Dau ar restr fer gwobr llywodraeth yn ymgeiswyr Llafur

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
GwobrauFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae dau o'r tri ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru yn sefyll fel ymgeiswyr Llafur yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Cafodd ymgeiswyr etholiad Llafur Elizabeth Buffy Williams a Dr Mahaboob Basha eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ysbryd y gymuned, dolen allanol gan bwyllgor annibynnol.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi cwestiynu a yw'n "briodol" i'r prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, ddewis yr enillydd "mewn blwyddyn etholiad".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr awgrym o "gymhelliad gwleidyddol...yn bychanu'r cyfraniad enfawr y mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi'i wneud i Gymru".

'Gwobrwyo ymgeiswyr etholiad Llafur?'

Cyhoeddwyd gwobrau blynyddol Dewi Sant yn gyntaf yn 2013, er mwyn cydnabod campau eithriadol pobl a sefydliadau, gydag wyth o'r categorïau wedi'u henwebu gan y cyhoedd.

Mae'r tri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori yn cael eu dewis gan bwyllgor annibynnol, cyn i enillydd pob categori gael ei ddewis gan y prif weinidog, gyda'r seremoni wobrwyo rithiol ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Llyw.cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau o'r ymgeiswyr ar gyfer y wobr ysbryd y gymuned yn ymgeiswyr etholiad i Lafur

Mae ymgeisydd Llafur yn y Rhondda, Elizabeth Buffy Williams, a Dr Mahaboob Basha, sy'n sefyll yng Ngorllewin De Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr ysbryd y gymuned.

Mae Ms Williams hefyd yn rheolwr cyffredinol Canolfan Pentre, canolfan gymunedol sy'n cael ei rhedeg yn bennaf gan wirfoddolwyr.

Etholaeth y Rhondda yw prif darged Llafur yn etholiad y Senedd ar 6 Mai, a hynny ar ôl colli'r sedd yn etholiad 2016 i arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood.

Mae Dr Mahaboob Basha wedi'i restru fel "hyrwyddwr cydlyniant cymunedol a'r gymuned Fwslimaidd yn Abertawe am nifer o flynyddoedd ac mae'n eiriolwr brwdfrydig dros y sawl sydd mewn angen".

Nid yw Llafur erioed wedi ennill sedd ranbarthol yng Ngorllewin De Cymru mewn unrhyw etholiad yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r unigolion dan sylw yn gystadleuwyr teilwng o ystyried eu gwasanaeth a'u cyfraniad.

"Fodd bynnag, mae cwestiynau ynghylch a yw'n briodol, yn enwedig mewn blwyddyn etholiad, i'r prif weinidog gael ei weld yn defnyddio gwobrau mawreddog Dewi Sant i wobrwyo ymgeiswyr etholiad Llafur."

'Bychanu cyfraniad enfawr'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy'n cydnabod campau eithriadol pobl yng Nghymru.

"Mae aelodau o'r cyhoedd yn enwebu pobl y credant eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig ac mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi eu dewis ar gyfer y rhestr fer gan bwyllgor sy'n annibynnol o Lywodraeth Cymru."

"Mae awgrymu bod cymhelliad gwleidyddol yn y gwobrau hyn yn bychanu'r cyfraniad enfawr y mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi'i wneud i Gymru, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf," ychwanegodd y llefarydd.