Mesur plismona yn 'cyfyngu ar yr hawl i brotestio'

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Bydd ASau Cymreig o'r gwrthbleidiau yn pleidleisio yn erbyn mesur plismona newydd Llywodraeth y DU, gan ddweud ei fod yn amharu ar yr "hawl i brotestio'n heddychlon".

Mae'r Blaid Lafur wedi beirniadu'r mesur am ei fod yn "anwybyddu trais yn erbyn merched".

A dywed Plaid Cymru y byddai'n rhoi "straen ychwanegol" ar y system gyfiawnder yng Nghymru.

Ond yn ôl y gweinidog dros blismona, Kit Malthouse, byddai'r ddeddfwriaeth yn mynd i'r afael "â'r trais sy'n effeithio ar bawb".

Bydd ASau yn trafod Mesur yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a'r Llysoedd (PCSC) yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun.

Gosod amodau ar brotestiadau

Mae rhai wedi galw am ddileu cymalau yn y mesur, a fyddai yn eu tyb nhw, yn cyfyngu ar yr hawl i gynnal protestiadau heddychlon.

Ond yn ôl Llywodraeth y DU byddai'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i'r heddlu osod amodau megis pennu amser dechrau a gorffen protestiadau, a chyfyngu ar lefelau sŵn.

Mae'r ddadl yn cael ei chynnal yng nghysgod llofruddiaeth Sarah Everard, sydd wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar.

Mewn gwylnos i gofio amdani yn Llundain nos Sadwrn, cafodd nifer o fenywod eu rhoi mewn cyffion a'u symud oddi yno gan yr heddlu, gan ennyn beirniadaeth o sawl cyfeiriad.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu'r Met eu beirniadu am y ffordd y delion nhw â gwylnos yn Llundain nos Sadwrn er cof am Sarah Everard

Dywed y Blaid Lafur ei bod wedi cynnig argymhellion i gynnwys taclo aflonyddu ar y stryd yn y mesur, ac i wneud casáu merched, misogyny, yn drosedd casineb.

Dywedodd Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Nick Thomas-Symonds: "Nid yw Mesur Plismona sy'n gwneud dim ynglŷn â thrais yn erbyn merched, yn deilwng o'r enw.

"Mae'r Torïaid wedi cael cyfle ar ôl cyfle i wneud newidiadau. Ac eto mae trais yn erbyn merched a genethod yn cynyddu, mae euogfarnau yn gostwng ac mae gwasanaethau'n dioddef."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwylnos ei chynnal er cof am Sarah Everard nos Sadwrn

Rhybuddiodd llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder, Liz Saville Roberts AS, y byddai'r gyfraith yn "dwysáu'r anghydraddoldeb sy'n bodoli yn ein system gyfiawnder troseddol", a galwodd am ddatganoli'r drefn gyfiawnder i o Lundain i Gymru.

Argymhellion 'aneglur'

Dywed Plaid Cymru ei bod yn "aneglur" sut y byddai rhai o argymhellion y mesur yn cael eu cyflawni a'u hariannu yng Nghymru, lle mae iechyd ac addysg yn faterion sydd wedi eu datganoli.

Mae'r argymhellion hynny'n cynnwys: Dyletswydd Trais Difrifol, lle byddai disgwyl i wasanaethau cyhoeddus lleol weithio gyda'i gilydd i ostwng lefelau trais difrifol, a Llysoedd Datrys Problemau, a fyddai'n taclo'r rhesymau cudd tu ôl i droseddu megis cam-drin sylweddau a materion iechyd meddwl.

Dywedodd y Gweinidog Plismona, Kit Malthouse y byddai'r dyletswydd trais difrifol yn gweithio drwy gael awdurdodau lleol i gydweithio gyda'r heddlu i adnabod y rhesymau tu ôl i drais mewn ardal, ac yna i ddyfeisio strategaeth i ddelio â'r trais.

"Byddai hynny'n taclo'r trais sy'n effeithio ar bawb, yn cynnwys merched a genethod," meddai.