Brandon Cooper wedi'i alw i garfan Cymru am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Brandon CooperFfynhonnell y llun, DeFodi Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brandon Cooper wedi cynrychioli tîm dan-21 Cymru ar naw achlysur

Mae amddiffynnwr ifanc Abertawe, Brandon Cooper wedi cael ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gemau yn erbyn Mecsico a'r Weriniaeth Siec.

Fe wnaeth Cooper, 20, dreulio hanner cyntaf y tymor ar fenthyg yng Nghasnewydd cyn cael ei alw yn ôl gan Yr Elyrch.

Roedd wedi bod yn rhan o garfan dan-21 Cymru - sy'n paratoi am gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon - cyn cael ei alw i'r brif garfan ddydd Iau.

Does dim gwybodaeth am ffitrwydd aelodau eraill o'r garfan, gan gynnwys Joe Allen, fu'n rhaid gadael y maes yn gynnar yn y golled yn erbyn Gwlad Belg nos Fercher.

Mae dau amddiffynnwr - Ben Davies a Tom Lockyer - eisoes wedi gadael y garfan oherwydd anafiadau.

Ni fydd amddiffynnwr St Pauli, James Lawrence ar gael ar gyfer y ddwy gêm nesaf chwaith am nad yw'n cael teithio i'r DU oherwydd cyfyngiadau Covid-19 Yr Almaen.

Bydd Cymru'n herio Mecsico mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd nos Sadwrn cyn croesawu'r Weriniaeth Siec i'r brifddinas ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd nos Fawrth.