Rhyddhau afancod dan drwydded am y tro cyntaf yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae afancod Dyffryn Dyfi yn gysylltiad gyda'r gorffennol meddai'r naturiaethwr Iolo Williams

Mae'r ddau afanc trwyddedig cyntaf wedi cyrraedd Cymru.

Daeth y pâr i lawr o'r Alban dydd Gwener, ac maent bellach yn eu cartref newydd ar Gors Dyfi ger Machynlleth.

Mae pysgotwyr a ffermwyr lleol yn gwrthwynebu'r cam, gyda nifer yn poeni am effaith yr afancod ar y dirwedd.

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi caniatáu trwydded i hyd at chwech o afancod gael eu rhyddhau i gorlan gaeedig ar Gors Dyfi.

'Sefydlogi'r ecosystem'

Fe ddiflannodd y mamaliaid o Brydain yn yr 16eg Ganrif ar ôl cael eu hela am eu cig a'u ffwr.

Y gobaith ydy y bydd yr afancod yn helpu symud coed helyg, gydag amgylcheddwyr yn rhestru llu o fanteision eraill mewn sefydlogi'r ecosystem.

Ffynhonnell y llun, Emyr Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y naturiaethwr a'r darlledwr Iolo Williams yn y warchodfa natur i groesawu'r afancod

Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, maen amhosib sicrhau bod anifeiliaid gwyllt yn aros mewn corlan gaeedig.

Mae prosiect arall yn gobeithio sicrhau trwydded i ryddhau 10 pâr arall o afancod yn rhydd i Afon Dyfi.

Mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn croesawu'r afancod i Warchodfa Natur Cors Dyfi gan ddweud: "Mae heddiw'n ddiwrnod mawr iawn achos, o'r diwedd, mae'r afanc yn ôl gyda ni yng nghanolbarth Cymru.

"Am y tro cyntaf ers pedair canrif o leiaf mae 'na gysylltiad gyda'r gorffennol yn ôl.

"Rhaid i ni beidio anghofio bod yr anifeiliaid yma yn gallu creu cynefinoedd gwych ar gyfer bywyd gwyllt.

"Maen nhw'n saff, mewn pen saith erw gyda digon o le a digon o fwyd, a dwi fel un yn falch iawn o weld yr afanc yn ôl."

'Risg o ddianc yn isel iawn'

Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn wedi enwi'r afanc mwyaf yn Barti Ddu, am ei fod yn Black Morph, sef math prin o afanc.

Y bwriad yw dod â gweddill y teulu i lawr o'r Alban yn yr wythnosau nesaf.

Ffynhonnell y llun, Emyr Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr afancod eu rhyddhau ym Mhowys ar ôl cael eu cludo o'r Alban

Yn ôl Kim Williams, fydd yn gwarchod yr afancod o ddydd i ddydd ar y safle: "Byddwn ni'n defnyddio camera traps a CCTV ar y cae i gadw llygad ar yr afancod.

"Byddwn ni'n dod yma bob dydd i gerdded y ffens ac i wylio sut maen nhw'n ymddwyn yn eu cartref newydd.

"Rydym ni wedi gwneud popeth rydym ni'n gallu i sicrhau bod yr afancod yn aros yn y pen, achos mae gyda ni waith sydd angen ei wneud ar y gwlypdir yma.

"Does dim byd gyda dim risg o gwbl, ond rydym ni'n meddwl bod y risg o'r afancod yn dianc yn isel iawn."