
"Dwi'n bendant yn mynd i wneud y profion os fydd yn amddiffyn pobl dwi'n eu hadnabod a'n ffrindiau."
'Troedio'n ofalus i ddechrau'
Bydd gan ysgolion hefyd yr hyblygrwydd i gael disgyblion blwyddyn 10 a 12 yn ôl, tra'n cynnig sesiynau lles i blant blynyddoedd 7, 8 a 9.
Dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ei bod wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn wrth baratoi ar gyfer y disgyblion yn dychwelyd.
"Mae cyfathrebu dyddiol wedi bod rhyngom ni fel ysgol a'r plant er mwyn sicrhau na fydd dim yn eu poeni wrth ddychwelyd," meddai Dr Llinos Jones.
Ychwanegodd fod pawb wedi derbyn eu hamserlen ar gyfer y pythefnos nesaf ymlaen llaw, a bod y mesurau diogelwch oedd wedi eu rhoi ar waith cyn y Nadolig yn parhau'n allweddol.
Maen nhw'n cynnwys golchi dwylo, gwisgo gorchudd wyneb, ymbellhau cymdeithasol a chadw o fewn y blynyddoedd swigod.
Dywedodd Dr Jones eu bod fel staff yn "troedio'n ofalus iawn" am y pythefnos cyn gwyliau'r Pasg ac mai grwpiau penodol o ddisgyblion yn unig oedd yn cael dychwelyd nawr.
"Am y pythefnos cyntaf nid oes mwy na dwy flynedd mewn yr un diwrnod ac yna mi fydd yn codi i dair blynedd erbyn diwedd yr wythnos olaf."
Ychwanegodd y byddai disgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 yn cael diwrnod cyfan yn yr ysgol yn ystod y cyfnod yma.
Mae'r profion Covid yn y cartref hefyd yn mynd i roi mwy o hyder i rai teuluoedd meddai Dr Jones, er ei bod yn nodi nad yw'r profion yma'n orfodol.
'Dylid fod wedi brechu staff'
Yn ôl Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, maen nhw'n awyddus iawn i weld ysgolion yn ailagor i bob plentyn "cyn belled â bod y wyddoniaeth yn cefnogi hyn a'i bod hi'n ddiogel i wneud hynny".
Dywedodd Ms Doel hefyd fod yr undeb yn parhau'n siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dewis blaenoriaethu brechu staff ysgolion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021