Croesawu Gruff y ci i Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gruff y ciFfynhonnell y llun, Ysgol Plasmawr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gruff yn mynd i'r ysgol bob dydd ymhen rhai wythnosau

Wrth i nifer o ddisgyblion uwchradd ddychwelyd i'r ysgol am y tro cyntaf wedi'r cyfnod clo bydd Ysgol Gyfun Plasmawr yng Nghaerdydd yn croesawu un aelod arall - Gruff y ci.

Mae Gruff eisoes wedi cwrdd â'r pennaeth John Hayes a ddydd Llun fe fydd yn treulio ychydig mwy o oriau yn y dosbarth.

"Syniad ar y cyd o'dd e ein bod yn cael ci, a hynny wedi i ni weld bod cael anifail yn gallu bod o gymorth mawr i blant bregus a'r rhai sy'n dioddef yn emosiynol," meddai Trystan Williams, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Plasmawr

"Mae sawl tystiolaeth yn nodi'r budd o gael anifail. Mewn ysgol flaenorol ro'n yn gweld bod cael bochdew yn y dosbarth wedi gweithio'n dda," ychwanegodd Mr Williams wrth siarad â Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Plasmawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gruff eisoes wedi cyfarfod â phennaeth Plasmawr, John Hayes

Dywed Mr Williams fod yna lot o waith ymchwil wedi'i wneud gan gynnwys siarad â therapyddion arbenigol a bod nifer fawr o asesiadau risg wedi'u cynnal.

"Ryw naw wythnos oed yw Gruff ar hyn o bryd a dyw e ddim yn gallu mynd i'r ysgol bob dydd eto - rhaid sicrhau bod e wedi cael y brechiadau iawn a'i fod yn gallu mynd i'r tŷ bach ond fe fydd yn cael ymweld ddydd Llun.

"Ry'n ni wedi 'neud lot o waith ymchwil ac yn ystod y cyfnod clo mae rhai staff wedi bod yn dod â'u hanifeiliaid i'r ysgol - ry'n wedi gweld bod hynny yn tawelu plant bregus oedd yn yr ysgol. Roedd hynny mewn ffordd yn cadarnhau ein penderfyniad."

Rhannu pryderon

Bydd Gruff yn byw gyda Trystan Williams a'i gariad a phan yn barod bydd yn mynd i'r ysgol bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Plasmawr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y plant yn dysgu gofalu am Gruff a'r gobaith yw yn rhannu eu pryderon ag ef

"Dwi ddim wedi arfer lot â chŵn, ro'dd rhai gan fy Nhad-cu a Mam-gu ger Caerfyrddin ond dwi wedi darllen tipyn a thrwy lwc mae fy nghariad yn fwy cyfarwydd â chŵn," meddai Mr Williams.

"Mae rhai o'r plant eisoes wedi'i weld pan ddaeth i gyfarfod â'r pennaeth wythnos diwethaf ac ro'n nhw wrth eu bodd.

"Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da ac y bydd o gymorth mawr i nifer sydd yn or-bryderus - bydd y plant yn dysgu gofalu am y ci, mynd â'r ci am dro ac hefyd yn dysgu am hylendid ond y gobaith mwyaf yw y bydd plant yn gallu rhannu eu pryderon gyda'r ci," ychwanegodd Mr Williams.

Mae gan Gruff hefyd ei gyfrif trydar, dolen allanol ac mae e eisoes wedi dechrau trydar ambell neges.

Pynciau cysylltiedig