Yr ifanc a ŵyr: Wayne a Connagh Howard

  • Cyhoeddwyd
Wayne a Connagh HowardFfynhonnell y llun, S4C

Connagh Howard, seren y gyfres Love Island, a'i dad Wayne sy'n trafod eu perthynas tad a mab gyda Cymru Fyw.

Ers gadael Love Island, mae Connagh'n gweithio fel hyfforddwr personol a model.

Wedi ei eni yn 1953 yn Trowbridge yn nwyrain Caerdydd, mae ei dad Wayne wedi ymddeol ond wedi bod yn diwtor Cymraeg i ddysgwyr ar ôl 25 mlynedd o waith mewn ffatri gwaith dur.

Mae'r ddau'n byw yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Empics

Connagh am Wayne: 'Mae Dad yn berson lliwgar iawn. Mae'n hoffi bod yn entertainer, hoffi gwneud pobl i deimlo'n hapus a rhannu positifrwydd gyda phawb. Mae e'n gymeriad mawr ac yn gallu codi ysbryd yr ystafell, ble bynnag mae e.'

Dysgodd Dad sut i siarad Cymraeg dros 20 mlynedd yn ôl pan wnaeth e ddanfon fi a fy chwaer i ysgol Gymraeg (Ysgol Bro Eirwg, wedyn Ysgol Glantaf). Roedd e eisiau helpu fi a chwaer fi gyda gwaith cartref a pethau fel 'na.

Mae ganddon ni berthynas agos, ni wastad wedi bod yn agos fel mab a tad. Pan o'n i'n arfer chwarae rygbi 'oedd e wastad yn dod bob wythnos i wylio fi.

Ac 'oedd ganddon ni ddiddordebau fel darllen comics, gwylio ffilmiau ac ymarfer gyda'n gilydd.

Ffeindio fy llais

Dwi wastad wedi bod yn dawel ond dwi 'di dod mas o fy hun dipyn bach ers bod yn Love Island.

Mae Love Island yn rhoi ti mewn sefyllfa ti ddim wedi bod ynddo o'r blaen ac mae miloedd o bobl o gartre yn gwylio ti.

Dwi'n llai swil fel person nawr. 'Nath e gymryd rhai dyddie i gael arfer â'r camerau ond ar ôl hynny 'oedd e'n iawn.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Connagh ar Love Island

Roedd rhai pobl yn dweud bod fi rhy neis ar y gyfres - 'oedd fi jest yn bod yn fy hunan i fod yn onest ond mae'r gyfres ychydig bach yn cutthroat.

O'n i'n gwybod o'r dechrau mai jest gêm yw'r rhaglen ac o'n i ddim yn cymryd e o ddifri.

Addysg Gymraeg

'Oedd e'n blentyndod da, 'oedd lot o ffrindiau gen i ac es i i ysgol Gymraeg.

Dwi'n falch es i i ysgol Gymraeg achos mae 'di agor drysau i fi fel oedolyn a dwi'n trio neud llawer o ymdrech i ddefnyddio fe pob cyfle dwi'n cael.

Ffynhonnell y llun, Wayne Howard
Disgrifiad o’r llun,

Connagh a'i chwaer Elinor

'Oedd fi arfer chwarae rygbi i Ysgol Glantaf a chlwb lleol tan o'n i'n 20 mlwydd oed, wedyn nes i gael damwain ar y pitch a thorri pen-glin. Ar ôl hynny ges i brêc bach.

Dwi'n hoffi mynd i'r gampfa ac yn hoffi paffio a rhedeg erbyn hyn.

Gweithio gyda Dad

'Oedd ffilmio Cymru, Dad a Fi (cyfres newydd ar S4C sy'n dilyn Wayne a Connagh yn crwydro'r ynysoedd ar hyd arfordir Cymru) yn anhygoel, fi byth 'di bod i gweddill Cymru i fod yn onest, fi dim ond wedi bod yn y de.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni wastad 'di bod yn agos ond yn enwedig ers ffilmio'r gyfres"

'Oedd e'n neis i fynd i Ynys Môn i weld y Menai Straits, mynd i weld y bywyd gwyllt a neud heriau gwahanol, gwthio fy hun tu fas fy comfort zone.

O'n i rili 'di mwynhau fe. Oedd e'n sicr 'di neud fi deimlo bach mwy agos i Gymru, i gael mwy o brofiadau o'r wlad.

Mae Dad yn gymeriad mawr. Mae'n hoffi expressio ei hunan (mewn un rhaglen mae Wayne yn dawnsio ar y traeth). Dyw Dad ddim yn poeni...os mae e ishe dawnsio, go for it!

Ry'n ni wastad 'di bod yn agos ond yn enwedig ers ffilmio'r gyfres. Ni'n sicr yn cael lot o hwyl gyda'n gilydd. Dwi'n lwcus iawn i gael perthynas mor dda gyda fy nhad.

