Sesiwn Fawr Dolgellau i'w chynnal yn rhithiol yn yr haf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Sesiwn Fawr Dolgellau "isio cynnig rhywbeth i'r ffyddloniaid"

Dywed trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau y bydd yr yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni, ond ar ffurf rithiol.

Roedd pwyllgor trefnu'r Sesiwn Fawr yn gobeithio y byddai'r ŵyl yn gallu cael ei chynnal ynghanol tref Dolgellau ar ôl gorfod gohirio yn 2020 o ganlyniad i Covid-19.

Ond o ystyried sefyllfa'r pandemig dywed y trefnwyr eu bod wedi penderfynu cynnal "gŵyl wahanol ond arloesol" yn 2021.

Y bwriad ydy "dathlu traddodiad cerddoriaeth gwerin Cymru a'r byd, ac adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl rithiol llynedd".

Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym ar lwyfan y Sesiwn Fawr yn 2019

Ar benwythnos y 16-18 Gorffennaf 2021, bydd modd i bobl danysgrifio i dderbyn pecyn amrywiol o sesiynau cerddorol, llenyddol a chomedi.

Dywed y trefnwyr y bydd Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau 2021 ar ffurf ddigidol ond yn cwmpasu perfformiadau "byw" gan artistiaid o Gymru a thu hwnt.

Y sesiwn yn 30 yn 2022

Dywedodd Guto Lewys Dafydd, Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau: "Mae hi wedi bod yn gyfnod ansicr i ni fel trefnwyr gŵyl dorfol a phoblogaidd.

"Ar ôl gorfod gohirio llynedd y gobaith oedd gallu gwahodd pawb yn ôl i Ddolgellau i ddathlu eleni, ond mae'n rhaid i ni warchod iechyd a lles y trigolion lleol yn ogystal â mynychwyr yr ŵyl a'n gwirfoddolwyr.

"Felly cynnal digwyddiad rhithiol fyddwn ni unwaith eto eleni, a dangos cefnogaeth i'n artistiaid."

Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Calan oedd yn cloi'r nos Sadwrn ar lwyfan y Ship yn 2019

Dywedodd Ywain Myfyr, Ysgrifennydd yr Ŵyl: "Rydyn ni'n falch fod modd i ni addasu arlwy'r Sesiwn Fawr er mwyn medru parhau i gynnig adloniant i bobl yn ystod cyfnod mor ansicr.

"Gan obeithio y bydd amgylchiadau yn caniatáu, edrychwn ymlaen at wahodd ein cynulleidfa triw yn ôl i Ddolgellau yn 2022, pan fydd y Sesiwn Fawr yn dathlu pen-blwydd yn 30 oed."

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Sesiwn Fawr, dolen allanol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.