Carcharu saith am ladd bachgen 17 oed yn Y Barri
- Cyhoeddwyd

Gyda'r cloc o'r chwith uchaf: Leon Symons, Leon Clifford, Peter McCarthy, Lewis Evans, Raymond Thompson, Ryan Palmer a Brandon Liversidge
Mae saith o bobl wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 119 o flynyddoedd am ladd bachgen 17 oed yn Nociau'r Barri.
Cafodd Harry Baker o Gaerdydd ei erlid gan gang cyffuriau a'i drywanu i farwolaeth ym mis Awst 2019
Yn gynharach fis yma cafwyd tri dyn a llanc 17 oed yn euog o lofruddiaeth, tra bod tri dyn arall wedi'u cael yn euog o ddynladdiad.
Clywodd y llys bod Harry Baker wedi cael ei "hela'n ddidrugaredd" cyn cael ei drywanu naw gwaith â chyllell mewn modd "gwaedlyd a didostur" mewn iard yn Nociau'r Barri ym Mro Morgannwg.

Roedd y chwe dyn a bachgen 17 oed wedi gwadu llofruddiaeth Harry Baker
Gall BBC Cymru hefyd adrodd enw'r llanc 17 oed a laddodd Harry Baker, wedi i'r barnwr godi'r cyfyngiadau cyfreithiol ar ei adnabod.
Brandon Liversidge oedd yn arwain y gang i'w erlid, ac fe drywanodd i farwolaeth ag yntau ond yn 16 oed ar y pryd.
Clywodd y llys bod y ddau yn adnabod ei gilydd, a bod y gang wedi erlid Harry Baker am filltir ar ôl iddo ddechrau gwerthu cyffuriau yn eu hardal nhw.

Y dedfrydau yn llawn
Leon Symons, 22 - Cafwyd yn euog o lofruddiaeth - Wedi'i ddedfrydu i oes yn y carchar a bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 28 mlynedd dan glo;
Leon Clifford, 23 - Cafwyd yn euog o lofruddiaeth - Wedi'i ddedfrydu i oes yn y carchar a bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 27 mlynedd dan glo;
Peter McCarthy, 38 - Cafwyd yn euog o lofruddiaeth - Wedi'i ddedfrydu i oes yn y carchar a bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 23 mlynedd dan glo;
Brandon Liversidge, 17 - Cafwyd yn euog o lofruddiaeth - Wedi'i ddedfrydu i 20 mlynedd dan glo;
Ryan Palmer, 34 - Cafwyd yn euog o ddynladdiad - Wedi'i ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar;
Raymond Thompson, 48 - Cafwyd yn euog o ddynladdiad - Wedi'i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar;
Lewis Evans, 62 - Cafwyd yn euog o ddynladdiad - Wedi'i ddedfrydu i bedair blynedd o garchar.


Cafodd corff Harry Baker ei ganfod yn Nociau'r Barri ym mis Awst 2019
Yn darllen datganiad i'r llys, dywedodd mam Harry Baker bod y digwyddiad "wedi newid ein bywydau am byth".
"Mae colli eich plentyn mewn ffordd mor drawmatig a threisgar yn anodd ymdopi ag ef," meddai.
Ychwanegodd ei dad ei fod yn "dal i lefain pob dydd" am yr hyn ddigwyddodd.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Casnewydd, clywodd y rheithgor sut bod y grŵp wedi penderfynu "y dylai Harry Baker farw, neu o leiaf ddioddef niwed difrifol iawn" ar ôl crwydro i'w hardal nhw i werthu cyffuriau.
Cafodd ei gornelu ar stryd, cyn cael ei erlid am filltir, gan y grŵp oedd yn cario arfau.
Dywedodd yr erlynydd Paul Lewis QC bod Mr Baker wedi bod yn "chwilio am fusnes" yn Y Barri gyda'i ffrind Louis Johnson wrth iddyn nhw ymweld â dau berson oedd yn defnyddio cyffuriau.
Clywodd y rheithgor bod Mr Baker wedi dod o hyd i loches mewn iard yn y dociau, cyn i'r grŵp ddod o hyd iddo, ei drywanu dro ar ôl tro, a'i adael i farw yn yr iard.

Clywodd y llys bod Harry Baker wedi cael ei "hela'n ddidrugaredd" yn ardal y dociau yn Y Barri
Dywedodd Kelly Huggins o Wasanaeth Erlyn y Goron eu bod yn gweld "cynnydd sylweddol" yn nifer y troseddau treisgar sy'n gysylltiedig â chyffuriau.
"O fy mhrofiad i rydyn ni'n gweld cynnydd sylweddol yn nifer y troseddau'n ymwneud â chyllyll, a mwy o lofruddiaethau o ganlyniad i droseddau â chyllyll," meddai wrth BBC Cymru.
"Mae'n ymddangos bod cyffuriau yn rhan fawr o nifer o'r troseddau hynny.
"Gall cyffuriau ddenu unrhyw berson o unrhyw oed ac unrhyw gefndir - gall ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw bwynt o'u bywydau yn anffodus."
Galw am newid
Mae Martin Blakebrough, pennaeth y sefydliad camddefnyddio sylweddau Kaleidoscope, yn credu y dylai marwolaeth Harry Baker nawr annog gwleidyddion ac ymarferwyr i adolygu pa mor effeithiol y mae gwasanaethau yng Nghymru wedi bod wrth atal niwed sy'n cael ei achosi gan gyffuriau dosbarth A.
Meddai: "Byddwn yn gobeithio y bydd pobl yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y sefyllfa erchyll hon, ac ar un ystyr yn ceisio mynd yn ôl, o ran 'Iawn, felly beth ddigwyddodd i'r llanc hwn fel ei fod yn gwerthu cyffuriau?'
"'Beth ddigwyddodd mewn gwirionedd i'r grŵp a oedd yn ymwneud â chyffuriau? Beth ellid fod wedi'i wneud yn well?' Felly rhaid mynd yn ôl i'r camau cyntaf."
Ychwanegodd Mr Blakebrough: "Rwy'n credu, gydag unrhyw drasiedi, bod yn rhaid i ni bwyso a mesur: 'A oes unrhyw beth y gallem fod wedi'i wneud yn well?' Ac rwy'n credu mai'r realiti yw ydy - fe allech chi yn bendant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020