Ffynhonnell y llun, Empics
Ffynhonnell y llun, S4C

Wayne am Connagh: 'Pan dwi'n edrych ar Connagh dwi'n edrych ar fy hunan.'

Pan roedd Connagh'n fachgen bach roedd yn dawel ac yn sensitif iawn, fel fi yn yr oedran hynny.

Ffynhonnell y llun, Wayne Howard
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd Connagh yn blentyn tawel ac yn sensitif iawn'

Ac roedd e'n gymeriad tawel nes iddo fynd ar Love Island. Mae Connagh'n hyderus nawr ar ôl Love Island a bod o flaen y camera.

Pan ddaeth nôl o Love Island gofynnais iddo, 'sut oedd y profiad Connagh?'

Dywedodd e: "O'n i'n nerfus a swil iawn ar y dechrau achos o'n i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl o gwbl ond ar ôl sbel o'n i'n dod i arfer â'r camerau."

Daeth ymlaen yn dda gyda'r pobl eraill ar y sioe ac mae dal mewn cysylltiad gyda nhw heddiw.

Roedd yn brofiad da ac wedi rhoi cyfle a platfform iddo. Mae llawer o bobl yn gwybod pwy yw Connagh nawr.

Mae wedi newid yn gyfan gwbl ers gadael Love Island - mae'n fwy hyderus ac mae ganddo gariad nawr, sef Beth Dunlavey (seren The Circle).

Gwylio Love Island

Roedd e'n od i weld Connagh ar Love Island oherwydd dyna oedd y trobwynt yn ei fywyd. Roedd e'n gwisgo lan fel Elvis ac fel arfer byddai byth yn neud rhywbeth fel 'na achos mae allan o'i comfort zone.

Os gallith e wisgo lan fel Elvis o flaen camerâu Love Island, gallith e wneud unrhyw beth.

Erbyn diwedd y sioe roedd wedi trawsnewid ei hun yn gyfan gwbl, yn gwisgo lan a chusanu'r merched.

Yr unig beth o'n i ddim yn hoffi oedd sut oedd y merched yn trin fe. Roedd llawer o ferched yn ffansio fe ac roedd merch o Newcastle ddim yn neis i Connagh o gwbl.

Ar y cychwyn roedd hi'n ffansio fe ond roedd hi wedi cael gwared ohono pan ddaeth bachgen arall. Roedd y teulu i gyd yn teimlo'n grac.

Does gen i ddim problem gyda enwogrwydd Connagh - dwi'n teimlon falch drosto fe. Roedd e'n anodd iddo fe ymdopi ar y dechrau ond mae wedi dod i arfer ac yn enjoio fe nawr.

Plentyndod

Roedd Connagh arfer nofio a chwarae rygbi dros Ysgol Glantaf. Roedd e'n dawel iawn yn yr ysgol, fel fi.

Ar ôl gadael ysgol o'n i wedi newid - ro'n i'n araf yn datblygu yn yr ysgol. Ond bydden i'n disgrifio fy hun fel blodyn yn blodeuo pan o'n i'n hen.

Ffilmio'r gyfres

Cefais brofiad arbennig o dda, yn enwedig yn ymweld ag ynys Llanddwyn.

Cefais brofiad hudolus ar Ynys Enlli. Cyn mynd ar yr ynys roedd fy nwylo yn dechrau tinglo gyda egni.

Maen nhw'n dweud fod lle mae Dwynwen wedi ei chladdu rhwng y ddaear a'r nefoedd ac o'n i'n gallu teimlo cyffyrddiad byd natur.

Roedd yn brofiad bythgofiadwy.

Cystadleuaeth

Mae Connagh a fi yn gystadleuol iawn. Yn yr her coasteering roedd rhaid i fi nofio yn y môr a dwi'n casáu fe.

Roedd rhaid fi ddringo creigiau llithrig ac uchel, d'on i ddim eisiau ond fi'n gystadleuol ac roedd Connagh yno i helpu fi ac yn yr un ffordd o'n i'n helpu Connagh.

Ni'n dod ymlaen yn dda, fi wastad wedi cefnogi fe.

Mae'r ddau ohono ni'n llawn egni ac ni'n chwerthin a'n cael hwyl gyda'n gilydd.

Mae Connagh'n berson sensitif a charedig. Mae e'n gyfforddus o flaen y camera, ond dyw e ddim yn hoffi dawnsio o flaen pobl eraill fel finnau. Dw i'n siŵr y daw hynny rhyw ddydd!

Mae'r gyfres Cymru, Dad a Fi yn cychwyn am 8.25 ar nos Fawrth 6 Ebrill neu ar gael ar iplayer

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig