AS wedi ei cham-drin ar-lein am lun yn Nhŷ'r Cyffredin

  • Cyhoeddwyd
Carolyn Harris AS
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carolyn Harris AS bod lot o'r gamdriniaeth yn canolbwyntio ar ei hedrychiad

Mae AS yn dweud y derbyniodd hi "gamdriniaeth erchyll" ar ôl i bobl rannu llun ohoni hi ar y cyfryngau cymdeithasol yn hawlio'n anghywir ei bod hi'n cysgu yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dywedodd Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe, bod y llun o Sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mercher wedi "agor lan y gatiau" at gamdriniaeth "di-baid" ar-lein.

Yn ôl Ms Harris, roedd lot o'r camdriniaeth yn canolbwyntio ar ei hedrychiad ac yn targedu hi gan ei bod hi'n fenyw.

Ychwanegodd bod ei phlant wedi eu "dinistrio" ar ôl gweld y gamdriniaeth.

Dywedodd Ms Harris, dirprwy arweinydd y blaid Lafur, wrth siarad ar BBC 5 Live pan welodd hi'r llun - llun ohoni hi'n darllen ar ei ffôn yn ystod y sesiwn - ei "hunig ystyriaeth" oedd fod y llun wedi'i dynnu "o ongl wael".

Cafodd hyn ei ddilyn gan sylwadau ar-lein ar draws y cyfryngau cymdeithasol o bobl yn beirniadu hi am gysgu - beirniadaeth mae'n dweud oedd yn anghywir.

Dywedodd bod rhywun hyd yn oed wedi gweiddi at ei drws ffrynt, "nes di fwynhau dy gwsg?".

Dywedodd: "Yn ddiamod doeddwn ni ddim - a byswn ni byth - yn mynd i gysgu yn ystod sesiwn yn y gwaith."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carolyn Harris ei bod yn edrych ar ei ffôn yn y llun a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol

"Dydy e ddim yn rhywbeth bydden ni'n gwneud, ac i rywun ddweud hwnna, ac agor y gatiau.

"Dydw i methu hyd yn oed dweud wrthych chi'r pethau sydd wedi cael eu dweud wrtha'i.

"Mae am fy mhwysau, am fy maint, am fy ngwallt. Mae'n anghredadwy."

Dywedodd Ms Harris bod achosion fel hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â pham nad oes mwy o fenywod yn dewis mynd mewn i wleidyddiaeth.