Tafarndai, caffis a bwytai i ailagor tu allan erbyn 26 Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TafarnFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai tafarndai ddechrau gweini yn yr awyr agored o ddydd Llun, 26 Ebrill

Bydd holl fyfyrwyr Cymru'n dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar 12 Ebrill, os fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol.

Bydd siopau'n cael ailagor o'r un diwrnod hefyd, yn ogystal â gwasanaethau cysylltiad agos, fel salonau harddwch.

Yn amodol ar niferoedd achosion Covid, bydd atyniadau a lletygarwch awyr agored - gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai - yn ailagor o 26 Ebrill.

Fe allai lletygarwch dan do ailagor erbyn diwedd mis Mai, gyda champfeydd i ailagor ar 10 Mai.

O 12 Ebrill, bydd pobl yn cael teithio i ac o Gymru o weddill y DU a'r Ardal Deithio Gyffredin, sy'n cynnwys ynysoedd Jersey, Guernsey a Manaw ac Iwerddon.

Dywedodd Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru y dylid caniatáu i gampfeydd ailagor ar unwaith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd, dim ond rhai disgyblion uwchradd sydd wedi dychwelyd i'r ysgol

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Diolch i wir ymdrech tîm ym mhob cwr o Gymru, mae nifer yr achosion o'r coronafeirws yn parhau'n sefydlog, ac mae'r rhaglen frechu yn parhau i symud yn gyflym.

"O ganlyniad, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i barhau â'i dull gofalus, cam wrth gam, o lacio'r cyfyngiadau.

"Mae'r adolygiad rydym wedi'i gwblhau'r wythnos hon yn golygu y gallwn barhau â'n rhaglen o ailagor yr economi ymhellach a llacio'r cyfyngiadau sydd ar waith."

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Gyda'r tywydd yn gwella a mwy o gyfleoedd i weld teulu a ffrindiau, mae rhesymau dros deimlo'n optimistaidd.

"Fodd bynnag, ni allwn bwyso ar ein rhwyfau eto. Mae angen i bob un ohonom fod yn wyliadwrus o hyd, a pharhau i wneud ein rhan i gadw'r clefyd angheuol hwn dan reolaeth."

Beth ydy'r dyddiadau pwysig?

Dydd Llun, 12 Ebrill

  • Holl fyfyrwyr Cymru'n dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb;

  • Pobl yn cael teithio i ac o Gymru o weddill y DU;

  • Siopau sy'n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn cael ailagor, yn ogystal â gwasanaethau cysylltiad agos, fel salonau harddwch.

Dydd Llun, 26 Ebrill

  • Atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;

  • Gall lletygarwch awyr agored ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Lletygarwch dan do yn parhau i fod dan gyfyngiadau.

Dydd Llun, 3 Mai

  • Bydd modd cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl;

  • Gall derbyniadau priodasau ddigwydd yn yr awyr agored, ond byddan nhw hefyd wedi'u cyfyngu i 30 o bobl.

Dydd Llun, 10 Mai

  • Gall campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;

  • Bydd aelwydydd estynedig unwaith eto yn caniatáu i ddwy aelwyd gwrdd a chael cyswllt dan do.

Mae'r dyddiadau uchod yn ddibynnol ar achosion Covid yn parhau'n isel yng Nghymru.

'Gobeithio byddwn ni'n brysur'

Dywedodd Caryl Davies o siop ddillad Rig Out yn Llandeilo: "Roedd yna siom fawr y tro diwethaf pan nad o'n ni methu agor felly mae heddi yn newyddion grêt.

"Gallwn ni ganolbwyntio ar agor ac mae'r stoc wedi cyrraedd."

Ychwanegodd: "Mae rhai cwsmeriaid yn hoffi dod mewn a theimlo'r defnydd ac i drio'r dillad, ac mae'n braf i ni roi mewnbwn.

"Mae Llandeilo yn llawn siopau annibynnol a ni gyd yn barod i agor. Gobeithio gyda'r haf o'n blaenau y byddwn ni yn brysur."

Beth am yn hwyrach ym Mai?

Bydd yr adolygiad ar 13 Mai yn digwydd wythnos ar ôl etholiad Senedd Cymru.

Dywed Llywodraeth Cymru fod paratoadau'n cael eu gwneud i ganiatáu i fwy o lacio ar y cyfyngiadau gael ei ystyried, os yw'r amodau'n parhau'n ffafriol.

O ddydd Llun, 17 Mai fe allai gweithgareddau dan do i blant a chanolfannau cymunedol ailagor.

Fe allai gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion, a fydd wedi'u cyfyngu i uchafswm o 15 o bobl - gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff - ailddechrau.

Ar ôl 17 Mai, fe allai lletygarwch dan do, a'r llety ymwelwyr sy'n weddill, ailagor cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y rhain yn "ddyddiadau dangosol er mwyn rhoi amser i'r sectorau gynllunio a pharatoi".

Bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar y rhain yn nes at yr amser, meddai'r llywodraeth.

Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: "Rhaid i'r Llywodraeth Lafur esbonio pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser iddynt roi mwy o sicrwydd i fusnesau ynghylch pryd y gallant ddisgwyl ailagor.

"Ar ôl bod ar gau cyhyd, y lleiaf y maen nhw'n ei haeddu yw mwy o amser i baratoi.

"Tra bod y newyddion hyn yn cynnig llygedyn o obaith i letygarwch, bydd yn amser eto cyn y gall y sector ailagor yn llawn.

"Mae'n ddyletswydd ar Lafur i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i helpu'r busnesau hynny i fynd yn ôl ar eu traed - gan gynyddu'r pot o arian parod sydd ar gael i fusnesau.

"Dro ar ôl tro, mae busnesau gweithgar o Gymru sy'n ffurfio asgwrn cefn ein heconomi wedi cael eu siomi a'u gadael ar ôl gan y llywodraeth Lafur hon - y lleiaf y gallant ei wneud yw cloddio'n ddwfn a chefnogi sectorau allweddol yn economi Cymru.

"Yn y cyfamser, dylai campfeydd allu ailagor yn ddiogel nawr - yn anad dim i helpu gyda lles ac iechyd meddwl pobl sydd wedi dioddef cymaint yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond siopau sy'n gwerthu nwyddau hanfodol sydd wedi cael agor i'r cyhoedd ers cyn Nadolig

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Tra'n croesawu ailagor manwerthu sydd ddim yn hanfodol, mae'n drueni nad yw Llafur wedi gweld eu ffordd yn glir i ailagor campfeydd wedi i weinidogion ddweud fod hynny'n flaenoriaeth ddeufis yn ôl, ac o ystyried yr effaith mae'r cyfnod clo wedi ei gael ar iechyd corfforol a meddyliol miloedd o bobl Cymru.

"Gyda'r gwelliannau sydd wedi digwydd ar frechu a nifer yr achosion, rydym hefyd yn credu y dylid fod wedi ystyried ailagor lletygarwch awyr agored [yn gynt].

"Mae llacio cyfyngiadau teithio'n ddiweddar wedi achosi problemau eraill fel diffyg toiledau cyhoeddus, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y gwelsom yng Nghaerdydd a mannau eraill.

"Dylai gweinidogion weld sefydliadau trwyddedig a rheoledig fel rhan o'r ateb yn hytrach na'r broblem, ac os nad ydyn nhw am gael ailagor, fe ddylen nhw gael y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i achub swyddi yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Mae gennym ni wyddoniaeth ryfedd iawn sydd bellach yn caniatáu i chwaraeon a gweithgareddau awyr agored fynd ymlaen yn Lloegr, sydd wedi'i ddathlu gan arweinydd Llafur, Keir Starmer, ond lle na fydd pobl yng Nghymru sy'n cael eu rhedeg gan Lafur yn gallu gwneud hynny tan 3 Mai.

"Rhaid cael pobl yn yr awyr agored ac i fod yn egnïol fod yn flaenoriaeth i unrhyw lywodraeth ac ynghyd â'r penderfyniad i gadw campfeydd ar gau tan 10 Mai, mae Llafur yn anwybyddu'r wyddoniaeth ac yn anwybyddu effaith ymarfer corff ar les corfforol a meddyliol pobl."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds: "Nawr bod mwy a mwy o Gymru yn agor a bod bywyd yn araf yn dychwelyd i normal, mae'n bryd rhoi ein hadferiad yn gyntaf.

"Rwyf am weld cefnogaeth i'r unigolion hynny a fydd yn colli eu swyddi pan ddaw'r ffyrlo i ben, y rhai sy'n debygol o golli eu cartrefi pan godir y gwaharddiad ar droi allan a'r rhai y mae eu hiechyd meddwl wedi dioddef o ganlyniad i'r pandemig hwn.

"Dyma'r heriau y dylem ddechrau meddwl amdanyn nhw. Rwyf am weld cefnogaeth ariannol wedi'i thargedu i ddatrys y materion hyn. Bydd effeithiau Covid yn cael eu teimlo am flynyddoedd lawer ar ôl i bawb gael eu brechu."

Ychwanegodd: "Mae busnesau bach, yn enwedig yn y diwydiant lletygarwch, wedi cael eu taro'n galed gan y cyfnod clo, ac fe fydd yn rhyddhad iddyn nhw allu dechrau masnachu eto.

"Rydym wedi gweld golygfeydd o bobl yn mwynhau'r tywydd braf, a gyda phenwythnos hir o'n blaenau mae'n bwysig i bawb barhau i gadw at y rheolau. Byddai unrhyw symudiad yn ôl at Lefel 4 yn drychineb."