'Rhagrith' taflen etholiadol uniaith Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog dan y lach wedi i bamffledi uniaith Saesneg gael eu dosbarthu yn ei enw ef i rai cartrefi yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.
Dywedodd ymgeiswyr eraill fydd yn gwrthwynebu Mark Drakeford yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai wrth raglen Newyddion S4C bod y Prif Weinidog yn "rhagrithiol", gan ei gyhuddo o ddangos "diffyg parch" a "dirmyg" at yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Llafur Cymru, maen nhw'n "ymwybodol bod fersiwn uniaith Saesneg o bamffledi wedi cael eu dosbarthu gan y blaid yn lleol" ond y byddai "pamffledi etholiadol Mark Drakeford, gan gynnwys y rhai rhadbost, yn ddwyieithog" ac y byddai hynny "yn parhau".
Ar y pamffled dan sylw, roedd llun amlwg o'r Prif Weinidog gyda'r geiriau Saesneg 'Labour News' a'r is-bennawd 'Mark Drakeford your member of the Senedd'.
Yn ôl Rhys ab Owen, sydd yn sefyll dros Blaid Cymru yn yr etholaeth "Mae'n siomedig. Dylai taflenni sydd yn dod oddi wrth y Prif Weinidog fod yn ddwyieithog - yn Gymraeg ac yn Saesneg.
"Un peth yw cael targed o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050, peth arall yw gweithredu ar hynny. Mae'r ffaith bod e'n anfon taflenni Saesneg yn unig yn dangos bod e ddim yn gweithredu'r hyn mae'n dweud mae am ei wneud.
"Er mwyn normaleiddio'r iaith mae'n rhaid cael popeth yn ddwyieithog ac mae cael taflenni dwyieithog gan y Prif Weinidog yn hollbwysig."
Neil McEvoy ddaeth yn ail i Mark Drakeford yn yr etholiad diwethaf i'r Senedd. Bryd hynny, roedd e'n ymgeisydd Plaid Cymru ond mae bellach yn cynrychioli plaid newydd Propel.
"Maen nhw wedi dangos dirmyg at yr iaith" meddai Mr McEvoy.
"Dwi'n siomedig, ond ddim yn synnu, ond yn y diwedd does dim ots achos yma mae'r iaith yn tyfu. Mae e wedi newid llawer yma yn y Tyllgoed, dwi'n gallu clywed yr iaith yn y siopau ac ar y strydoedd."
Mewn datganiad, dywedodd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru "Y rhagrith sydd yn drewi. Fel Prif Weinidog, mae Mark Drakeford yn gwario miliynau ar dorri fforest er mwyn cyfieithu holl ffurflenni ei lywodraeth i'r Gymraeg. Eto i gyd, pan mae'n dod i wario arian y Blaid Lafur, mae'n cyfaddef bod hynny'n wastraff amser ac yn printio'i neges yn uniaith Saesneg sydd yn gam synhwyrol."
Ni gynigiodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, y Ceidwadwyr Cymreig na'r Blaid Werdd, sydd hefyd wedi cyhoeddi bod ganddynt ymgeiswyr yng ngorllewin Caerdydd, unrhyw sylw.
Dyma'r holl ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn sefyll yng ngorllewin Caerdydd:
Mark Drakeford (Llafur)
Sean Driscoll (Ceidwadwyr)
Martyn Ford (Plaid Diddymu Cynulliad Cymru)
David Griffin (Y Blaid Werdd)
Heath Marshall (Democratiaid Rhyddfrydol)
Neil McEvoy (Propel)
Rhys ab Owen (Plaid Cymru)