Nick Ramsay i sefyll fel ymgeisydd annibynnol ym Mynwy
- Cyhoeddwyd
Mae Nick Ramsay wedi gadael y Ceidwadwyr gan ddweud y bydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol ym Mynwy yn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.
Cafodd Mr Ramsay ei ddad-ddewis gan gangen leol ei blaid ar ôl cynrychioli'r etholaeth am 14 o flynyddoedd.
Dywedodd nad oedd yn hapus gyda chyfeiriad y Blaid Geidwadol yng Nghymru.
Gwnaed cais i'r Ceidwadwyr Cymreig am sylw.
Mewn datganiad dywedodd Mr Ramsay: "Rwyf heddiw wedi ymddiswyddo o'r Blaid Geidwadol Gymreig a'r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.
"Rwyf yn gynyddol wedi fy nadrithio gydag agweddau o gyfeiriad y Blaid Geidwadol a'r symudiad i ffwrdd o dir canol gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig."
Ychwanegodd: "Fe allaf gadarnhau y byddaf yn ymladd yn etholiadau Mai ar blatfform annibynnol, platfform ar gyfer newid go iawn."
Fe wnaeth y berthynas rhwng Mr Ramsay a'r Gymdeithas Geidwadol leol yn Sir Fynwy waethygu yn 2020. Cafodd ei ddad-ddewis fel ymgeisydd ym mis Rhagfyr.
Costau cyfreithiol
Fe wnaeth Mr Ramsay geisio rhwystro'r aelodau rhag trafod y pwnc o'i ddisodli fel ymgeisydd gan fynd i'r llysoedd.
Ond penderfynodd beidio bwrw 'mlaen â'r achos.
Cafodd orchymyn i dalu costau cyfreithiol o £25,000.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth y Ceidwadwyr ym Mynwy enwebu Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, i gynrychioli'r Blaid Geidwadol yn yr etholiad.
Yn etholiad 2016 roedd gan Mr Ramsay fwyafrif o 5,147, gyda Llafur yn ail.
Mae'r ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Mynwy ar 6 Mai yn cynnwys:
Ceidwadwyr - Peter Fox
Y Blaid Werdd - Ian Chandler
Llafur - Catrin Maby
Democratiaid Rhyddfrydol - Jo Watkins
Plaid Cymru - Hugh Kocan
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020